Ynglyn a Cymdeithas Tai Clwyd Alyn - Cyflwyniad
Cyflwyniad
Mae llawer o gyfleoedd i gwrdd â gweledigaeth Clwyd Alyn yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol trwy wasanaethau newydd, gwella’r ddarpariaeth bresennol a sicrhau effeithiolrwydd o ran cost. Mae’r Gymdeithas wedi adolygu ei gweithgareddau gyda golwg ar wella ei gwasanaethau ac ehangu y gwasanaeth mae’n gynnig. Dynodwyd marchnadoedd nad yw Clwyd Alyn yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd hefyd a bydd y rhain yn cynnig cyfleoedd i’r Gymdeithas wella ei gwasanaethau a sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol.
Mae’r Gymdeithas yn ymroddedig i ddatblygu cynlluniau newydd i fodloni anghenion y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. I gynorthwyo yn y broses hon, fe wneir pob ymdrech i gynnal a gwella’r berthynas gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill. Gwneir pob ymdrech i fodloni anghenion tai gan gynnwys mentrau nad ydynt angen Grant Tai Cymdeithasol. Strategaeth allweddol ar gyfer y dyfodol yw na fydd Clwyd Alyn yn cychwyn ar unrhyw fenter nes y bydd yn fodlon bod asesiad risg digonol wedi ei gynnal a bod y fenter yn berthnasol i weithgareddau’r Gymdeithas a’i bod yn ariannol hyfyw.
Bydd y Gymdeithas felly yn parhau i gynyddu’r ddarpariaeth o dai a gwasanaethau cysylltiedig. Bydd yn ceisio cynyddu effeithiolrwydd trefniadol trwy well ansawdd a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ac effeithiolrwydd o ran costau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy fframwaith Gwerth Gorau. Mae Adnoddau Dynol, Systemau Gwybodaeth ac Adnoddau Ariannol yn holl bwysig i wireddu ein hamcanion yn llwyddiannus ac felly mae’r strategaethau hyn wedi cael eu hadolygu yn y broses.




Argraffu




