Ffyrdd o roi adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn cymryd pob mater sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddifrifol iawn ac mae’n ceisio datrys y problemau y rhoddir adroddiad i ni amdanynt, gan gefnogi a chynorthwyo’r rhai sy’n profi’r problemau yma.
Os dymunwch roi adroddiad am ddigwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans i ni a’ch bod yn byw yn un o’n eiddo, neu fod yr unigolyn sy’n achosi’r niwsans yn byw yn un o’n eiddo, gallwch gysylltu â ni yn un o’r ffyrdd canlynol:
Ffôn: 01745 536800 neu 0800183 5757
(Sylwer y bydd galwadau o ffonau symudol ar bris y gweithredwr)
E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk
Neu ysgrifennwch at: Ymholiadau
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
72 Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD
Bydd y ddwy ddogfen isod yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y ffordd y mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn ymchwilio i adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans.
PDF Polisi, Gweithdrefn a Phecyn Offer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Yn ystod ymchwiliad, efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi “Dyddiadur Digwyddiadau” neu “Daflen Cofnodi Niwsans Sŵn”.
PDF> Taflen Cofnodi Niwsans Sŵn
Weithiau bydd raid cymryd camau cyfreithiol i atal yr ymddygiad. Er mwyn gwneud hynny, bydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn dibynnu ar dystiolaeth y byddwch chi fel tyst neu ddioddefwr yr ymddygiad yn gallu ei rhoi. Felly, efallai y bydd gofyn i chi fynychu’r llys a rhoi tystiolaeth yn bersonol. Ysgrifennwyd y canllaw canlynol yn benodol i gynorthwyo a chefnogi’r tystion hynny sy’n mynychu’r llys i gefnogi achosion cyfreithiol a gychwynnwyd gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn.
PDF> Mynd i’r Llys: Gwybodaeth i’r Tyst
Mae llwyddiant y gwasanaeth y mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn medru ei ddarparu wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dibynnu yn sylweddol ar ddewrder a phenderfyniad yr unigolion sy’n byw dan fygythiad ac yng nghanol yr ymddygiad gwrthgymdeithasol. I gydnabod hyn, fe fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r unigolion hyn.




Argraffu




