Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Ynglŷn â Datganiad o Werthoedd

Datganiad o Werthoedd

Datganiad o Werthoedd

Mae Grŵp Tai Pennaf wedi cytuno ar y Datganiad Gwerthoedd Craidd canlynol, sy’n ymrwymo staff ac Aelodau’r Bwrdd i wneud eu dyletswyddau o fewn y fframwaith hwn o werthoedd sylfaenol:

Ansawdd a Bod yn Ymatebol

  • Rydym yn ymdrechu am ragoriaeth, tegwch, proffesiynoldeb a chysondeb yn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
  • Byddwn yn trin ein cwsmeriaid mewn modd cyfeillgar, parod i helpu a chwrtais a byddwn yn ymdrechu i wneud pethau’n iawn, y tro cyntaf.
  • Rydym yn anelu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd, cost effeithiol, gan sicrhau gwerth gorau trwy’r Grŵp cyfan, gan ystyried bod ein tenantiaid a’n cwsmeriaid yn talu am ein gwasanaethau.  Er mwyn sicrhau hyn byddwn yn adolygu ein dulliau o ddarparu gwasanaeth yn gyson trwy ymgynghori â’n cwsmeriaid i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn y modd mwyaf cost effeithiol ac effeithlon ac yn ceisio barn ar y modd y gallwn ymateb yn fwy effeithlon i’r gwasanaethau y mae ar ein cwsmeriaid eu hangen.

Agosatrwydd Cymunedol

  • Byddwn yn ceisio darparu gwasanaethau mor agos at y cwsmeriaid â phosibl.
  • Byddwn yn ymdrechu i integreiddio ein gwasanaethau gyda chyrff sector statudol a gwirfoddol.
  • Byddwn yn buddsoddi mewn cymunedau lleol trwy ein hardal weithredu, gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau statudol i adfywio ac adeiladu cymunedau diogel a sefydlog.
  • Byddwn yn cynnig dewisiadau a chyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu, gyda’r nod o ddangos bod preswylwyr yn gyrru'r modd y mae’r gwasanaeth yn gwella yn ei flaen.

Buddsoddi yn Ein Pobl

  • Rydym yn rhoi gwerth ar ein holl staff, sydd yn un o’n prif asedau.
  • Byddwn yn buddsoddi mewn hyfforddi, datblygu ac yn lles ein staff ac yn cynnal ein hymrwymiad i Raglenni Buddsoddwyr Mewn Pobl.
  • Byddwn hefyd yn buddsoddi yn natblygiad Aelodau ein Bwrdd, i’w galluogi i gael digon o wybodaeth a bod yn effeithiol yn eu gwaith.

Cydraddoldeb Cyfle

  • Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ym mhob agwedd o’n gwaith, a byddwn yn ymdrechu i wella mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau ac adeiladau i bobl gydag anableddau.
  • Byddwn yn cyfathrebu â’n cwsmeriaid, gweithwyr a phartneriaid busnes eraill trwy’r iaith o’u dewis a byddwn yn hyrwyddo manteision gwasanaeth hollol ddwyieithog yn unol ag ysbryd ein Polisi Iaith Gymraeg.
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo