Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Gyrfaoedd

Gyrfaoedd

Header Footer

 

 

 

 

Tai Pennaf yn derbyn prif wobr am fod yn le braf i weithio
 
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael lle yn swyddogol ar restr y Sunday Times o’r Cwmnïau Gorau i weithio iddynt am 2010, sy’n cynnwys cwmnïau canolig yn cyflogi rhwng 250 a 5,000 o staff.
 
Rydym hefyd yn un o ddim ond 31 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn y DU ac un o ddim ond tri darparwr sy’n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i gael y Dosbarth Cyntaf Un Seren dan y cynllun achredu “Mynegai Cwmnïau Gorau” a redir gan y Sunday Times.
 
Cyhoeddwyd y gwobrau yn y Sunday Times ar 7 Mawrth 2010 ac mae’n cydnabod ymdrechion y tîm cyfan i wneud hwn yn lle gwych i weithio.
 
Derbyniodd Roger Waters, Prif Weithredwr Grŵp Tai Pennaf y Wobr mewn cinio yn Llundain ac roedd Graham Worthington y Prif Weithredwr a Gill Murgatroyd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol hefyd yn bresennol.
 
Dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Gill Murgatroyd “Dyma’r tro cyntaf i ni ymgeisio am gael ein rhestru yn y Sunday Times, ac rwy’n teimlo’n falch iawn gan mai ni yw’r unig Ddarparwr Tai Cymdeithasol o Gymru i gyrraedd rhestr y 100 uchaf.”
 
Ychwanegodd Roger Waters, Cadeirydd Pennaf “Roedd yn fraint mynychu’r digwyddiad 100 Cwmni Gorau i Weithio Iddynt gan y Sunday Times ac rwyf mor falch fy mod yn arwain Grŵp Pennaf. Mae’r clod, fodd bynnag, yn mynd i’r staff yn y Grŵp sy’n cyfrannu at wneud Pennaf yr hyn ydyw! Rwyf yn wirioneddol falch bod ein gweithwyr yn gweld Pennaf fel Cwmni Gorau i Weithio Iddo.”
 
Os ydych chi am ddod yn rhan o’n llwyddiant pam na edrychwch chi ar ein cyfleoedd gwaith presennol sy’n cael eu rhestru ar y chwith i’r dudalen hon.
   

                    

                  

  

 

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo