Font Options:
Increase text size, access key
Decrease text size, access key
Rydych yma:Cartref Newyddion Datganiadau i'r Wasg

Datganiadau i'r Wasg

Bydd preswylwyr o Gynllun Byw â Chefnogaeth Isallt yn Llandudno yn dod â’u bwcedi a’u cadachau i ddigwyddiad Addysg Cerbydau ar y parc masnachol nos Wener (6 Awst).
23.07.2010
Her ffotograffig i bobl ifanc ddigartref
Mae grŵp o bobl ifanc o Wrecsam sydd wedi cael profiad o fod yn ddigartref neu sydd wedi bod mewn perygl o brofi hynny, wedi bod yn cael golwg newydd ar y byd o’u cwmpas mewn cystadleuaeth ffotograffig.
20.07.2010
Bydd Grŵp Tai yn dathlu’r bartneriaeth sydd wedi helpu rhagor o bobl leol i gymryd y cam cyntaf i brynu cartref ar Ynys Môn, trwy gynnal agoriad swyddogol ar stad o gartrefi newydd y mae wedi eu datblygu ar yr ynys.
16.07.2010
Glenys yn ennill gwobr am ddatblygu a hyfforddi
Cyflwynwyd gwobr arbennig i Reolwraig Cynllun Gofal Ychwanegol Llanrwst i gydnabod ei hymrwymiad i ddatblygu proffesiynol a hyfforddiant.
14.07.2010
Bydd mwy na 100 o breswylwyr cynlluniau byw â chefnogaeth i bobl ddigartref o bob rhan o Ogledd Cymru yn mynychu cynhadledd arbennig yn Wrecsam ar ddiwedd y mis fydd yn cwmpasu cyfleoedd newydd iddynt adeiladu bywydau newydd iddynt eu hunain.
08.07.2010
Contract newydd yn rhoi Gofal Cwsmeriaid yn gyntaf
Mae cwmni a enillodd wobrau cenedlaethol newydd sicrhau contract pum mlynedd sy’n werth dros hanner miliwn o bunnoedd i archwilio a rhoi gwasanaeth i fwyleri nwy tenantiaid Cymdeithas Tai Clwyd Alyn ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.
07.07.2010
Ymgyrch pacio bagiau Foyer Wrecsam i godi arian
Cododd staff a phreswylwyr o Foyer Wrecsam, Prosiect Byw â Chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf £125 tuag at gostau diwrnod hyfforddiant mewn cynhadledd trwy bacio nwyddau yn Somerfield yn Gwersyllt yn ddiweddar. Roedd y bobl ifanc hefyd yn rhannu bagiau siopa ecogyfeillgar Pennaf i gwsmeriaid a gwybodaeth am Gynlluniau Clwyd Alyn. Yn y llun mae’r preswylwyr Kayleigh Williams, ar y chwith a Lyndsey Phillips. Y rhai eraill a gymerodd ran oedd Kirsty Jones, Jamie Wilson, Shani Platt a Kylie Downward.
06.07.2010
Tîm tai yn coginio a llosgi calorïau i helpu hosbis
Mae staff o Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ym mhrif swyddfa Grŵp Tai Pennaf, ar y parc busnes yn Llanelwy wedi bod yn codi arian ar gyfer hosbis plant lleol trwy rafflo tocynnau sw a choginio cacennau i’w gwerthu i’w cydweithwyr. Ond rhag ofn bod y staff yn teimlo y gallai cefnogi achos da o’r fath gael effaith niweidiol ar eu pwysau, mae’r tîm wedi trefnu ymgais i ‘losgi calorïau’ trwy drefnu sesiwn farathon ar feic ymarfer yn y swyddfa, gan ei gadw i droi o 8 y bore tan 6 y nos. Cyn belled maent wedi codi £354 at Hosbis Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy.
05.07.2010
Mae tîm o bobl yn mynd i ‘Frwydro’r Balsam’ dydd Iau nesaf (8 Gorffennaf) mewn ymgais i glirio’r planhigyn ymledol o warchodfa natur leol.
01.07.2010
Preswylwyr yn medi ffrwyth eu gwaith caled
Mae preswylwyr Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Eleanor yn Shotton, yn medi ffrwyth eu rhandir newydd ar y safle.
01.07.2010
Preswylwyr yn gwella eu sgiliau celf
Bu’r arlunwyr proffesiynol Eleri Jones ac Alison Mercer yn helpu grŵp o breswylwyr Llanrwst i wella eu technegau celf yr wythnos ddiwethaf.
23.06.2010
Staff Pennaf yn tacluso Parc Busnes
Rhoddodd staff Grŵp Tai Pennaf eu hamser i dacluso eu hardal ddydd Iau pan wnaethant drefnu i gasglu sbwriel ar y parc busnes lle maent yn gweithio.
10.06.2010
Garddwyr Pentre Mawr yn mwynhau ffrwyth eu llafur
Mae preswylwyr yn Pentre Mawr, Cynllun Cartrefi Cysgodol Clwyd Alyn yn Abergele yn dechrau medi ffrwyth eu gwaith caled wrth i’w prosiect garddio ddechrau dwyn ffrwyth.
10.06.2010
Gwaith yn Dechrau ar Gynllun Gofal Ychwanegol
Dydd Gwener diwethaf daeth y tîm tu ôl i Gynllun Gofal Ychwanegol £7.7 miliwn ar gyfer pobl hŷn ym Mhlas Madoc, Wrecsam i achlysur arbennig i nodi dechrau gwaith ar y datblygiad arloesol (Mehefin 4).
10.06.2010
Tîm tai yn ennill gwobr gwasanaethau cyfreithiol
Mae tîm o swyddogion cefnogi o Gymdeithas Dai sy’n gweithredu ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi cael Marc Ansawdd y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol i gydnabod y gwasanaeth proffesiynol y maent yn ei gynnig.
10.06.2010
Y gwaith yn cychwyn ar gartref nyrsio modern iawn
Bu’r tîm tu ôl i ddatblygu cartref nyrsio modern iawn ym Mae Colwyn yn ymweld â’r safle yr wythnos ddiwethaf i nodi cychwyn y gwaith ar y cynllun £5 miliwn.
08.06.2010
Golchi ceir noddedig yn mynd i’r afael â’r llwch folcanig
Pan ddechreuodd y staff a’r ymwelwyr mewn Cynllun Byw â Chefnogaeth gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn i bobl ifanc ddigartref yn Sir y Fflint sylwi ar lwch folcanig ar geir, penderfynodd y gweithwyr prosiect a’r preswylwyr gynnig eu gwasanaeth ar gyfer golchi ceir noddedig ym Mhrosiect y Cei, Maesglas. Codwyd cyfanswm o £83 ar y diwrnod a roddwyd i’r elusen Canser y Fron.
02.06.2010
Bydd y tîm tu ôl i ddatblygu cartref nyrsio modern iawn ym Mae Colwyn yn ymweld â’r safle'r wythnos nesaf i nodi cychwyn y gwaith ar y cynllun £5 miliwn.
28.05.2010
Gwobr werdd i brosiect gardd
Daeth prosiect i drawsnewid gardd Prosiect Byw â Chefnogaeth i bobl ifanc sengl ddigartref yn Sir y Fflint yn drydydd mewn gwobr amgylcheddol genedlaethol.
25.05.2010
Dyn cynnal a chadw yn gwirfoddoli fel rheolwr pêl-droed ieuenctid
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu’r cyfraniad rhagorol y mae miliynau o wirfoddolwyr yn ei wneud ar draws y Deyrnas Unedig.
25.05.2010
Staff tai yn wynebu her gerdded fyd-eang
Cychwynnodd mwy na 100 o staff tai o bob rhan o Ogledd Cymru ar her gorfforaethol fyd-eang yr wythnos hon, i godi eu lefelau ffitrwydd a chael hwyl ar yr un pryd.
24.05.2010
Gŵyl ‘ResFest’  yn cael ei henwebu am wobr trwy Gymru
Enillodd cynhadledd undydd arbennig ar gyfer preswylwyr sy’n byw mewn Cynlluniau Byw â Chefnogaeth i bobl ddigartref wobr genedlaethol.
24.05.2010
To-eco ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol blaengar
Mae’r contract ar gyfer Cynllun Gofal Ychwanegol newydd £7.7 miliwn yn Wrecsam wedi cael ei lunio ac mae’r gwaith wedi cychwyn yn ddiweddar ar y cynllun blaengar ym Mhlas Madoc fydd yn cynnwys nodweddion arloesol gan gynnwys ardal ar y to sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn llawn o blanhigion i ddenu adar ac ieir bach yr haf.
05.05.2010
Cwmni adeiladu yn ennill contract £828,350 gan Grŵp Tai
Mae cwmni adeiladu o Sir y Fflint wedi sicrhau contract gwerth £828,350 i adeiladu tai fforddiadwy newydd yn y Rhyl, gan roi hwb mawr i’r economi leol a helpu i ddiogelu swyddi adeiladu lleol mewn cyfnod pan mae mawr angen am hynny.
05.05.2010
Dewis Lovell ar gyfer cynllun tai fforddiadwy £1.68 miliwn yn Wrecsam
Yn ddiweddar cytunwyd ar gontractau ar gyfer 14 o dai newydd fforddiadwy gan roi hwb i’r economi leol a chynnig tai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt yn Wrecsam.
05.05.2010
Mae’r cynllun cartref gofal ychwanegol blaenllaw yn Sir Ddinbych ar gyfer pobl hŷn sydd am fyw’n annibynnol yn eu cartrefi gyda chymorth wrth lawr 24 awr y dydd, yn rhoi “hafan ddiogel” i denantiaid, yn ôl yr union bobl hynny sy’n defnyddio’r cyfleuster.
05.05.2010
Eiddo yn y Rhyl i gael gweddnewidiad sy’n werth £240,000
A massive facelift has been completed on a number of Housing Association homes in Prince’s Street, Rhyl, thanks to a Property and Environment Grant from Welsh Assembly Government through Denbighshire County Council.
05.05.2010
Gwobr i Gynllun Gofal Ychwanegol y Rhyl
Mae Cynllun Gofal Ychwanegol Gorwel Newydd yn y Rhyl wedi ennill gwobr yng Ngogledd Cymru sy’n dathlu arfer gorau wrth weithio gyda rheoliadau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol.
05.05.2010
Contract £3.8 miliwn wedi ei lunio i adeiladu cartref nyrsio newydd
Cytunwyd ar gontract £3.8 miliwn ynglŷn â chartref nyrsio newydd i’w adeiladu ym Mae Colwyn, gan gynnig hwb sylweddol i’r diwydiant adeiladu a chanolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gofal preswyl i bobl hŷn.
05.05.2010
Mae Grŵp Tai Pennaf, sydd ai ganolfan ar Barc Busnes Llanelwy, yn cefnogi staff ledled Gogledd Cymru sy’n dymuno dysgu Cymraeg.
04.05.2010
Mae grŵp o denantiaid a phrydleswyr sydd wedi cael eu hyfforddi i arolygu’r gwasanaethau y mae eu landlord yn eu darparu, wedi cael eu henwebu am wobr genedlaethol.
26.04.2010
Grŵp Tai yn sicrhau hwb o £20miliwn i’r fasnach adeiladu
Sicrhaodd Grŵp Tai Pennaf hwb yr oedd galw mawr amdano i’r fasnach adeiladu ar draws Gogledd Cymru gyda chyfanswm o fwy na £20 miliwn o gontractau wedi eu llofnodi yn ddiweddar gyda chontractwyr adeiladu lleol.
23.04.2010
Tîm y Foyer yn dysgu sgiliau newydd
Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc o gynllun i’r digartref yn Wrecsam anghofio eu gofidiau a chyflwyno sioe wych o ddrymio traddodiadol, dawnsio a cherddoriaeth yr wythnos hon.
16.04.2010
Preswylwyr Pentre Mawr yn helpu hosbis
Cododd preswylwyr Pentre Mawr, cynllun tai cysgodol yn Abergele a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, £266 at Hosbis Sant Cyndeyrn mewn bore coffi yn ddiweddar.
14.04.2010
Isallt yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf
Talodd unigolyn ifanc sydd wedi symud ymlaen i wirfoddoli yn y gymuned deyrnged i’r Cynllun Byw â Chefnogaeth yn Llandudno a roddodd gymorth iddo ddatblygu hyder a sgiliau newydd.
12.04.2010
Fe fydd arddangosfeydd a’r cyfle i ennill taleb hamdden mewn diwrnod agored yn Garden City ar 19eg o Ebrill.
09.04.2010
Mae pobl ifanc o Gynllun Byw â Chefnogaeth yn Wrecsam ar fin arddangos eu sgiliau cynhyrchu ffilm ymysg talentau artistig eraill, dyma fydd uchafbwynt prosiect celfyddydol sydd wedi ei gynnal dros y misoedd diwethaf.
