Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Datblygiad

Datblygiad

Rôl yr adran Datblygu yw cydlynu’r modd y darperir tai cymdeithasol newydd i ychwanegu at stoc ar rent y Grŵp neu’r portffolio o eiddo ar gyfer rhanberchenogaeth neu ar werth.  Mae’r adran hefyd yn rheoli’r gwaith gwella a gynllunir, cynnal a chadw ymatebol a chynnal a chadw cylchynnol ar yr eiddo ar rent.

 

Mae’r adran yn gweithio’n glos gydag aelodau o’r adrannau Gwasanaethau Tai a Thai gyda Gofal a Chefnogaeth, a’r Awdurdodau Lleol yn ardaloedd gweithredu’r Grŵp. Mae lefel ariannu datblygu’r Grŵp (Grant Tai Cymdeithasol) yn ddibynnol iawn ar allu’r adran i fodloni gofynion yr awdurdodau lleol trwy ddarparu’r mathau o dai y mae arnynt eu hangen yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.

Dynodir safleoedd posibl i’w datblygu yn ardaloedd blaenoriaeth yr awdurdodau lleol a gofynnir i’r adrannau Gwasanaethau Tai, Tai gyda Gofal a Chefnogaeth a’r awdurdodau lleol os byddant yn cefnogi’r datblygiad, ac os felly gynnig syniad o’r galw am y gwahanol fathau o dai yn yr ardal. Yr ymateb yw’r sail ar gyfer y dyluniad manwl y mae’r adran yn penderfynu ar hyfywedd y datblygiad oddi wrtho cyn symud ymlaen i adeiladu. 

Mae’r holl waith paratoi gwybodaeth tendr, manylebau, darluniau a dogfennau cytundeb yn cael ei oruchwylio gan yr adran, ac mae’r adran Dechnegol yn gwirio bod yr holl gynigion yn cydymffurfio â’r safonau a osodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo