Skip to content

Yn y ddogfen hon mae’r gair ‘ni’ yn cyfeirio at Cymdeithas Tai ClwydAlyn Cyfyngedig, Tir Tai Cyfyngedig, PenArian Cyfyngedig a Tai Elwy Cyfyngedig, sy’n darparu tai a gwasanaethau cysylltiedig ar draws Gogledd Cymru.

Mae pob endid yn rheoli ei ddata personol ei hun er y gall data gael ei brosesu trwy aelodau eraill y Grŵp ar ei ran.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut yr ydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi.

Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn ofalus i ddeall sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yng nghyswllt yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn::

E-bost/ar-lein

datacontroller@clwydalyn.co.uk

Cyfeiriad post

72 Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych LL17 0JD

Cyfeiriad post

Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 i 18:00
Rhadffôn o linell sefydlog 0800 183 5757 neu 01745 536800

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio:

  1. Pa wybodaeth y gallwn ei chasglu amdanoch
  2. Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
  3. Cysylltu â chi
  4. Rhannu eich gwybodaeth
  5. FyClwydAlyn
  6. Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth
  7. Diogelwch a storio eich gwybodaeth
  8. Eich hawliau

1       Pa wybodaeth y gallwn ei chasglu amdanoch

Mae’r dolenni isod yn trafod sut yr ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

  • Pan fyddwch yn ffonio ein Canolfan Gyswllt
  • Pan fyddwch yn anfon e-bost atom ni
  • Pan fyddwch yn cyflwyno cwyn i ni
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan
  • Pan fyddwn yn derbyn Gwybodaeth gan eraill
  • Pan fyddwch yn ymweld â’n safleoedd
  • Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd
  • Os ydych yn gyflogedig gennym
  • Bwrdd, Pwyllgor a Phaneli

Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch yn dibynnu pam ein bod yn ymwneud â chi. Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am dai neu yn dod yn ddeiliad Contract (Tenant), bydd arnom angen rhagor o wybodaeth gennych na phe baech yn gwneud ymholiad.

1.1         Pan fyddwch yn ffonio ein Canolfan Gyswllt

Pan fyddwch yn ffonio ein canolfan gyswllt rydym yn casglu gwybodaeth Adnabod Llinell sy’n Galw (CLI). Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i helpu i wella ein heffeithlonrwydd a’n heffeithiolrwydd.

Rydym yn recordio galwadau i’w defnyddio ar gyfer hyfforddi a monitro. Yn ychwanegol, bydd y rhai sy’n trin galwadau yn cofnodi eich galwad er mwyn rheoli eich ymholiad. Efallai y bydd arnom angen rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau er mwyn ymateb i’ch galwad, er enghraifft fel ein bod yn medru trefnu gwaith cynnal a chadw neu drwsio neu help arall. Fel arfer byddwn yn dweud wrthoch chi os bydd angen i ni drosglwyddo gwybodaeth ymlaen i sefydliadau eraill.

1.2        Pan fyddwch yn anfon e-bost atom ni

Gall unrhyw e-bost a anfonir atom, gan gynnwys unrhyw atodiadau, gael eu monitro a’u defnyddio gennym ni o ran diogelwch ac i fonitro cydymffurfio â pholisi. Gall meddalwedd monitro neu atal e-bost hefyd gael ei ddefnyddio. Cofiwch bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon atom ni yn cadw at derfynau’r gyfraith.

1.3        Pan fyddwch yn cyflwyno cwyn i ni

Pan fyddwn yn derbyn cwyn gan unigolyn rydym yn llunio ffeil yn cynnwys manylion y gŵyn. Fel arfer bydd y ffeil yn cynnwys manylion yr achwynydd ac unrhyw unigolion sy’n ymwneud â’r gŵyn.

Dim ond ar gyfer prosesu’r gŵyn a gwirio lefel y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu. Os na fydd achwynydd am i wybodaeth sy’n dynodi pwy ydyw ef neu hi gael ei datgelu i unrhyw un y mae’r gŵyn amdano, byddwn yn ceisio parchu hynny. Ond, efallai na fydd yn bosibl ymdrin â chŵyn ar sail ddienw.

Yn yr un modd, pan fydd ymholiadau yn cael eu cyflwyno i ni, dim ond ar gyfer ymdrin â’r ymholiad ac unrhyw broblemau dilynol a gwirio lefel y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd i ni.

1.4        Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau

Rydym yn cadw manylion y bobl sy’n gofyn am ein gwasanaethau ac yn eu defnyddio fel ein bod yn medru darparu’r gwasanaethau hyn ac ar gyfer dibenion eraill sydd â chysylltiad agos. Er enghraifft, rydym yn defnyddio gwybodaeth am ein defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau ac i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau i grwpiau gwahanol yn deg.

Os byddwch chi yn gwneud cais am gartref neu yn dod yn ddeiliad Contract (Tenant), mae gwybodaeth benodol y bydd arnom ei hangen er mwyn gallu prosesu eich cais a rheoli eich tenantiaeth. Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth hon i ni, ni fyddwn yn gallu symud eich cais ymlaen.

Gall rhai preswylwyr symud i eiddo sy’n cynnwys offer monitro ynni sy’n casglu data i Lywodraeth Cymru i’w helpu i ddod yn garbon niwtral.

Oherwydd y ffordd y mae’r gyfraith diogelu data’n gweithio gall peth gwybodaeth am eich cartref a’ch defnydd o ynni, dan rai amgylchiadau, gynnwys data personol. Mae gennych yr hawl i ddewis gwrthod y gwasanaeth hwn.

Gallwch ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru trwy glicio ar y ddolen isod:

Busnes Cymru Gweithredol – Datganiad Preifatrwydd | Busnes Cymru (llyw.cymru)

1.5        Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan

Rydym yn casglu peth gwybodaeth yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan. Gweler y Polisi Cwcis isod am ragor o wybodaeth am hyn.

Pan fyddwch yn defnyddio ein porth cwsmeriaid, rydych yn gallu gweld gwybodaeth a ddelir yn ein system reoli tai, gan gynnwys manylion personol, cyfriflenni cyfrifon, gwybodaeth am denantiaeth, hanes gwaith trwsio a thalu eich rhent / taliadau gwasanaeth. Sylwer ein bod yn defnyddio darparwr allanol i gynnal ein porth cwsmeriaid.

Polisi ~Cwcis: Tai clwydAlyn

1.6        Gwybodaeth y byddwn yn ei derbyn gan eraill

Rydym yn gweithio’n glos gyda sefydliadau eraill, fel cynghorau lleol, lluoedd heddlu, sefydliadau sector gwirfoddol, darparwyr tai eraill a’n contractwyr, a gallwn dderbyn gwybodaeth amdanoch ganddynt.

1.7        Pan fyddwch yn ymweld â’n safleoedd

Efallai y byddwn yn gofyn i chi lofnodi wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan pe baech yn ymweld â staff neu breswylwyr ar ein safleoedd. Rheolir mynediad ar gyfer dibenion diogelwch yr adeilad a’r deiliad. Cofnodir mynediad er mwyn cynorthwyo gyda gweithdrefnau tân a gweithdrefnau eraill. Yn ychwanegol, gall eich llun gael ei gofnodi gan deledu cylch cyfyng i fonitro a chasglu delweddau gweledol at ddibenion diogelwch ac atal troseddau a’u datrys.

Os byddwch yn defnyddio ein rhwydwaith Wi-Fi neu gyfrifiadur i fynd ar ein systemau TG, gall eich mynediad a’ch gweithgaredd gael eu monitro i atal camddefnydd o eiddo’r Grŵp, yn ôl ein polisïau Corfforaethol..

1.8        Ymgeiswyr am swyddi

Pan fyddwch yn gwneud cais i weithio i ni, ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni at unrhyw ddiben heblaw prosesu eich cais a monitro ystadegau recriwtio.

Bydd gwybodaeth bersonol am ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei dal am 12 mis ar ôl i’r ymarfer recriwtio gael ei gwblhau; bydd wedyn yn cael ei dinistrio neu ei dileu. Rydym yn cadw gwybodaeth ystadegol heb wybodaeth bersonol am ymgeiswyr i helpu i baratoi ein gweithgareddau recriwtio, ond ni ellir adnabod unigolion o’r data hwnnw.

1.9        Os ydych yn gyflogedig gennym

Mae gennym system Rheoli Pobl i gadw gwybodaeth am weithwyr.

Bydd hon yn cael ei chadw yn ddiogel a dim ond ar gyfer dibenion sy’n uniongyrchol berthnasol i gyflogaeth yr unigolyn hwnnw y byddant yn cael ei defnyddio. Ar ôl i’r gwaith i ni ddod i ben, byddwn yn cadw’r ffeil yn unol â gofynion ein hamserlen gadw ac yna yn ei dileu.