07.04.2010
Bydd preswylwyr o gynlluniau byw â chefnogaeth yng Ngogledd Cymru, yn helpu i wella gwasanaethau i eraill trwy gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig yn Llanelwy ar 23 Ebrill.
07.04.2010
Enwebwyd cynhadledd sy’n ddiwrnod o ŵyl ar gyfer preswylwyr sy’n byw mewn Cynlluniau Byw â Chefnogaeth i bobl ddigartref am wobr genedlaethol.
06.04.2010
Diwrnod Cymunedol i Holway
Roedd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn un o nifer o sefydliadau ac asiantaethau a ymunodd â Chyngor Sir y Fflint am Ddiwrnod Cymunedol a drefnwyd yn ardal Holway o Meadowbank, Treffynnon yn ddiweddar. Yn y llun yn y digwyddiad mae Swyddog Tai Clwyd Alyn Catherine Foulkes gyda’r Heddwas Anthony Gray.
01.04.2010
100fed Pen-blwydd Penigamp i Annie
Cynhaliwyd parti mawr gan gyfeillion a theulu Mrs Annie Gledhill, un o breswylwyr Rhuthun, er mwyn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed.
01.04.2010
Mae preswylwyr Pentre Mawr, Cynllun Tai Cysgodol a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Abergele, yn cynnal Bore Coffi rhwng 10 am a 12 y prynhawn ar 3 Ebrill er budd Hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy.
24.03.2010
Mae preswylwyr o Pentre Mawr, Cynllun Tai Cysgodol gyda warden a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn ymhlith y nifer o grwpiau cymunedol sy’n cymryd rhan yn y gwaith i glirio a phlannu coed yn y parc lleol.
23.03.2010
Bydd Diwrnod o Hwyl i’r Teulu a drefnwyd gan breswylwyr lleol yn cael ei gynnal yn Ysgol Babanod Oldford yn y Trallwng, Powys, ddydd Sadwrn rhwng 11 y bore a 4 y prynhawn.
23.03.2010
Band yn helpu preswylwraig i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed
Bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth yn taro nodyn llon i wraig o Ruthun, Mrs Annie Gledhill pan fyddant yn dod i chwarae yn ei pharti pen-blwydd ar 1 Ebrill.
23.03.2010
Mae Cymdeithas Tai Clwyd, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn arwain y ffordd pan ddaw yn fater o daclo problemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol.
04.03.2010
Grŵp Tai Lleol yn cyrraedd rhestr 100 Gorau'r Sunday Times
Llwyddodd Grŵp Tai Pennaf, y Dewis Cyntaf fel Darparwr Tai a Gwasanaethau Cysylltiedig, i gyrraedd rhestr y 100 cwmni gorau i weithio iddyn nhw gan y ‘Sunday Times’ ar gyfer cwmnïau canolig eu maint.
04.03.2010
Gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd i ddigwyddiad ymgynghori agored lle bydd cynlluniau ar gyfer tai fforddiadwy amgylcheddol gyfeillgar yn Aston Mead, Glannau Dyfrdwy yn cael eu harddangos.
03.03.2010
Cyfraniad Anferth y Tîm Cefnogi Cwsmeriaid at elusennau
Mae Tîm Cefnogi Cwsmeriaid Grŵp Tai Lleol wedi codi swm anferth o £7,054,81 at elusennau mewn llai na 12 mis.
02.03.2010
Dywedodd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, sy’n rheoli mwy na 5000 o gartrefi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, y bydd yn parhau i beidio dioddef unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gweithredu yn gryf pan fydd digwyddiadau o gam-drin hiliol.
01.03.2010
Gary wrth ei fodd yn ei gartref newydd
Mae symud i’ch cartref eich hun fel prynwr am y tro cyntaf yn amser arbennig i unrhyw un, ond i Gary Jones a’i deulu roedd rheswm ychwanegol dros ddathlu.
25.02.2010
Taflu crempog yn Llys Erw
Fe gafodd preswylwyr, ffrindiau a chymdogion amser gwych yn Llys Erw yn Rhuthun yn ddiweddar pan wnaethant gymryd rhan mewn ras grempog tu allan i’r Cynllun Tai Cysgodol sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf.
