Skip to content

ClwydAlyn, a ffurfiwyd yn 1978, rydym yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n rheoli 6,200 o gartrefi yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Gyda thua 750 o staff, rydym yn darparu gwasanaethau rheoli tai yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Powys a Wrecsam.

Mae ClwydAlyn yn cynnwys pedwar endid cyfreithiol, gan gynnwys Cymdeithas Dai, cwmni masnachol, rheolwr rhaglen tai cymdeithasol adeiladu o’r newydd, a chwmni cyllid tai. Rydym yn darparu amrywiaeth eang o gartrefi a gwasanaethau, gan gynnwys tai fforddiadwy i deuluoedd, byw â chefnogaeth, rhan berchenogaeth a rheoli prydles. Yn ychwanegol at fod yn ddarparwr tai cymdeithasol, mae ClwydAlyn yn cynnig gwasanaethau i boblogaethau bregus yng Ngogledd Cymru, fel llochesi i’r digartref, llochesi trais domestig, cefnogaeth iechyd meddwl, a chartrefi gofal i’r rhai sydd eu hangen.

Fe’n comisiynwyd hefyd gan Lywodraeth Cymru i redeg canolfan ffoaduriaid i bobl Wcráin oedd yn ffoi rhag ymosodiad Rwsia yn 2022. Mae gan ClwydAlyn ran weithredol mewn mentrau cymunedol, yn cefnogi cynhyrchu bwyd yn lleol, yn rhoi cyfleoedd i ferched difreintiedig trwy’r cynllun ‘We Mind The Gap’, ac yn adeiladu cartrefi carbon isel iawn gan ddefnyddio deunyddiau lleol.

Dysgwch ragor am bwy ydyn ni a’r hyn yr ydym yn ei wneud.

staff members at Clwydalyn
Gwerth cymdeithasol
Rydym wrth ein bodd yn gweld ein cymunedau’n ffynnu, mae’n rhywbeth sy’n bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.

Rydym yn ceisio gweithio gyda chyflenwyr lleol a phartneriaid sy’n poeni am y cymunedau yr ydym yn eu cartrefu.
Dysgwch ragor yma
Cleaning team in north wales
Ein pobl
Rydym bob amser yn chwilio am bobl garedig, alluog a brwdfrydig i ymuno â’n timau a helpu pobl mewn angen ar draws Gogledd Cymru
Dysgwch ragor
Hen Ysgol y Bont front of properties
Ein datblygiadau
Mae gennym gynllun datblygu uchelgeisiol i gyflawni 1500 arall o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m
Mynnwch olwg yma