Mae’r wybodaeth bersonol amdanoch yr ydym yn disgwyl ei chasglu, ei chadw a’i defnyddio (‘prosesu’) yn debygol o gynnwys y canlynol. Nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysol ond fe’i bwriadwyd i roi syniad clir i chi am y wybodaeth bersonol amdanoch y byddwn yn ei phrosesu::

  • enwau cyswllt, cyfeiriad, dyddiad geni, rhifau ffôn personol a chyfeiriadau e-bost personol i chi a’ch cysylltiadau mewn argyfwng;
  • gwybodaeth a gasglwyd yn ystod eich proses recriwtio (gan gynnwys cyfeiriadau, gwiriadau hawl i weithio a chollfarnau heb eu treulio neu wedi eu treulio a gwiriadau cofnodion troseddol pan fydd yn berthnasol);
  • manylion amodau eich cyflogaeth neu benodiad (gan gynnwys pensiwn a budd-daliadau eraill);
  • gwybodaeth cyflogres, treth ac yswiriant gwladol, eich manylion banc a gwybodaeth am eich hawliadau treuliau;
  • manylion teitl eich swydd / gwaith a dyletswyddau cysylltiedig, rheolaeth, a threfniadaeth gwaith;
  • gwybodaeth am eich perfformiad gan gynnwys arfarniadau, codiadau cyflog, dyrchafiad a chwynion (rhai a wnaed gennych chi neu amdanoch chi);
  • amser, presenoldeb, cofnodion absenoldeb gan gynnwys cofnodion gwyliau, ffurflenni hunan-ardystio, tystysgrifau meddygol a chofnodion iechyd;
  • manylion absenoldeb ar gyfer rhesymau teuluol neu bersonol (e.e. mamolaeth, tadolaeth, absenoldeb rhiant neu fabwysiadu a rannwyd);
  • manylion unrhyw ymchwiliadau disgyblu, ymchwiliadau i gwynion, os cymerwyd unrhyw gamau disgyblu neu beidio;
  • cofnodion addysg, cofnodion hyfforddiant a chofnodion am gymwysterau a llwyddiannau;
  • digwyddiadau iechyd a diogelwch;
  • monitro amrywiaeth (gan gynnwys, er enghraifft, oedran, hil/ethnigrwydd, crefydd, a oes gennych anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rywiol a statws priodasol);
  • gwybodaeth am eich aelodaeth o undeb neu yn gynrychiolydd undeb;
  • mynediad sydd gennych i’n heiddo neu eiddo cwsmer a sut yr ydych yn ei ddefnyddio;
  • eich ffotograff ar gyfer gweithdrefnau adnabod y cwmni;
  • Bydd eich cynnwys mewn ffotograffau, recordiadau neu ffilmio cyfarfodydd, digwyddiadau neu weithgareddau eraill yn dibynnu ar i chi roi eich caniatâd.
  • data digidol gan gynnwys mynediad i adeiladau (fel cardiau sweip neu ffilm camera cylch cyfyng) a’ch defnydd o’ch ffôn a systemau TG gan gynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron, tabledi, ffonau clyfar, a dyfeisiadau eraill a ddarperir gennym ni (mewn rhai amgylchiadau gall hyn gynnwys ein monitro ni ar y systemau hyn); a
  • chyfathrebiadau gyda’r rhai sy’n gyfrifol am eich rheoli, rhai eraill yn gweithio gyda chi a gyda’r Adran Pobl: er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am weithio hyblyg.

1.10    Bwrdd, Pwyllgor a Phaneli

Os ydych yn aelod o un o’n Byrddau, Pwyllgorau neu Baneli, byddwn yn gofyn am fanylion personol ar gyfer dibenion rheoli ac ystadegol, gan gynnwys datganiad o fuddiannau.

2      Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn bennaf yng nghyswllt rheoli ein gwasanaethau tai. Os ydych yn Ddeiliad Contract (Tenant), mae hyn yn cynnwys rheoli eich tenantiaeth ac ymdrin ag unrhyw geisiadau, ymholiadau neu gwynion y byddwch yn eu cyflwyno. Os ydych yn gyflogedig gennym mae hyn yn cynnwys rheoli eich cyflogaeth.