24.02.2010
Dathliad pen-blwydd Llys Eleanor
Yn Chwefror 2009 symudodd y preswylwyr cyntaf i Lys Eleanor, cynllun Gofal Ychwanegol arloesol Sir y Fflint. Er mwyn dathlu pen-blwydd cyntaf y cynllun sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, cynhaliwyd dathliad pen-blwydd ar ddydd Llun 15 Chwefror.
16.02.2010
Preswylwyr yn plannu coeden
Mae preswylwyr Cynllun Tai Cysgodol yn Abergele, Gogledd Cymru wedi plannu coeden Gastanwydden yn eu parc lleol fel rhan o’r Wythnos Goed Genedlaethol.
11.02.2010
Mae preswylwyr o Bentref Mawr, sef Cynllun Tai Cysgodol yn Abergele, a gaiff ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, wedi anfon siec o £100 tuag at Gronfa Pwyllgor Argyfwng Trychineb Haiti, casglwyd y swm ganddynt yn ystod y pedwar diwrnod cyntaf yn dilyn y daeargryn.
08.02.2010
Plymwyr Dan Hyfforddiant yn ymuno â Thîm Clwyd Alyn
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, sy’n rhan o Grŵp Tai Pennaf, â’i ganolfan yn Llanelwy, yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo er mwyn cefnogi tair merch sy’n hyfforddi i fod yn blymwyr, trwy roddi cymorth iddynt i gefnogi ei gwaith coleg gyda phrofiad gwaith uniongyrchol.
08.02.2010
Dyfodol newydd i un o breswylwyr Y Dyfodol
Mae dynes ifanc o Gynllun Y Dyfodol, yn y Rhyl wedi ymgymryd â’r her o gychwyn gyrfa newydd yn y Fyddin.
08.02.2010
Mae preswylwyr o Bentref Mawr, sef Cynllun Llety Cysgodol yn Abergele, a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, sy’n rhan o Grŵp Tai Pennaf, wedi anfon siec o £100 tuag at Gronfa Pwyllgor Argyfwng Trychineb Haiti, casglwyd y swm ganddynt yn ystod y pedwar diwrnod cyntaf yn dilyn y daeargryn.
08.02.2010
Preswylwyr y foyer yn cael y clwyf garddio
Mae preswylwyr cynllun yn Wrecsam i bobl ifanc ddigartref wedi bod allan yn helpu i wella eu hamgylchedd lleol gyda phrosiect garddio a gefnogir gan Cadw Cymru’n Daclus.
04.02.2010
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, ymhlith y sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig ar gyfer prynwyr cartref am y tro cyntaf yn hwyrach y mis hwn.
04.02.2010
‘Arwyr Cymunedol’ yn cyfarfod y Prif Weinidog
Bu gwraig o Landudno sy’n ymroddedig i helpu pobl ddi-waith yn ôl i’r gweithle mewn derbyniad gyda’r Prif Weinidog a’i wraig yn Stryd Downing i gydnabod gwaith ‘Arwyr Cymunedol’ lleol o bob rhan o’r wlad.
04.02.2010
Yn Chwefror 2009 symudodd y preswylwyr cyntaf i Lys Eleanor, cynllun Gofal Ychwanegol arloesol Sir y Fflint. Er mwyn dathlu pen-blwydd cyntaf y cynllun sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, cynhelir dathliad pen-blwydd ar Ddydd Llun 15 Chwefror.
04.02.2010
Tenantiaid, Preswylwyr a Phrydleswyr yn helpu i lunio’r dyfodol
Mae Tenantiaid, Preswylwyr a Phrydleswyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yng Ngogledd Cymru yn cymryd mwy o ran yn y gwaith o lunio dyfodol y Gymdeithas, ac maent nawr yn rhan o gytundeb partneriaeth newydd.
03.02.2010
Mae preswylwyr a ffrindiau mewn cynllun tai i’r rhai dros 55 oed yn Rhuthun yn gobeithio y bydd pobl leol yn ymuno â nhw am ras grempog fawr ar Ddydd Mawrth Ynyd (Chwefror 16).
01.02.2010
‘Arwyr Cymunedol’ i gyfarfod y Prif Weinidog
Gwahoddwyd rheolwr cynllun lleol sy’n helpu pobl ifanc ddi-waith yn ôl i’r gwaith i dderbyniad gyda’r Prif Weinidog a’i wraig yn Stryd Downing ddydd Iau.
24.01.2010
Glanhau cymunedol yn ennill gwobr
Mae diwrnod glanhau cymunedol ar Stryd y Tywysog, y Rhyl wedi ennill gwobr arbennig yng ngwobrau blynyddol Cadw Cymru’n Daclus yn Llandudno.
21.01.2010
Prosiect gardd yn ennill gwobr genedlaethol
Mae prosiect i weddnewid gardd Prosiect Byw â Chefnogaeth i bobl ifanc sengl ddigartref yn Sir y Fflint wedi ennill Gwobr Gynaladwyedd Genedlaethol.
19.01.2010
Bore coffi Isallt yn codi arian
Cododd Bore Coffi a gynhaliwyd yn Isallt, Cynllun Byw â Chefnogaeth a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn i bobl ifanc ddigartref yn Llandudno, £142 yn ddiweddar. Bydd yr arian yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng Hosbis Dewi Sant a Chronfa Foeth y Preswylwyr.
18.01.2010
Diogelwch tân yn gyntaf i grŵp tai
Mae diogelu pobl ac eiddo rhag peryglon tân wedi arwain at weld prif ddarparwr tai cymdeithasol yr ardal yn penodi ei Swyddog Profi Systemau Tân ei hun.
15.01.2010
In January 2009 the first residents moved in to Gorwel Newydd, a building which has transformed the West End promenade on Rhyl’s sea front, and next week the Extra Care Scheme managed by Clwyd Alyn Housing Association in partnership with Denbighshire County Council, is holding a first birthday celebration.
12.01.2010
Mae preswylwyr o Gynllun Llety Cysgodol Pentre Mawr a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Abergele wedi codi £100 i gronfa apêl ‘Help for Heroes’ sy’n cefnogi lluoedd arfog Prydain yn Afghanistan drwy gofio eraill dros gyfnod y Nadolig.
10.01.2010
Cynnes a chlud mewn ‘gwesty pryfaid’
Mae grŵp o bobl ifanc a fu unwaith yn ddigartref ei hunain wedi bod yn creu cartref newydd i’r pryfaid yng ngardd eu cartref newydd.
07.01.2010
Basged Lawn yn Pentre Mawr
Yn y llun gwelir Mr James Stuart, preswyliwr yn Pentre Mawr, cynllun Tai â Chefnogaeth a reolir yn Abergele, sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, gyda Maeres Abergele Delyth McCrae a Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, Alex Jones a’r fasged a enillodd yn y Raffl Fawr Nadolig eleni i godi arian at Gronfa’r Preswylwyr.
06.01.2010
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, wedi prynu tir yn Isgraig, Lôn Newydd, Llangefni, gyda golwg ar ddatblygu rhagor o fflatiau fforddiadwy i bobl leol.
04.01.2010
Sialens bêl-droed
Mae pobl ifanc o Wrecsam wedi bod yn helpu i godi arian i elusen trwy wynebu sialens bêl-droed yn ddiweddar.
21.12.2009
Ymunodd grŵp o breswylwyr ifanc a staff o Brosiect yn Wrecsam sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref i glirio sbwriel o’u hardal yn ddiweddar.
16.12.2009
Cyhoeddi Cynghorydd yn ‘Bencampwr Lleol’ yng Ngwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth 2009
Cyhoeddwyd mai cynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Goronwy Edwards oedd enillydd y categori Pencampwr Lleol fel rhan o Wobrau Hyrwyddo Annibyniaeth pwysig eleni. Cyhoeddwyd enwau’r rhai a ddewiswyd fel pencampwyr yn y sector mewn seremoni wobrwyo drawiadol yng Nghaerdydd nos Iau.
12.12.2009
Mae’r preswylwyr wedi dechrau symud i’w fflatiau yng Nghynllun Gofal Ychwanegol newydd sbon Hafan Gwydir yn Llanrwst.
08.12.2009
Mae Cymorth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru wrth eu boddau o gael cyhoeddi enillwyr Gwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth 2009, sy’n cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth cynllunio a darparu gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai ledled Cymru.
04.12.2009
Llywydd Grŵp Tai yn derbyn yr OBE
“Diwrnod Perffaith” dyna sut y disgrifiodd Mrs Eurwen Edwards, llywydd anrhydeddus Grŵp Tai Pennaf, y diwrnod pan dderbyniodd ei OBE gan y Tywysog Siarl yn ddiweddar.
