Skip to content
01 - 02

Rydym am ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Er mwyn cyflawni hyn, fe fyddem yn hoffi gwybod beth mae pobl yn ei feddwl am ein gwasanaethau. Rydym yn croesawu adborth a byddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau neu ganmoliaeth yr ydych am eu rhoi am ein gwasanaeth neu aelod o staff. Bydd hyn wedyn yn ein helpu i ddarparu gwell gwasanaethau.

Ond, fe wyddom bod pethau yn medru mynd o chwith weithiau. Os ydych chi’n anfodlon ar wasanaeth yr ydych wedi ei gael gennym, fe fyddem yn hoffi i chi ddweud wrthym fel ein bod yn medru gwneud ein gorau i wneud pethau’n iawn. Wedi’r cwbl, dim ond os byddwn yn gwybod beth sydd ddim yn gweithio’n dda y gallwn wella ein gwasanaeth i chi.

Cwyn yw pan fyddwch yn dweud wrthym nad ydych yn fodlon oherwydd:-

  • Safon y gwasanaeth yr ydych wedi ei gael gan ClwydAlyn
  • Ein bod wedi peidio â gwneud rhywbeth yr oeddem wedi cytuno i’w wneud
  • Y ffordd y cawsoch eich trin
  • Gallwch gyflwyno cwyn trwy gysylltu â ni trwy un o’r prosesau a amlinellir uchod

Byddwn yn cydnabod eich cwyn cyn pen 5 diwrnod gwaith o’i derbyn. Os yn bosibl, credwn ei bod yn well ceisio datrys eich pryderon yn gyflym trwy gynnig datrysiad lleol cyn tua 10 diwrnod gwaith.

staff and residents chatting at Merton Place Nursing Home
Canmoliaeth
Mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Pan fyddwch yn derbyn gwasanaeth rhagorol gan un o’n staff sydd wedi ei hyfforddi, byddem wrth ein bodd yn clywed am hynny.

Mae’r ganmoliaeth bob amser yn cael ei hanfon ymlaen at yr unigolyn a’i Reolwr ac mae’n ein helpu i wybod ein bod yn gwneud pethau’n iawn!
Cyflwyno cwyn
family smiling with kids infront of their home
Pryderon
Os byddwch chi yn teimlo’n anfodlon am unrhyw ran o’r gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn gan ClwydAlyn, rydym yma i wrando arnoch chi.

Os nad ydych yn siŵr a yw’n gŵyn neu y byddech yn hoffi siarad hefo ni, gallwn eich arwain trwy’r broses, i’w gwneud mor hawdd â phosibl.
Codi pryder
Resident and staff walking in Merton Place
Cwynion
Gall cwyn fod pan na fyddwch yn hapus gyda safon y gwasanaeth, neu pan fyddwn wedi peidio â gwneud rhywbeth yr ydym wedi cytuno i’w wneud.

Gall hefyd fod pan fyddwch wedi profi triniaeth wael gan ClwydAlyn neu pan na fydd gwaith trwsio wedi cael ei wneud cyn pen amser penodol.
Cyflwyno cwyn

Cwestiynau Cyffredin

Yn ychwanegol at ddefnyddio’r Ffurflen Gwynion ar y wefan, gallwch hefyd gysylltu â ni trwy unrhyw un o’r dulliau a nodir isod.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn cysylltu â chi cyn pen 5 diwrnod gwaith, i sicrhau bod eich manylion yn gywir.

Dros y ffôn: 01745 536800

Trwy e-bost: complaints@clwydalyn.co.uk

Trwy’r Porth: FyClwydAlyn

Trwy Lythyr: Tai ClwydAlyn Cyf, RHADBOST, Tîm Cwynion, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD

Mae gennych hawl i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb.  Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn annibynnol oddi ar holl gyrff y llywodraeth ac mae ganddo’r grym i ymchwilio i gwynion am Gymdeithasau Tai a’u gweithgareddau cysylltiedig.

Dros y ffôn: 0300 790 0203 (cyfradd leol)

Trwy’r Wefan: www.ombudsman.wales

Trwy E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk

Trwy Lythyr: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

 

  • Ar ôl i ni glywed gennych, byddwn yn cysylltu i sicrhau ein bod yn deall eich cwyn yn iawn.  Yna byddwn yn prosesu’r gŵyn ar eich rhan, a byddwn yn anfon manylion eich cwyn at y Swyddog Ymchwilio priodol.  Bydd y rhan fwyaf o gwynion yn cael eu prosesu ar Gam 1, ac mae gennym 10 diwrnod gwaith i ymchwilio iddynt.
  • Byddwch yn cael gwybod am y dyddiad cau i ymateb.  Os ydych yn anfodlon ar hyn, gallwch symud eich cwyn ymlaen i Gam 2 lle bydd yn cael ei hymchwilio gan Uwch Swyddog.
  • Bydd ganddo/ganddi 20 diwrnod gwaith i ymchwilio a dod yn ôl atoch gyda’r canlyniad.  Petai eich cwyn yn fwy cymhleth, efallai y bydd ar y Swyddog angen amser ychwanegol ac os bydd hyn yn wir, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
  • Os byddwch yn dal yn anfodlon ar eich deilliant, mae gennych hawl i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Dros y ffôn: 0300 790 0203 (cyfradd leol) Ar y wefan:ombudsman.wales Trwy E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
  • Am wybodaeth fwy manwl am y Broses Gwynion, ewch i’r Pecyn Gwybodaeth Canmoliaeth a Chwynion yn yr adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen

Yn bendant ddim.  Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth yr ydych yn ei roi i ni, ac ni fyddwch fyth yn cael eich trin yn negyddol oherwydd eich bod wedi cysylltu â ni i roi adroddiad am broblem.  Rydym am weithio hefo chi i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych.

Mae gan ClwydAlyn Banel Cwynion sy’n cynnwys Preswylwyr a Phreswylwyr sy’n Gwirfoddoli.  Rydym yn falch o ddweud, yn 2021, enillodd panel Cwynion ClwydAlyn y categori Cynnwys Tenantiaid wrth Siapio Gwasanaethau yng Ngwobrau TPAS.

Mae’r Panel yn cyfarfod yn chwarterol, a diben hynny yw sicrhau bod y broses gwynion yn cael ei hadolygu yn llawn.  Bwriad hyn yw sicrhau bod ein holl brosesau a’n diwylliant o ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd yn glir ac amlwg yn y ffordd y mae’r holl gwynion yn cael eu trin ac yr ymatebir iddynt.  Mae adborth preswylwyr yn allweddol wrth sicrhau ein bod yn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl.

Rydym yn chwilio am Aelodau newydd bob amser.  Os hoffech ymuno â’r Panel Cwynion neu gael gwybod rhagor am sut y mae’n gweithio, cysylltwch â mi yn uniongyrchol ar Lorraine.orger@clwydalyn.co.uk

pdf
Taflen Cwynion
Lawrlwythwch
docx
Pecyn Gwybodaeth
Lawrlwythwch