Oni bai eich bod yn trosglwyddo o Denantiaeth Ddiogel/Sicr, byddwch yn dechrau eich tenantiaeth gyda Clwyd Alyn fel Tenant Rhagarweiniol. Cyflwynwyd Tenantiaethau Rhagarweiniol ar gyfer Tenantiaid newydd i Glwyd Alyn o Hydref 1998. Mae eich Tenantiaeth Ragarweiniol yn para am 12 mis, ac os na fyddwch yn torri unrhyw un o amodau’r denantiaeth yn ystod y 12 mis cyntaf, rydych yn dod yn Denant Sicr yn awtomatig.
Os ydych yn Denant Rhagarweiniol nid oes gennych yr un hawliau a Thenant Sicr. Gweler ein Cytundeb Tenantiaeth am ragor o fanylion.
Diben Tenantiaethau Rhagarweiniol yw darparu ffordd gyflymach o droi Tenantiaid newydd sydd wedi achosi niwsans parhaol i’w cymdogion yn fwriadol a chyson, allan o’u cartref. Mae Tenantiaethau Rhagarweiniol yn rhoi caniatâd i ni ddirwyn tenantiaeth i ben o fewn y cyfnod cychwynnol o 12 mis heb fod angen mynd trwy’r broses gyfreithiol faith o gael Gorchymyn Llys i droi’r drwgweithredwyr allan.
Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu’n deg, adeiladwyd mesurau amddiffyn i’r broses yr ydym yn ei dilyn. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi rhybudd addas yn nodi ein pryderon, a rhoi’r hawl i’r Tenantiaid dan sylw gael adolygiad o’n penderfyniad i wneud cais i’r Llys Sirol i ddirwyn y denantiaeth i ben.
Yn y mwyafrif llethol o achosion, unwaith y bydd y cyfnod cychwynnol o 12 mis wedi dod i ben, byddwch yn derbyn llythyr sy’n cadarnhau bod eich tenantiaeth wedi ei drosglwyddo yn Denantiaeth Sicr arferol.
Tenantiaid Diogel
Os gwnaethoch gychwyn eich tenantiaeth cyn 15 Ionawr 1989 bydd gennych Denantiaeth Ddiogel. Bydd hyn yn wir hefyd os byddwch, ar ôl 15 Ionawr 1989, wedi trosglwyddo i eiddo arall ar rent gan Clwyd Alyn, neu os byddwch wedi cyfnewid tenantiaeth yn ffurfiol gyda Thenant Diogel arall. Fel Tenant Diogel byddwch yn cael budd o ystod o hawliau cyfreithiol sy’n cael eu cynnwys yn ‘Siarter Tenantiaid’ Deddf Tai 1985, yn ogystal â chael eich rhent wedi ei osod yn annibynnol gan Swyddog Rhent,
Tenantiaid Sicr
Os daethoch yn Denant i ni ar ôl 15 Ionawr 1989, ac nad ydych yn disgyn i un o’r categorïau uchod, bydd gennych Gytundeb Tenantiaeth Sicr.
Mae Gwarant y Tenant yn sicrhau bod Cytundebau Tenantiaeth Ddiogel a Sicr yn sylfaenol yr un fath cyn belled ag y mae hawliau a chyfrifoldebau’r Landlord a’r Tenant dan sylw.