Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Ynglŷn â Golwg gyffredinol Ynglyn a Cymdeithas Tai Clwyd Alyn - Cyflwyniad

Ynglyn a Cymdeithas Tai Clwyd Alyn - Cyflwyniad

Cyflwyniad

Mae llawer o gyfleoedd i gwrdd â gweledigaeth Clwyd Alyn yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol trwy wasanaethau newydd, gwella’r ddarpariaeth bresennol a sicrhau effeithiolrwydd o ran cost. Mae’r Gymdeithas wedi adolygu ei gweithgareddau gyda golwg ar wella ei gwasanaethau ac ehangu y gwasanaeth mae’n gynnig. Dynodwyd marchnadoedd nad yw Clwyd Alyn yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd hefyd a bydd y rhain yn cynnig cyfleoedd i’r Gymdeithas wella ei gwasanaethau a sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol.

Mae’r Gymdeithas yn ymroddedig i ddatblygu cynlluniau newydd i fodloni anghenion y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.  I gynorthwyo yn y broses hon, fe wneir pob ymdrech i gynnal a gwella’r berthynas gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill. Gwneir pob ymdrech i fodloni anghenion tai gan gynnwys mentrau nad ydynt angen Grant Tai Cymdeithasol. Strategaeth allweddol ar gyfer y dyfodol yw na fydd Clwyd Alyn yn cychwyn ar unrhyw fenter nes y bydd yn fodlon bod asesiad risg digonol wedi ei gynnal a bod y fenter yn berthnasol i weithgareddau’r Gymdeithas a’i bod yn ariannol hyfyw.

Bydd y Gymdeithas felly yn parhau i gynyddu’r ddarpariaeth o dai a gwasanaethau cysylltiedig. Bydd yn ceisio cynyddu effeithiolrwydd trefniadol trwy well ansawdd a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ac effeithiolrwydd o ran costau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy fframwaith Gwerth Gorau.  Mae Adnoddau Dynol, Systemau Gwybodaeth ac Adnoddau Ariannol yn holl bwysig i wireddu ein hamcanion yn llwyddiannus ac felly mae’r strategaethau hyn wedi cael eu hadolygu yn y broses.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo