Skip to content

Ein Gwerthoedd

Gwerthoedd ClwydAlyn yw Ymddiriedaeth, Caredigrwydd a Gobaith. Seiliwyd ein strategaeth caffael ar y gwerthoedd yma. Mae ein dull o gaffael yn un sy’n llunio ymddiriedaeth gyda’n cadwyni cyflenwi fel eu bod am weithio gyda ni. Mae tenantiaid a rhanddeiliaid allweddol eraill yn rhan o ddiffinio gwasanaethau, fel eu bod yn gallu dylanwadu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, faint y mae’n ei gostio ac yn gallu ein helpu i wella ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.

Rydym yn ymroddedig i agenda Polisi Caffael Llywodraeth Cymru a’r datganiad polisi caffael ac rydym wedi cefnogi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru. Mae ClwydAlyn hefyd yn ymroddedig i gadw at ymrwymiadau moesegol a moesol wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.

Sut i weld unrhyw dendrau am nwyddau a gwasanaethau a sut i ymgeisio.
Hysbysebir cyfleoedd i ddarparu nwyddau neu wasanaethau i ni ar wefan Gwerthwch i Gymru.

Rydym yn argymell y dylech gofrestru fel cyflenwr ar Gwerthwch i Gymru i sicrhau eich bod yn gallu rhoi tendr ar gyfer unrhyw gyfleoedd lleol neu ranbarthol. Trwy ymuno gallwch dderbyn hysbysiadau awtomatig ar gyfer ClwydAlyn a thendrau lleol eraill fel na fyddwch yn colli cyfle.
Dysgwch ragor ar Gwerthwch i Gymru
Datganiad Caethwasiaeth Fodern
Mae hwn yn nodi’r camau yr ydym wedi eu cymryd, ac y byddwn yn eu cymryd, i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ein busnes na’r cadwyni cyflenwi.
Datganiad Caethwasiaeth Fodern
Proses Caffael
Mae ein holl fusnes yn cael ei gaffael gan ddefnyddio proses gystadleuol, boed trwy gymharu dyfynbrisiau am bryniannau isel eu cost neu fynd trwy’r weithdrefn dendr ffurfiol ar gyfer contractau uchel eu pris

Ein cam cyntaf yw sefydlu a yw’r nwyddau, gwaith neu wasanaethau yn dod dan gontract neu fframwaith sy’n bodoli. Os ydyn nhw, yna rhaid i ni ddefnyddio’r cyflenwr hwnnw, os na, yna mae gwerth y contract yn cael effaith ar y broses gaffael fel y disgrifir isod.

Pennir gwerth contract trwy amcangyfrif gwerth nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n ofynnol a hyd y gofyn.

Gwerth Contractau

Pennir gwerth contract trwy amcangyfrif gwerth nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n ofynnol a hyd y gofyn.

  • Pennir gwerth contract trwy amcangyfrif gwerth nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n ofynnol a hyd y gofyn.
  • Bydd pryniannau o’r gwerth hwn yn cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig a bydd y cyflenwyr yn cael eu dewis o restr a gymeradwywyd.
  • Bydd pryniannau o’r gwerth hwn fel arfer yn cael eu hysbysebu ar Gwerthwch i Gymru neu bydd cyflenwyr yn cael eu dewis trwy ddyfynbris ffurfiol
  • Bydd pryniannau o’r gwerth hwn fel arfer yn cael eu hysbysebu ar Gwerthwch i Gymru trwy dendr agored neu gyfyngedig.

Os byddwch yn mynd i mewn i’r broses dendr, bydd gennych fynediad at y dogfennau canlynol;


1
Cyfarwyddiadau i dendrwyr
2
Manyleb y nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol
3
Telerau ac amodau’r contract
4
Holiadur tendr
5
Rhestr prisiau neu eraill os yn addas, e.e. rhestr wybodaeth