Skip to content

Sut i roi adroddiad am waith trwsio

  • Mewngofnodwch i borth ‘FyClwydAlyn’ i roi adroddiad am waith trwsio
  • Y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 8.00 a 6.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener ar y rhif rhadffôn: 0800 183 5757 neu anfonwch e-bost at help@clwydalyn.co.uk
  • Gallwch ofyn am alwad yn ôl yn ystod oriau swyddfa a byddwn yn eich galw yn ôl heb unrhyw gostau i chi.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

  • Byddwch yn derbyn nodyn i’ch atgoffa o’ch apwyntiad trwy neges testun neu e-bost
  • Rhaid i oedolyn fod yn bresennol i’n gweithwyr gael dod i mewn i’ch eiddo
  • Rhaid i ardal y gwaith fod yn hygyrch ac wedi ei glirio yn barod ar gyfer ein gweithwyr
  • Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ar gyfer yr apwyntiad yr ydym wedi ei drefnu, rhowch wybod i’n tîm ar 0800 183 5757
  • Gall ein gweithwyr alw heb apwyntiad os byddant yn yr ardal ond dim ond os bydd yn gyfleus i chi y byddant yn gwneud y gwaith trwsio

Amseroedd gwaith trwsio

Yn nodweddiadol 1 Apwyntiad cyn pen 24 awr

Yn nodweddiadol gwaith yn gofyn am 1 crefftwr dros 1 neu 2 apwyntiad

Yn nodweddiadol gwaith yn gofyn am nifer o grefftwyr neu nifer o apwyntiadau

Yn nodweddiadol gwaith mawr i gael ei drefnu gyda dyddiad dechrau wedi ei gytuno

Cyfrifoldebau trwsio

Mae eich cyfrifoldebau trwsio yn ddibynnol ar ba denantiaeth sydd gennych. Bydd Prydles a Rhanberchnogaeth yn wahanol.

Os ydych mewn eiddo newydd ac yn dal yn y cyfnod ‘diffygion 12 mis’, llenwch y ffurflen sydd ar gael ar y dudalen cysylltwch â ni.

  • Strwythur a thu allan eich cartref. Mae hyn yn golygu’r to, waliau, drysau, fframiau drysau a lloriau
  • Gwterydd, pibelli a draeniau o fewn ffiniau eich cartref
  • Bath, toiledau (ond nid y seddi) sinciau a basnau ymolchi
  • Ffenestri
  • Gwifrau trydanol, pibellau nwy, gwresogyddion wedi eu gosod, rheiddiaduron a gwresogyddion dŵr
  • Cynnal a chadw ardaloedd cymunedol a’u cyflenwad trydan pan fyddant yn cael eu darparu
  • Peintio’r tu allan
  • Popeth sy’n eiddo i chi
  • Seddi’r toiled
  • Pibelli dŵr budr wedi blocio
  • Poptai, oergelloedd (oni bai eu bod wedi eu darparu gan ClwydAlyn, mewn rhai cynlluniau cysgodol er enghraifft)
  • Ffiwsys, bylbiau golau a thiwbiau fflwroleuol
  • Goriadau yn lle rhai eraill.
  • Unrhyw ddifrod yr ydych chi, eich teulu a/neu eich ymwelwyr yn ei achosi
  • Addurno’r tu mewn i’ch cartref

Mae unrhyw waith sy’n deillio o waith diffygiol a wnaed gennych chi neu gan weithwyr a gyflogwyd gennych chi (nid staff ClwydAlyn) yn gost taladwy gennych chi.

Yn ychwanegol, pan fydd ClwydAlyn yn gwneud unrhyw waith yr ystyrir ei fod yn gyfrifoldeb y preswyliwr, neu bod angen iddynt wneud gwaith pan fyddwch yn dwyn eich tenantiaeth â ni i ben, bydd tâl yn cael ei godi arnoch am hyn hefyd.

 

Cl

Gwaith Trwsio Argyfwng

Os bydd gennych angen gwaith trwsio argyfwng, peidiwch ag oedi. Mae arnom eisiau gwybod ar unwaith fel y gallwn ddatrys y broblem i chi. Mae ein staff gwasanaethau cwsmeriaid cyfeillgar wrth law i helpu, ffoniwch 0800 18357
Get In Touch

Gwaith Trwsio Argyfwng

  • Dim gwres neu ddŵr poeth
  • Cloeon neu goriadau ar goll
  • Colli trydan
  • Nwy yn gollwng neu darth
  • Gosodiadau trydanol yn cyffwrdd dŵr
  • Gwifrau trydan byw neu yn y golwg
  • Carthffosiaeth yn llifo i’r cartref
  • Dŵr na ellir ei reoli yn gollwng
  • Tanciau storio, silindrau neu bibellau yn gollwng
  • Larymau tân/mwg cymunedol diffygiol yn canu
  • Brics neu deils to yn rhydd neu’n beryglus
  • Problemau gydag addasiadau mawr – e.e. lifftiau i deithwyr

Gwaith ar eich cartref

Byddwn yn cynnal a chadw eich cartref yn gyson i wneud yn siŵr ei fod yn cadw at y safonau.

 

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Rhoi gwasanaeth i’r holl offer nwy a thanwydd bob blwyddyn
  • Gwiriadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd
  • Addurno ardaloedd cymunedol mewn Tai â Chefnogaeth a fflatiau
  • Cynnal a chadw lifftiau cymunedol, larymau tân a mwg ac offer diogelwch tân
  • Goleuadau argyfwng
  • Tynnu asbestos
  • Archwiliadau diogelwch tân i adeiladau cymunedol
  • Arolygu cyfleusterau storio dŵr cymunedol
  • Cynnal a chadw mannau agored a mannau gwyrdd
  • Profir synwyryddion mwg/ gwres/ CO2 yn flynyddol

Gwaith mwy yw’r rhain fel

  • Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi
  • Gwella Ffenestri a Drysau
  • Gwella Systemau Gwresogi
  • Peintio Allanol
  • Mân Brosiectau

A oes gennych fân waith trwsio y gallech chi ei ddatrys eich hun? Cysylltwch os gwelwch yn dda ac fe wnawn ni ddarparu’r darnau!

Trwy wneud eich mân waith trwsio eich hun, gallwch leihau’r amser aros a gwneud y gwaith yn eich amser eich hun. Mewn rhai achosion, gall hyn leihau’r angen i chi gymryd amser o’r gwaith er mwyn i’r tîm trwsio gael mynediad i’ch cartref.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud eich gwaith trwsio eich hun, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt ClwydAlyn ar 0800 1835757 lle bydd aelod o’r tîm yn trafod y broses hefo chi.