Skip to content

Tamprwydd, anwedd a llwydni

Mae gwahanol fathau o damprwydd a all effeithio ar eich cartref. Dylai’r wybodaeth ar y dudalen hon eich helpu i ddynodi’r math o damprwydd sy’n effeithio arnoch chi a rhoi gwybod i chi beth i wneud nesaf os oes genncyh broblem.

Mae’n debyg mai anwedd sy’n achosi mwyaf o damprwydd yn ein cartrefi ac yn aml mae’n cael ei gymysgu â mathau eraill. Gall anwedd gael ei waethygu os bydd mathau eraill o damprwydd yn bresennol.

Rydym hefyd wedi darparu cyngor defnyddiol ar sut i leihau y risg o tamprywdd a lwydni yn eich cartref trwy wneud newidiadau bach yn eich trefn dyddiol.

 

Dysgwch ragor

Os hoffech ddysgu rhagor am leithder, llwydni ac anwedd gallwch wneud hynny trwy ddarllen ein llyfryn newydd yr ydym wedi ei greu mewn partneriaeth gyda rhai o’n preswylwyr o’r Pwyllgor Preswylwyr a #Dylanwadwch.

 

Adroddwch amdano

Mae’n bwysig i ni i gyd gymryd camau i leihau anwedd yn ein cartrefi. Os byddwch yn sylwi ar rywbeth sydd angen ei drwsio neu os byddwch yn cael trafferth gyda thamprwydd yn eich cartref yna gadewch i ni wybod cyn gynted ag sy’n bosibl.

Gallwch roi adroddiad am waith trwsio trwy gysylltu:

  • Anfon e-bost at y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn help@clwydalyn.co.uk gyda’r math o damprwydd yr ydych yn bryderus amdano ynghyd â lluniau (os yn bosib), eich cyfeiriad a gwybodaeth cyswllt.
  • Defnyddio Porth y Preswylwyr, FyClwydAlyn, neu trwy ein ffurflen ar-lein.
  • Ffonio y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar y rhif rhadffôn: 0800 183 5757
  • Gallwch ofyn am alwad yn ôl yn ystod oriau swyddfa a byddwn yn eich galw yn ôl heb unrhyw gostau i chi.
  • Siarad gyda’ch Swyddog Tai

Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon cymaint o fanylion ag sy’n bosibl, gan gynnwys lleoliad y gwaith trwsio a sut i gysylltu â chi er mwyn i ni fedru trefnu i gael mynediad.

pdf
Tamprwydd, Anwedd a Llwydni
Lawrlwythwch