Beth yw Rhanberchenogaeth?
Mae Rhanberchenogaeth yn ddewis gwahanol i rentu a pherchnogaeth lawn. Gyda rhanberchenogaeth byddwch yn prynu ‘cyfran’ o’ch cartref ac yn talu rhent ar y gweddill. Mae’n addas iawn i bobl gydag incwm cyson sy’n dymuno prynu eu cartref eu hunain ond na fedrant fforddio gwneud hynny trwy ddulliau confensiynol. Mae ‘Rhanberchenogaeth’ yn golygu mae gennych chi y mae’r unig hawl i fyw yn y cartref.
Gellir trefnu Rhanberchenogaeth trwy Gymdeithas Tai Clwyd Alyn sy’n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC). Cyrff nad ydynt er elw yw Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n cynnig tai fforddiadwy o safon uchel i’w rhentu ac ar gyfer rhanberchenogaeth. Dylai cyfanswm costau misol y rhent a’r morgais fod yn is na chost y morgais y byddai’n rhaid ei gael i brynu 100% o’r un cartref. Mae hyn yn wir oherwydd bod Rhanberchenogaeth yn cael ei gefnogi gan arian y Llywodraeth sy’n helpu i leihau’r rhent.
Mae Clwyd Alyn yn cadw meddiant ar y gyfran sy’n weddill o’r eiddo nad ydych yn ei phrynu ac yna rydych chi’n talu rhent i’r Gymdeithas ar y gyfran hon. Yn ddiweddarach, fel y byddwch yn medru fforddio hynny, os byddwch yn dymuno, gallwch gynyddu eich cyfran eich hun nes byddwch yn berchen ar yr eiddo i gyd. Ond nid oes raid i chi brynu gweddill eich cartref: chi biau’r dewis.
Mae gan Clwyd Alyn gartrefi newydd ar gyfer rhanberchenogaeth. Efallai y bydd gennym eiddo Rhanberchenogaeth ‘ail-werthu’ ar gael hefyd pan fydd Rhanberchennog yn dymuno symud.




Argraffu




