Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Ynglŷn â Hanes Hanes - CTCA

Hanes - CTCA

Ynglŷn â Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Hanes

Hanes y Gymdeithas             

Wedi ei lansio yn Hydref 1978 fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig heb fod yn elusennol (LCC), i ateb y galw cynyddol am dai yn y gymuned trwy’r hen Sir Clwyd a Dosbarth Aberconwy.  Dros ei 30 mlynedd o fodolaeth, mae wedi ymestyn i reoli 4,919 o unedau yn ardal chwe awdurdod unedol (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys) ym Mawrth 2008. Prif waith Clwyd Alyn yw darparu tai a chyflenwi anghenion tai cysylltiedig ar gyfer amrywiaeth o anghenion cymunedol. 


Cychwynnodd gwaith y Gymdeithas mewn swyddfa fechan ar Stryd Cinmel, Y Rhyl, gyda dau aelod o staff.  Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, roedd y Gymdeithas yn berchen ar chwe safle, a oedd i gynnig wyth deg o unedau llety.  Parhaodd y gwaith a threfnodd y Gymdeithas drosglwyddiad eiddo yng Ngogledd Cymru yn llwyddiannus, eiddo oedd yn perthyn i gymdeithasau tu allan i’r ardal mewn rhai achosion, i berchnogaeth y Gymdeithas.  Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn roedd y Gymdeithas wedi tyfu i fod yn gorff gweithredol gyda 258 o dai dan ei rheolaeth.

Parhaodd Clwyd Alyn i weld cynnydd cyson ym mhob agwedd o’r gwaith.  Disgrifiodd Adroddiad y Cadeirydd i Gyfarfod Blynyddol 1988 dwf y Gymdeithas fel un “rhyfeddol!”.  Ar y pryd roedd cost hanesyddol y stoc dai dros £25 miliwn, y staff yn fwy na 60, a chylch ei gweithgareddau yn ymdrin â phrosiectau na ellid fyth fod wedi eu rhagweld ychydig flynyddoedd ynghynt.

Rhyw ddeuddeng mlynedd a hanner wedi ei sefydlu, roedd gan y Gymdeithas fwy na 1,600 o wahanol eiddo dan ei rheolaeth ac roedd wedi cychwyn ar raglen ddatblygu £60 miliwn, a’i gwelodd yn dyblu yn ei maint o fewn y ddwy flynedd nesaf.  Roedd yr ardal yr oedd y Gymdeithas yn gweithredu ynddi yn parhau i ehangu, gyda datblygiadau newydd ar Ynys Môn a throsglwyddiad gwirfoddol Stad Oldford y Trallwng, a aeth â ni i Ganolbarth Cymru.

Roedd Hydref 1999 yn gyfnod allweddol yn hanesyddola bu’n flwyddyn gyffrous iawn i Clwyd Alyn. Wrth i’r byd yn grwn ddathlu diwedd un Mileniwm a chychwyn cyfnod newydd, dathlodd y Gymdeithas ei Phenblwydd yn 21ain ym mis Hydref. Fel rhan o’r dathliadau, lluniodd Dr Buddug Owen, fel Cadeirydd ar y pryd, lyfryn dan y teitl “Clwyd Alyn Celebrates 21 Years”, oedd yn cynnig golwg gyffredinol ar lwyddiannau’r Gymdeithas dros y 21 mlynedd cyntaf. Cyflwynwyd y llyfryn i Denantiaid a Phreswylwyr Clwyd Alyn, ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan Aelodau’r Bwrdd a’r Staff, ddoe a heddiw; yn ogystal â thenantiaid a phreswylwyr, ac fe’i lansiwyd yn swyddogol gan Mr Peter Law, AC yn yr 20fed Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ym Medi 1999.


Yn Chwefror 2000 sefydlodd Clwyd Alyn is-gwmni elusennol, dan yr enw Cymdeithas Tai Tŷ Glas Cyf i hwyluso gwell defnydd o adnoddau ariannol, hwyluso mynediad at ffynonellau ariannol eraill, a darparu gwasanaethau fyddai’n cyd-fynd â rhai Clwyd Alyn.  Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gyda rheolau elusennol.  Ym Mawrth 2001, trosglwyddwyd y gweithgaredd Gofal a Thrwsio, yn cynnwys asiantaethau yn Wrecsam ac yng Nghonwy o Clwyd Alyn i Tŷ Glas.

O Fai 2007 trosglwyddwyd Asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy dan TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriad a Diogelu Gwaith) i Gofal a Thrwsio Cymru, gan adael Tŷ Glas i reoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Wrecsam.

Oherwydd newidiadau sylweddol i reolaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn arbennig o ran safonau adrodd ariannol, bu’n rhaid adolygu strwythur y Grŵp yn ystod 2002 i sicrhau effeithlonrwydd yng ngweithgareddau ac adnoddau’r Gymdeithas.  Bwriad yr adolygiad o strwythur y Grŵp oedd rhesymoli gweithgareddau yn y Grŵp i sicrhau bod y gwasanaethau yn cyd-fynd â’i gilydd, gan hwyluso cynllunio tymor hir mewn modd unedig a rhoi cyfle i ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon. 

Arweiniodd yr adolygiad at y Grŵp Tai Pennaf cyfredol.  Ymgorfforwyd Pennaf fel Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ar 22 Ionawr 2003 ac fe’i Cofrestrwyd ar 31 Mawrth 2003 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.  Roedd yn darparu Gwasanaethau Corfforaethol i Aelodau’r Grŵp o 1 Gorffennaf 2003.  Ar yr un pryd, fe wnaeth Clwyd Alyn fabwysiadu rheolau elusennol a daeth Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn is-gwmnïau i Pennaf.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo