Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Cartrefi i'w Gosod Golwg Gyffredinol

Golwg Gyffredinol

Sefydlwyd Clwyd Alyn ym 1978, ac mae’n Gymdeithas Dai nid er elw yn cynnig cartrefi i’w rhentu a’u gwerthu yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Ein nod yw diwallu anghenion tai a gofal cysylltiedig y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.

Mae’r mwyafrif o’n cartrefi yn dai a fflatiau ar rent.  Mae gennym hefyd gyfran gynyddol o’n stoc wedi ei neilltuo ar gyfer darparu rhanberchenogaeth a chynlluniau prydlesu eraill, ynghyd â llety a ddarperir i bobl gydag anghenion o ran cefnogaeth. 

Mae Clwyd Alyn wedi ei chofrestru gyda Chynlluniad Cenedlaethol Cymru, sef y corff Llywodraethol sy’n ariannu a goruchwylio gwaith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.  Mae ein Bwrdd Rheoli yn cynnwys gweithwyr proffesiynol lleol, tenantiaid a phreswylwyr sy’n ymroddedig i ddarparu tai.  Mae’n gosod a monitro'r polisďau a osodir gan y Gymdeithas, ac yn cyflogi’r staff sy’n angenrheidiol i gyflawni’r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir i’n tenantiaid.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo