Skip to content

Cymrwch olwg ar ein swyddi gwag ar hyd o bryd


logo only CA
Swyddog Rheoli Asedau
V72, Llanelwy
logo only CA
Peiriannydd Plymio a Gwresogi
V72, Llanelwy
logo only CA
Llwybr Gweinyddwr Swyddfa
V72, Llanelwy

Rydym yn ymdrechu i greu ymdeimlad o berthyn, gydag amgylchedd gwaith a byw cynhwysol ac amrywiol lle mae pawb yn teimlo’n hapus, cyfforddus a diogel i fod yn nhw eu hunain.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth hollgynhwysol lle mae gwahaniaethau’n cael eu dathlu, a’n staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Rydym wedi ymrwymo i annog cyfartaledd cyfle, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith ein gweithlu ac i’n gweithlu fod yn wirioneddol gynrychioliadol o’n cymunedau.

Os byddai’n well gennych ymgeisio am unrhyw un o’n swyddi mewn ffordd wahanol cysylltwch â’n Tîm Pobl yn people.team@clwydalyn.co.uk neu ffoniwch 07730200433 a byddant yn barod iawn i’ch cefnogi trwy’r broses ymgeisio.

Os na fyddwch yn gweld swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi yn cael ei rhestru yma ac yr hoffech gael gwybod am swyddi yn y dyfodol, yna ymunwch â’n rhestr bostio recriwtio

Staff talking in a breakout area in main offices

Cyfleoedd eraill i ddysgu a thyfu

O brentisiaethau i wirfoddoli gallwn eich helpu i gyrraedd nodau eich gyrfa
Dysgwch ragor

Pam gweithio i ni


Gwyliau Blynyddol
Rydym yn cynnig 25 diwrnod o wyliau blynyddol, yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.

Yn ychwanegol hyblygrwydd i brynu a gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata)
Buddion Iechyd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion yn gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys cynllun Beicio i’r Gwaith, cynllun Gofal Llygaid a Chynllun Arian Parod Gofal Iechyd

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cynghori cyfrinachol am ddim i’r holl staff
Mae teuluoedd yn bwysig
Rydym yn cynnig 4 mis o dâl llawn a 5 mis ar hanner cyflog pan ar Absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu neu i’w Rhannu Rhwng Rhieni

Rydym hefyd yn cynnig amgylchedd gwaith ystwyth a hyblyg i gefnogi teuluoedd a gofalwyr
Pensiwn
Cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniadau cyfatebol (hyd at 8%) a budd-dal marwolaeth mewn gwasanaeth o 3 gwaith eich cyflog
Tâl salwch gwell
Gwell tâl salwch ar ôl 1 flwyddyn o wasanaeth yn codi i uchafswm o 3 mis ar dâl llawn, 3 mis ar hanner y cyflog

Mewn sefyllfaoedd difrifol sy’n bygwth bywyd rydym yn cytuno ar y gefnogaeth ar sail unigol
Llesiant a chefnogaeth ariannol
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth gan gynnwys mynediad at gynilion a benthyciadau trwy undeb credyd, mynediad at gefnogaeth gan ein Tîm Llesiant a Chyngor Ariannol a mynediad at ginio am ddim i’r holl staff
Cefnogaeth Llesiant Benodol
Rydym yn gwybod bod meithrin lefelau uchel o lesiant yn beth da i bobl, y sefydliad a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, hyblyg lle gall unigolion a chymunedau ffynnu

Mae gennym Dîm Llesiant Gweithle penodol a gallwn ddarparu amrywiaeth eang o fuddion yn gysylltiedig â chefnogaeth a llesiant i gefnogi llesiant meddyliol, corfforol a chymdeithasol da.
Gwybodus am Drawma a Phrofiadau Plentyndod Niweidiol
Rydym wedi ymrwymo i ddod yn Sefydliad sy’n Wybodus am Drawma a Phrofiadau Plentyndod Niweidiol (TrACE)

Bydd dod yn wybodus am TrACE o fudd i brofiad bywyd ein preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth, ond bydd hefyd yn cefnogi llesiant staff, cynhwysedd a sut yr ydym yn derbyn ‘Byw ac Arwain ein Gwerthoedd’
Dysgu a Datblygu
Buddsoddi yn natblygiad personol y staff i gyrraedd eu potensial yw ein blaenoriaeth.

Trwy hyfforddiant ffurfiol, dysgu yn y swydd, annog a mentora, rydym yn darparu amgylchedd dysgu sy’n gefnogol i bob unigolyn gynyddu ei sgiliau a fydd yn ei helpu i fod yn wych yn ei swydd heddiw ond hefyd ei alluogi i dyfu gyrfa gyda ni yn y dyfodol.

Ein hardystiadau ac addewidion

Top Employer logo in Welsh
Deeds Not Words - Welsh
Wellbeing of Women logo
Tai Pawb logo transparent

Ymgeisiwch rŵan

Step 1 of 2

Eich Gwybodaeth Bersonol

Eich Enw(Required)
E-bost(Required)
Cyfeiriad(Required)