Croeso i’r Adran Gofal a Chefnogaeth

Kevin Hughes - Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth
Mae’n bleser gennyf roi gwybodaeth i chi am yr amrywiol wasanaethau Gofal a Chefnogaeth sydd gennym.
Yn gyntaf, rydym ni yng Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn yn rhoi pwysigrwydd mawr ar ddiwallu anghenion Gofal a Chefnogaeth y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, nid diwallu’r angen am dai yn unig. Rydym yn darparu amrywiaeth o lety o ansawdd uchel gyda gofal a chefnogaeth sy’n cael ei ddarparu gan dîm o staff profiadol sydd wedi eu hyfforddi, gan ein galluogi i ddiwallu anghenion diwylliannol, cefnogaeth a gofal y boblogaeth leol amrywiol. Dyluniwyd y gwasanaethau hyn yn sensitif i fodloni anghenion unigolion trwy fodelau Gofal a Chefnogaeth blaengar.
Yn ail, mae’r holl staff sy’n gweithio yn yr adran Gofal a Chefnogaeth yn credu’n gryf ei bod yn bwysig i bawb sy’n derbyn gwasanaethau gael dewis a chyfle gwirioneddol yn eu bywydau, yn ogystal â chael parch fel aelodau gwerthfawr o’r gymuned y maent yn byw ynddi. Yr ymrwymiad cadarn hwn i greu dewis a chyfleoedd i bobl all fod ag angen gofal a chefnogaeth ychwanegol sy’n gyrru ein holl wasanaethau a’n datblygiad.
Yn drydydd mae, 'Tai gyda Gofal a Chefnogaeth’ yn fras yn disgrifio’r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i bobl gydag amrywiaeth eang o anghenion Gofal a Chefnogaeth. Yn gyffredinol mae’r gwasanaethau hyn yn disgyn i ddau faes: Gwasanaethau Gofal, sy’n cynnwys gwasanaethau preswyl/nyrsio a gofal dydd; a Gwasanaethau Cefnogol sy’n cynnwys Foyers, Gwasanaethau Byw â Chefnogaeth, Gwasanaethau i Bobl Hŷn (gan gynnwys Tai Cysgodol, Tai Cysgodol Iawn, Gofal Ychwanegol ac Ymddeol a Phrydlesu) a Phartneriaethau Tai gyda Chefnogaeth. Mae’r meysydd gwasanaeth hyn yn cael eu rheoli gan bedwar Rheolwr Adrannol, a bydd pob un ohonynt yn disgrifio eu gwasanaethau yn fwy manwl yn yr adran ‘Ein Staff’ o’r wefan Gofal a Chefnogaeth.
Yn bedwerydd, rydym hefyd yn falch o weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o asiantaethau sydd â gwybodaeth ac arbenigedd a fydd yn helpu i gyflawni ansawdd bywyd positif i’n holl denantiaid a phreswylwyr. Ein nod yw parhau i ddatblygu ffurfiau newydd llawn dychymyg o ofal a chefnogaeth.
Yn olaf, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cael yr wybodaeth yma yn ddefnyddiol a diddorol. Os bydd arnoch angen unrhyw wybodaeth cysylltwch â ni.




Argraffu