Mae’r enghreifftiau o’r modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn cynnwys::

  • i gadarnhau pwy ydych
  • i asesu eich addasrwydd i gael mynediad at unrhyw un o’n gwasanaethau
  • i reoli eich tenantiaeth, gofal neu gefnogaeth
  • i sicrhau bod ein heiddo yn cael eu cynnal yn briodol ac yn unol ag ymrwymiadau cyfreithiol, fel gwiriadau diogelwch nwy cyfnodol
  • i’ch hysbysu am newidiadau pwysig i’n gwasanaethau
  • i roi gwybod i chi am wasanaethau perthnasol eraill, ein rhai ni a rhai partïon eraill yr ydym wedi cytuno y dylai eu cynhyrchion a’u gwasanaethau fod ar gael i chi (gweler yr adran isod am ‘Gysylltu â chi’ am ragor o wybodaeth am hyn)
  • i ddiweddaru a chywiro ein cofnodion
  • i gynnal dadansoddiadau ystadegol a marchnad, gan gynnwys ymarferion meincnodi, i’n galluogi i’ch deall yn well a gwella ein gwasanaethau, ac yn unol â’n rheoliadau gweithredu
  • i ddatblygu, profi a gwella ein systemau
  • i sicrhau bod cynnwys ein gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac ar gyfer eich cyfrifiadur
  • i weinyddu ein gwefan ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwil, dibenion ystadegol ac arolygu
  • er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau cyfreithiol eraill fel cyfreithiau Iechyd a Diogelwch neu ddiogelu pobl fregus

Gallwn gyfuno gwybodaeth yr ydym yn ei derbyn o ffynonellau eraill â gwybodaeth yr ydych chi’n ei rhoi i ni ar gyfer y dibenion a nodir uchod (gan ddibynnu ar y mathau o wybodaeth yr ydym yn eu derbyn).

3      Cysylltu â chi

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth cysylltu i anfon gwybodaeth bwysig i chi trwy lythyrau, negeseuon e-bost, negeseuon testun, neu fel arall eich ffonio. Gallwn recordio galwadau ffôn ar gyfer dibenion diogelwch a hyfforddiant.

Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am ein gwasanaethau yr ydym yn teimlo y gallent fod o ddiddordeb i chi.

Gallwch ddewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata ar unrhyw adeg, er sylwch os gwelwch yn dda y byddwn yn parhau i anfon negeseuon pwysig atoch am eich tenantiaeth neu gyflogaeth.

Os byddwch yn newid eich meddwl am ganiatâd i gysylltu â chi i farchnata, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 1835757 (rhadffôn o linell arferol) neu 01745 536800 i ddiweddaru eich dewisiadau. Neu anfonwch e-bost atom help@clwydalyn.co.uk

4      FyClwydAlyn

Mae FyClwydAlyn yn borth hunanwasanaeth ar gyfer deiliaid Contract (tenantiaid) lle gall dewisiadau a manylion personol gael eu diweddaru. Gallwch ddysgu rhagor neu gofrestru trwy glicio ar y ddolen ganlynol:

FyClwydAlyn: Tai ClwydAlyn

5      Rhannu eich gwybodaeth

Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti, ond mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i::

  • unrhyw ran o ClwydAlyn, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein rhiant gwmni a’i is-gwmnïau, fel y diffinnir yn adran 736 o Ddeddf Cwmnïau’r Deyrnas Gyfunol 1985; a/neu
  • trydydd bartïon eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
    • os ydym ni dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad cyfreithiol;
    • er mwyn gorfodi neu weithredu ein telerau ac amodau a chytundebau eraill;
    • i ddiogelu hawliau, eiddo, neu ddiogelwch ClwydAlyn, ein cwsmeriaid, ein gweithwyr neu eraill;
    • i ymchwilio i drosedd neu ei hatal. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill i ddiogelu rhag twyll a lleihau risg credyd;
    • er mwyn ein galluogi i gyflawni ein buddiannau cyfreithlon fel darparwr tai a gwasanaethau cysylltiedig. Er enghraifft, er mwyn cynnal arolygon bodlonrwydd neu i gyflawni ein rôl fel cyflogwr.
    • i gael unrhyw gyngor proffesiynol; a/neu
    • gyda’ch caniatâd.

6      Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth

Mae cyfraith diogelu data yn nodi amrywiol seiliau cyfreithiol (neu ‘amodau’) sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

Pan fydd gennych gontract gyda ni, efallai y bydd arnom angen defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Un enghraifft o hyn yw pan fydd gennych denantiaeth gennym ni.

