Skip to content

Mae staff Llys y Waun yn dathlu ar ôl dod i’r brig fel y cartref gofal ‘gorau’ yn ardal Wrecsam, a chael sgôr gyfartalog o 9.9 mewn dros 90 o adolygiadau annibynnol.

Cartref gofal preswyl yw Llys y Waun, yn nhref y Waun, ger Wrecsam. Mae’r cartref yn cynnig gofal sy’n addas i bobl â dementia i hyd at 66 o breswylwyr, ar draws pump o ‘aelwydydd’. Mae’n rhoi pwyslais ar hybu annibyniaeth a chreu cymuned ffyniannus, tra’n rhoi sylw i anghenion unigol pob preswyliwr. Roedd y staff wrth eu bodd i glywed fod Llys y Waun wedi dod i’r brig fel y cartref gofal â’r sgôr uchaf yn ardal Wrecsam, yn ôl 94 adolygiad ar y wefan boblogaidd: carehome.co.uk

Mae gwefan carehome.co.uk yn cyhoeddi adolygiadau diduedd o gartrefi gofal ledled y Deyrnas Unedig a dyma’r prif adnodd i gael gwybodaeth ac adborth diduedd am gartrefi gofal pan fydd pobl yn chwilio am gartref i’w hunain neu i aelod o’r teulu. Mae preswylwyr neu’u teuluoedd yn cael eu hannog i rannu eu profiadau a’u barn, ac yn cael cyfle i sgorio gwahanol agweddau ar y cartref gofal, gan gynnwys cyfleusterau, bwyd a diod, gofal a chymorth, safonau glendid, staff a gwerth am arian.

ClwydAlyn, y darparwr tai cymdeithasol, yw perchennog a rheolwr Llys y Waun. Ar hyn o bryd, mae gan y cartref sgôr gyfartalog o 9.9 / 10, ar sail cyfanswm o 94 o adolygiadau (ysgrifennwyd 83 o’r adolygiad yn ystod y ddwy flynedd diwethaf) sydd wedi tynnu sylw at agweddau cadarnhaol ar y cartref.

Yn ôl un adolygydd, “Does dim geiriau i gyfleu pa mor hyfryd yw’r cartref a’r staff.

Ychwanegodd, “Nid yw’n debyg o gwbl i gartref gofal nodweddiadol a does unman gwell i aelodau eich teulu.”

Dywedodd adolygydd arall, “Cyfleusterau gwych, staff gwych ac yn bwysicaf oll, gofal dosbarth cyntaf.”

Mewn adolygiad diweddar o gartref Llys y Waun, dywedodd perthynas un o’r preswylwyr: “Mae mam wedi bod yn Llys y Waun am ddwy flynedd a hanner erbyn hyn ac mae hi’n derbyn gofal gwych, cyfeillgar gan bob aelod staff; maen nhw’n ystyriol  iawn o anghenion mam ac yn rhoi llawer o gymorth iddi.

“Byddwn yn sicr yn argymell Llys y Waun os ydych yn chwilio am gartref gofal i un o’ch anwyliaid.”

“Rydyn ni’n gwneud ymdrech i sicrhau bod y gofal mae preswylwyr Llys y Waun yn ei dderbyn o’r safon uchaf. Rydyn ni wrth ein bodd fod ein sgôr ar CareHome.co.uk yn adlewyrchu ein gofal a’n hymrwymiad i greu ‘cartref oddi cartref’ i bawb sy’n byw yma’.
“Gall y penderfyniad i symud i ofal preswyl fod yn anodd dros ben. Rydyn ni’n falch iawn o’n staff sy’n gwneud Llys y Waun yn ofalgar, yn ddiogel ac yn ymatebol gan ganolbwyntio ar y gymuned.”
Jane Humphreys
Rheolwr Llys y Waun
“Mae pob aelod staff sy’n gweithio yn Llys y Waun wedi ymroi i roi gofal o’r safon uchaf i’n preswylwyr. Mae’r sgôr bodlonrwydd eithriadol o uchel a’r adolygiadau cadarnhaol yn brawf o’u gwaith caled a’u hymroddiad. Hoffem ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi mynd i’r drafferth i ysgrifennu adolygiad; rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth yn fawr iawn.”
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chymorth ClwydAlyn

Yn ddiweddar fe agorodd Llys y Waun ardd synhwyraidd sydd wedi cael ei chreu ar gyfer preswylwyr sy’n byw gyda dementia. Ewch i: Llys y Waun – Clwydalyn i gael rhagor o fanylion.