Skip to content
83 Homes
Well Street, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2PQ
In Progress

Dyddiad cwblhau: Haf 2027

Bydd y datblygiad hwn, sy’n werth £18 miliwn, yn darparu 83 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni yn nhref Bwcle, Sir y Fflint. Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan Castle Green Homes Limited ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynnwys tai 2, 3 a 4 ystafell wely, byngalos 2 ystafell wely a fflatiau 1 ystafell wely. Yn ogystal â hyn, mae dau fyngalo pwrpasol, wedi’u haddasu ar gyfer tenantiaid penodol. Mae’r holl gartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes ac wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i anghenion y preswylwyr newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy. Byddant yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Dai SARTH a Tai Teg.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a llesiant pobl. Adeiladwyd y cartrefi newydd hyn gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, felly maent yn eithriadol o effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Tai wedi’u lleoli i fanteisio i’r eithaf ar wres yr haul a golau naturiol.
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern,’ sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl.
  • Prynu defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn fach.

Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu’r preswylwyr i warchod yr amgylchedd, gan arbed ynni gwerthfawr ac arian yn y pen draw hefyd.

Mae 83 o gartrefi ar y safle hwn

  • 16 o Fflatiau 1 ystafell wely
  • 6 o Fynaglos 2 ystafell wely
  • 2 o Fyngalos wedi’u haddasu
  • 29 o Dai 2 ystafell wely
  • 28 o Dai 3 ystafell wely
  • 2 Dŷ 4 ystafell wely

Manteision byw yn ein cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Maent wedi’u hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, ac yn defnyddio’r technolegau a’r defnyddiau diweddaraf i sicrhau bod eich cartref yn gost-effeithiol i’w redeg.
Cymorth Cyfeillgar
Cymorth cyfeillgar gan eich Swyddog Tai dwyieithog.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
FyClwydAlyn, gwasanaeth ar-lein diogel am ddim i reoli eich tenantiaeth o unrhyw le, unrhyw bryd.
Northern Gateway, Deeside, Flintshire, new development

Hoffech chi fyw yma?

I wneud cais i fyw yma, bydd angen i chi ymgeisio drwy Gyngor Sir y Fflint. Dilynwch y ddolen isod i ddechrau’r broses.
Ymgeisiwch nawr