Pan fyddwn dan ymrwymiad cyfreithiol sy’n gofyn i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, hysbysiadau o ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch.

Byddwn weithiau yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar sail eich caniatâd. Byddwn yn dweud wrthych bob amser pan fydd hyn yn wir ac yn gofyn i chi gytuno cyn i ni brosesu eich gwybodaeth. Enghraifft o ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol gyda’ch caniatâd yw cyhoeddi eich llun fel rhan o ffotograff ar ein gwefan.

Yn olaf, weithiau mae angen prosesu eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Byddwn yn gwneud hynny pan na fydd buddiannau a hawliau sylfaenol neu ryddid yr unigolion dan sylw yn drech na’r buddiannau hynny yn unig. Enghraifft o hyn yw pan fyddwn yn cysylltu â chi am eich profiad o gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid neu waith trwsio diweddar ar eich eiddo. Mae’n rhaid i ni weithredu o fewn y Ddeddf Rhentu Cartrefi y gallwch ddysgu rhagor amdani yma.  Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) | LLYW.CYMRU

Mae cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai “categorïau arbennig” o wybodaeth bersonol, sy’n wybodaeth sy’n datgelu cefndir hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undebau llafur, gwybodaeth enynnol, gwybodaeth fiometrig sy’n unigryw i unigolyn, gwybodaeth am iechyd, a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn. Rhoddir gwybodaeth am droseddau a chofnodion troseddol mewn categori tebyg.

Ystyrir bod y categorïau arbennig yma o wybodaeth bersonol yn arbennig o sensitif ac felly ni fyddwn yn casglu a defnyddio’r wybodaeth hon oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd clir i ni wneud hynny neu pan fyddwn yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

7      Diogelwch a storio eich gwybodaeth bersonol

Gall y wybodaeth amdanoch chi y byddwn yn ei chasglu gael ei throsglwyddo i, a’i chadw mewn cyrchfan sydd tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Gall hefyd gael ei phrosesu gan staff sy’n gweithredu’r tu allan i’r EEA sy’n gweithio i un o’n cyflenwyr.

Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol o angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Yn gyffredinol ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch yn hwy nag y mae angen yn ôl ein Hamserlen Gadw.

8      Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael mynediad gennym at eich gwybodaeth bersonol. Gelwir hyn weithiau yn ‘gais gwrthrych am wybodaeth’.

Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol ar gyfer dibenion marchnata uniongyrchol. Byddwn yn dweud wrthych os byddwn yn bwriadu defnyddio eich data i’r diben hwn neu os byddwn yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti i’r diben hwn. Gallwch arfer eich hawl i atal prosesu o’r fath trwy dicio blychau penodol ar y ffurflenni yr ydym yn eu defnyddio i gasglu eich data neu trwy gysylltu â’n Tîn Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 1835757 (rhadffôn o linell arferol) neu 01745 536800.

Dan GDPR y Deyrnas unedig mae gennych hawliau ychwanegol i ofyn i ni:

  • Gywiro unrhyw wybodaeth anghywir yr ydym yn ei chadw amdanoch
  • Ddileu eich gwybodaeth
  • Stopio defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer rhai dibenion penodol
  • Roi eich gwybodaeth i chi ar ffurf gludadwy
  • Beidio â gwneud penderfyniadau amdanoch chi trwy ddull awtomataidd yn unig.

Mae nifer o’r hawliau a restrir uchod yn cael eu cyfyngu i amgylchiadau penodol ac efallai na fyddwn yn gallu cydymffurfio â’ch cais. Byddwn yn dweud wrthych os bydd hyn yn wir.

Os byddwch yn dewis gwneud cais i ni, byddwn yn anelu at ymateb cyn pen mis. Ni fyddwn yn codi ffi am ymdrin â’ch cais.

Os byddwch yn anfodlon ar y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol neu os dymunwch gwyno am y modd yr ydym wedi ymdrin â chais, yna cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data isod a byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblemau sydd gennych.

datacontroller@clwydalyn.co.uk

72 Ffordd William Morgan

Parc Busnes Llanelwy

Llanelwy

Sir Ddinbych LL17 0JD

0800 1835757 (rhadffôn o linell arferol) neu 01745 536800

 

Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr statudol ar gyfer cyfraith diogelu data. Gellir gweld manylion sut i anfon cwyn i’r ICO yn https://ico.org.uk/concerns/

Neu ffoniwch 0303 123 1113