03.12.2009
Dyddiad i ddyddiadur eich ffotograffydd:
30.11.2009
Mae lloches nos Tŷ Nos ar Ffordd Holt yn Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog genedlaethol a gaiff ei chyhoeddi yng Nghaerdydd nos Wener. Mae’r Lloches Nos wedi cyrraedd y cam terfynol yng Ngwobrau Sefydliad Tai Siartredig Cymru 2009, lle mae’r cyfleuster wedi cael ei enwebu yng nghategori ‘Arwain y Gymuned Leol’. Bydd llwyddiannau a chyraeddiadau gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant tai yng Nghymru yn cael eu cydnabod mewn dathliad gala mawreddog a gaiff ei gynnal yn y brifddinas heno.
25.11.2009
Tai Newydd Fforddiadwy i Bobl Leol
Aeth Aelodau Bwrdd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, ar daith canfod ffeithiau yn ddiweddar o amgylch tai’r Gymdeithas ar Ynys Môn. Yn ystod yr ymweliad, manteisiodd Cadeirydd Clwyd Alyn, Glyn Jones, ar y cyfle i groesawu Janet ac Eric Wyn Hughes i’w cartref newydd yng nghynllun Bryn y Gelli sydd newydd gael ei gwblhau ym Mrynsiencyn.
25.11.2009
Mae’r AC Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai, i agor Tŷ Nos, lloches nos barhaol, yn swyddogol ar Holt Road yn Wrecsam ddydd Iau.
18.11.2009
Rheolwraig gyda Grŵp Tai Pennaf yn Ennill yng Ngwobrau Tai Dros 50 y Deyrnas Unedig 2009
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn falch o gyhoeddi fod y Rheolwraig Datblygu Busnes, Mrs Jen Roberts o Acrefair, yn Wrecsam, wedi cael ei henwi fel yr enillydd yng nghategori Gweithredwr Cymuned Gofal Parhaus i rai Wedi Ymddeol Mwyaf Neilltuol yng Ngwobrau Tai Dros 50 y Deyrnas Unedig.
02.11.2009
Clywodd tenantiaid, preswylwyr a phrydleswyr Cymdeithas Dai yng Ngogledd Cymru nad oes cyfnod pwysicach erioed wedi bod i ganolbwyntio ar y busnes o ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel a gaiff ei gefnogi gan ofal cwsmeriaid o lefel uchel yn gyson.
30.10.2009
AC yn cwrdd â phobl ifanc Isallt
Bu Aelod y Cynulliad dros Ogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygu Gwledig, Brynle Williams, yn ymweld ag Isallt, y Cynllun Byw â Chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref yn Llandudno yn ddiweddar i gwrdd â’r staff a’r preswylwyr, i ddarganfod mwy am y cyfleusterau a’r cymorth a gaiff eu cynnig yn y cynllun.
27.10.2009
Bydd Aelod y Cynulliad dros Ogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygu Gwledig, Brynle Williams, yn ymweld ag Isallt, y Cynllun Byw â Chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref yn Llandudno, ddydd Gwener 23 Hydref i gwrdd â’r staff a’r preswylwyr, i ddarganfod mwy am y cyfleusterau a’r cymorth a gaiff eu cynnig yn y cynllun.
20.10.2009
Dyddiad i’ch dyddiadur lluniau: Bydd dathliad yng nghynllun tai cysgodol Pentre Mawr yn Abergele ar gyfer un o’r preswylwyr - Thomas Michael Henry (neu ‘Tim’ i’w ffrindiau) – sy’n dathlu ei ben-blwydd yn gant ddydd Mawrth nesaf, 5 Tachwedd –
19.10.2009
Bu pobl ifanc sy’n byw mewn prosiectau Byw â Chefnogaeth i’r digartref yn Sir y Fflint yn cefnogi menter genedlaethol i dynnu sylw at broblemau tai yr wythnos ddiwethaf.
15.10.2009
Bu pobl ifanc sy’n byw mewn prosiectau Byw â Chefnogaeth i’r digartref yn Sir y Fflint yn cefnogi menter genedlaethol i dynnu sylw at broblemau tai yr wythnos ddiwethaf.
15.10.2009
Bu pobl ifanc sy’n byw mewn prosiectau Byw â Chefnogaeth i’r digartref yn Wrecsam yn cefnogi menter genedlaethol i dynnu sylw at broblemau tai yr wythnos ddiwethaf.
