Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Ynglŷn â Bwrdd Rheoli Bwrdd Rheoli CAHA

Bwrdd Rheoli CAHA

Ynglŷn â Cymdeithas Tai Clwyd Alyn - Bwrdd Rheoli

Mae’r cyfrifoldeb am reolaeth y Gymdeithas, yn y pen draw yn disgyn ar y Bwrdd Rheoli sydd gan gyfoeth o sgiliau a phrofiad a enillwyd dros nifer o flynyddoedd, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd yn hollol wirfoddol.  Er mwyn cyflawni’r amcanion a nodwyd, mae’r Bwrdd yn pennu’r strategaethau a’r polisïau, sydd wedyn yn cael eu gweithredu trwy Dîm Rheoli’r Grŵp.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys naw o Aelodau: pump wedi eu penodi gan Pennaf, tri wedi eu penodi gan y tenantiaid (un ar gyfer pob rhanbarth, hy Wrecsam/Powys, Sir y Fflint a Sir Ddinbych/Ynys Môn/Conwy) a ddau o Aelod annibynnol.  Mae Clwyd Alyn yn aelod o Grŵp Tai Pennaf trwy benodi mwyafrif Aelodau’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob deufis ac mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, gyda sesiwn gaeedig ar ddiwedd pob cyfarfod, yn ôl y gofyn, ar gyfer busnes cyfrinachol.  Yn ychwanegol at gyfarfodydd y Bwrdd, mae amrywiaeth o Bwyllgorau Ymgynghorol a Thŷ sy’n monitro rheolaeth prosiectau penodol ac yn adrodd i’r Bwrdd ar eu gweithgareddau, ee Pwyllgorau Ymgynghorol Cartrefi Preswyl, Pwyllgorau Hosteli, Pwyllgorau Foyer a chyfarfodydd Pwyllgorau Craffu. 

Mae Prif Weithredwr y Grŵp, gyda chefnogaeth Dirprwy Brif Weithredwr y Grŵp a’r Cyfarwyddwyr swyddogaethol, yn sicrhau bod y Bwrdd yn cael gwybod am yr holl faterion sydd dan sylw ac yn cynorthwyo’r Bwrdd i ffurfio a gweithredu’r strategaethau a nodwyd.

Mae holl Aelodau’r Bwrdd yn gorfod mynd trwy arfarniad blynyddol, a ddyluniwyd i ddatblygu Aelodau o’r Bwrdd a gwella perfformiad y Bwrdd.  Mae aelodau newydd yn mynd trwy Raglen Anwytho ffurfiol, tra bod y Bwrdd cyfan yn adolygu eu hanghenion hyfforddi yn gyson i wella eu heffeithiolrwydd.

Mae aelodaeth yn agored i’r cyhoedd ar yr amod eu bod yn bodloni rhai meini prawf a chymeradwyaeth gan y Bwrdd Rheoli.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys:

Cadeirydd a Chyfarwyddwr ar y Bwrdd - Mr Roger M Waters

Ymunodd a’r Bwrdd Rheoli yn 2005  a daeth yn Gadeirydd  yng 2007. Syrfëwr Siartredig wedi ymddeol wedi 22 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus ac 16 gyda Chymdeithas y Perchenogion Tir a Busnes yng Nghymru.  Cyn Gadeirydd Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig Gogledd Cymru a Llywodraethwr Athrofa Astudiaethau Gwledig Cymru. 

 Is-Gadeirydd a Chyfarwyddwr ar y Bwrdd - Yr Athro David Jones, OBE

Ymunodd a Byrddau Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Ty Glas yng Ngorffennaf 2006, ac mae yn aelod o Fwrdd Pennaf ers Gorffennaf 2007.

Nyrs Gofrestredig gyda 40 mlynedd o brofiad yn y GIG ac Addysg Uwch a Chymrawd o Goleg Brenhinol y Nyrsys sydd wedi ymddeol erbyn hyn.  Mae o'n Athro Nyrsio Emeritws ym Mhrifysgol Sheffield,  Ymddiriedolwr i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Sir Ddinbych, ac mae o'n  Cynghorydd Cymuned i Corwen.

AELODAU’R BWRDD:

  Ms Julie Graham

Ymunodd â Bwrdd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yng Ngorffennaf 2009 fel Aelod y Tenantiaid o’r Bwrdd dros Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn. Mae Julie wedi gwasanaethu ar amrywiol bwyllgorau gwirfoddol dros y deng mlynedd diwethaf ac mae’n gyn Ysgrifenyddes i’r Ffederasiwn Cymdeithasau Tenantiaid, Preswylwyr a Phrydleswyr.  Yn astudio Seicoleg ar hyn o bryd, mae hefyd yn Ysgrifenyddes Pwyllgor Rhieni Cadlanciau’r Môr. 

Mr Derek Holmes

  Mr Derek Holmes

Ymunodd â Bwrdd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Ionawr 2009.  Mae’n gyn reolwr adwerthu fu’n gwasanaethu fel Cynghorydd Tref a Bwrdeistref yn Abergele, yn ddiweddarach daeth yn weithiwr iechyd meddwl, yn Gomisiynydd Deddf Iechyd Meddwl ac yn Aelod o Fwrdd cymdeithas dai yn Sir Gaerhirfryn.  Ar hyn o bryd mae’n aelod gweithredol o’r ‘Co-operative Group’.

Mr Dafydd Ifans  Mr Dafydd Ifans

Ymunodd â Byrddau Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Tŷ Glas yn Chwefror 2009.Mae Dafydd Ifans yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys sydd wedi dal nifer o swyddi rheoli uchel mewn awdurdodau lleol, corff cyhoeddus anadrannol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

  Dr Buddug Owen, OBE

Un o Aelodau Bwrdd Cyntaf Pennaf Cyf ac ymunodd a’r Bwrdd Rheoli Clwyd Alyn ym Mawrth 1992.  Yn Anesthetydd wedi Ymddeol gydag Awdurdod Iechyd Clwyd.  Yn dilyn ei hymddeoliad, penodwyd yn Swyddog Meddygol Cwynion (Cymru).  Cyn Lywydd Cymdeithas Hanes Meddygaeth Cymru, Cyn Gadeirydd ar Gymdeithas Tai Clwyd Alyn a Pennaf Cyf.  Aelod o Orsedd y Beirdd (y Wisg wen).  Awdur.

 

  Mrs Judy Owen                 

Ymunodd â Byrddau Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Tŷ Glas ar 17 Hydref 2007. Ymddeolodd yn ddiweddar o swydd Rheoli Personél wedi ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn ymwneud ag addysg, diwydiant, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol.  Mae hi’n Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a bu’n gweithredu fel Aelod Gweithredol ar Fwrdd Elusen Gofrestredig.

 

  Mr Peter Vale

Ymunodd â’r Bwrdd Rheoli Clwyd Alyn ym Medi 1997.  Bu’n gweithio am 25 mlynedd yn y byd symud tai, fel Rheolwr ac yna fel Cyfarwyddwr Ariannol. Cyn drysorydd Cymdeithas Tenantiaid Yale Park, Wrecsam ac un o Aelodau Cyntaf Ffederasiwn Cymdeithasau Tenantiaid, Preswylwyr a Phrydleswyr Clwyd Alyn. Trysorydd Cymdeithas Preswylwyr Hafan Dirion.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo