Skip to content

Beth yw Gwerth Cymdeithasol?

Gwerth cymdeithasol yw gweithgaredd neu wasanaeth sy’n mynd tu hwnt i’r disgwyl ac yn ychwanegu gwerth at y gymuned. Rydym yn creu llawer o werth cymdeithasol ar draws ein sefydliad ac mae wedi ymwreiddio yn ein diwylliant a’n busnes o ddydd i ddydd. Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda rhanddeiliaid allanol a chyflenwyr i gynyddu’r effaith y mae ein gwaith yn ei gael ar ein cymunedau a’n preswylwyr. Gan gefnogi iechyd a llesiant yn gyffredinol a sicrhau’r cyfleoedd gorau ar gyfer addysg, swyddi a datblygu sgiliau.

Cyfran o’r gwaith yr ydym yn ei wneud...

HMP Berwyn project group picture
Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli
Rydym yn gweithio gyda’n contractwyr a phartneriaid i gynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, gwirfoddoli a gwaith. Mae ein partner gontractwr Williams Homes, gyda chefnogaeth ClwydAlyn, wedi sefydlu uned ffatri yng ngharchar y Berwyn, sy’n cynhyrchu paneli tai parod i’w defnyddio ar ddatblygiadau ClwydAlyn a thai newydd eraill.

Mae’r gweithdy yn darparu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’r carcharorion, i’w paratoi i gael gwaith wrth iddynt gael eu rhyddhau. Buddsoddodd ClwydAlyn £41,000 i gefnogi’r cynllun.
Gweithiwch gyda ni
mobile shop picture of can cook
Tlodi bwyd
Mae ClwydAlyn yn parhau i fod yn bartner allweddol yn Bwydo’n Dda, gan dynnu ar arbenigedd y bartneriaeth er mwyn taclo tlodi bwyd ymhlith ein preswylwyr a phobl leol. Rydym yn gwybod bod grŵp bach ond arwyddocaol o tua 10% o breswylwyr yn profi tlodi bwyd eithafol, yn arbennig ymhlith aelwydydd iau.

Trwy bartneriaeth Bwydo’n Dda rhwng ClwydAlyn, Cyngor Sir y Fflint a’r fenter gymdeithasol Can Cook, yn ystod 2022/23 darparodd Bwydo'n Dda dros 75,000 o brydau i’n preswylwyr Gofal Ychwanegol a 6,000 o brydau i ffoaduriaid o Wcráin yn y Ganolfan Groeso.
Bwytwch yn Dda
financial-advice-child-with-camper-van-moneybox
Tlodi tanwydd
Rydym wedi nodi ein Gweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, sy’n ceisio sicrhau bod gan ein cartrefi lwybr tuag at Sero Carbon. Mae’n sicrhau bod yr holl ddatblygiadau newydd yn llwyddo i gael Sero Carbon, ac mae’n helpu i newid arferion ein pobl, preswylwyr, a rhanddeiliaid i ddod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd o ran eu gweithredoedd eu hunain yn y gwaith a thu allan iddo.

Wedi ei ddarparu mewn partneriaeth â Cymru Gynnes a TGP Cymru (yr arbenigwyr Byw â Chefnogaeth), mae Cartrefi Pobl Bywydau a Chymunedau Iach (HHPLC) yn dwyn at ei gilydd gyngor a chymorth ynni, presgripsiynau cymdeithasol, a llesiant i wella deilliannau iechyd pobl trwy ddeall yr achosion sylfaenol.
Dysgwch ragor
resident showing an image on a tablet in Chirk Court
Cynhwysiant digidol
Rydym yn anelu at daclo’r rhwystrau sy’n atal cynhwysiant digidol fel bod mwy o gyfleoedd i gael gwaith. Rydym yn cefnogi preswylwyr i gael mynediad at wasanaethau ar-lein fel Credyd Cynhwysol, gwiriwr budd-daliadau a FyClwydAlyn ein porth ar-lein i breswylwyr. Rydym am leihau unigrwydd cymdeithasol trwy helpu pobl i gael cysylltiadau digidol. Rydym hefyd yn helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella eu hiechyd a’u llesiant.
Ewch yn ddigidol
ESG front cover 2021/2022
Adroddiad Amgylcheddol Cymdeithasol a Llywodraethu 2021/2022
Edrychwch ar ein Hadroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu.
Darllenwch yma
Plumber & Electrician stepping out of a ClwydAlyn van
Perfformiad Strategaeth Asedau 2022-2023
Edrychwch beth mae ein timau asedau yn ei wneud i gadw ein cartref yn ddiogel gan wella ansawdd a fforddiadwyedd ein cartrefi.
Edrychwch sut yr ydym yn perfformio yma