14.10.2009
Chris Ruane, AS, yn ymweld â Chynllun Gofal Ychwanegol Arloesol
Bu Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, yn ymweld â chynllun Gofal Ychwanegol newydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn ddiweddar, sydd newydd ei agor yn y Rhyl ar gyfer pobl hŷn. Cymrodd y cyfle i gwrdd â staff a thenantiaid Gorwel Newydd, y cynllun Gofal Ychwanegol arloesol sydd werth £8.3m ar bromenâd y Rhyl, yng nghwmni Prif Weithredwr Grŵp Tai Pennaf, Graham Worthington.
13.10.2009
GALWAD AR I DENANTIAID GOGLEDD CYMRU ‘GYFRIF POB CEINIOG’
Cymdeithasau Tai yn dod at ei gilydd i lansio llawlyfr cynghori newydd
13.10.2009
Mae Canolfan Ragoriaeth sy’n galluogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol ar fin agor yn Nyffryn Conwy, ac maent ar hyn o bryd yn recriwtio staff domestig a staff arlwyo.
12.10.2009
Bore Coffi Clwyd Alyn yn llwyddo i godi £300 tuag at Gymorth Canser Macmillan
Bu staff Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf yn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd 2009, digwyddiad Cymorth Canser Macmillan, yn ddiweddar drwy drefnu paned ym Morfa Hall yn y Rhyl. Cafwyd cefnogaeth dda i’r digwyddiad, ac fe lwyddwyd i godi cyfanswm o £300 i Elusen Gofal a Chymorth Canser Macmillan.
09.10.2009
Preswylwyr Llys y Waun yn cael budd o ailwampio yn sgil ‘Diwrnod Gweithredu yn y Gymuned’
Mae preswylwyr yng Nghartref Preswyl Llys y Waun yn y Waun ger Wrecsam, a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn mwynhau’r gwelliannau a ddaeth yn sgil ailwampio diweddar yn y cartref, sydd wedi arwain at droi hen ystafell ymolchi a oedd yn cael ei defnyddio fel stordy yn Ystafell Weithgareddau lon a llachar.
09.10.2009
Bu staff Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf yn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd 2009, digwyddiad Cymorth Canser Macmillan, yn ddiweddar drwy drefnu paned ym Morfa Hall yn y Rhyl. Cafwyd cefnogaeth dda i’r digwyddiad, ac fe lwyddwyd i godi cyfanswm o £300 i Elusen Gofal a Chymorth Canser Macmillan.
05.10.2009
Mae cynllun tai cymdeithasol, a adeiladwyd gan Grŵp Linford yng Ngogledd Cymru fel rhan o fenter partneriaeth gyda Grŵp Tai Pennaf a Chyngor Sir y Fflint, wedi ennill gwobr i’r Awdurdod Lleol.
02.10.2009
Diwrnod ‘Jeans for Genes’ yn Pennaf
Trefnodd Tîm Gofal Cwsmeriaid Canolfan Gyswllt Grŵp Tai Pennaf ym Mharc Busnes Llanelwy fod staff y gymdeithas yn cymryd rhan mewn diwrnod ‘Jeans for Genes’ heddiw (2 Hydref). Am rodd o £2 (neu fwy!), roedd y staff yn cael dod i’r gwaith mewn jîns, ac fe godwyd cyfanswm o £85 tuag at yr achos teilwng hwn.
02.10.2009
Bydd staff sy’n gweithio yn y Ganolfan Gyswllt yng Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn trefnu Ocsiwn Elusennol a Noson o Adloniant yng Nghlwb Rygbi’r Rhyl, Ffordd y Dyffryn, y Rhyl ar ddydd Sadwrn 17 Hydref.
25.09.2009
Bydd adnodd newydd yn cael ei lansio'r wythnos nesaf a fydd yn helpu tenantiaid cymdeithasau tai yng Ngogledd Cymru i reoli eu harian ac osgoi mynd i ddyled.
24.09.2009
Mae staff Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd 2009 Cefnogaeth Canser Macmillan trwy drefnu cyfarfod dros baned yn Morfa Hall, Stryd y Baddon y Rhyl ar ddydd Gwener, 25 Medi rhwng 10 am a 12.00 noon.
22.09.2009
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf., 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
Digital UK Investors in People in Logo Welsh Language Board Logo Positive about Disabled People Logo Adobe Acrobat Logo Browsealoud Logo