Skip to content

Craig Sparrow portrait picture Craig Sparrow on site at
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu
ClwydAlyn Housing

Cychwynnodd Craig ei yrfa ym maes tai yn 1986 pan ymunodd â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn fel hyfforddai ac erbyn hyn mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector.

Bu’n rheoli’r swyddogaeth ddatblygu nes iddo adael yn 2008 ond dychwelodd i’r cwmni fel Cyfarwyddwr Corfforaethol yn 2017. Yn ystod ei yrfa bu Craig yn gyfrifol am lawer o brosiectau datblygu mawr ar draws Gogledd Cymru, mae’n weithredol ac adnabyddus yn y rhan fwyaf o gylchoedd strategol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar uchelgais ddatblygu’r Grŵp. Wedi ei addysgu yn Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru a Phrifysgol John Moores, Lerpwl, graddiodd Craig gyda BA Anrh mewn Astudiaethau Tai.

Read my bio
Paul McGrady portrait picture Paul McGrady on site
Paul McGrady
Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau
ClwydAlyn Housing

Yng Ngogledd Cymru y maged Paul a chychwynnodd ei yrfa gyda Chyngor Wrecsam lle cymhwysodd fel Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig.

Yna aeth ymlaen i weithio i amrywiol gyrff cyhoeddus mawr yn Lloegr, a chafodd hefyd radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, cyn dychwelyd i Gymru fel Pennaeth Cyllid ac Asedau i Gyngor Sir Ddinbych. Roedd yn rheoli materion ariannol y Cyngor, ei bortffolio eiddo o unedau busnes, tir, ffermydd, ac adeiladau cyhoeddus ac roedd yn bennaeth ar adran tai’r Cyngor. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n gweithio hefyd ar brosiectau amlwg gan gynnwys adeiladu ysgolion newydd, harbwr newydd a phont yn y Rhyl, a datblygiad gwesty a bwyty newydd.

Yna daeth yn Gyfarwyddwr Adnoddau yn Adra, landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n rheoli 6,300 o gartrefi yng Ngogledd Orllewin Cymru, cyn symud i fod yn gyfarwyddwr ar Dai ClwydAlyn yn 2019.

Mae Paul yn gyfarwyddwr anweithredol ac yn gadeirydd ar y pwyllgor cyllid a llywodraethiant, ar Denbighshire Leisure Ltd, is-gwmni i Gyngor Sir Ddinbych sy’n darparu gwasanaethau iechyd, llesiant a hamdden i breswylwyr ac ymwelwyr. Fe’i penodwyd yn ddiweddar ar fwrdd WellFed Ltd, cwmni cynhyrchu bwyd sy’n rhan o elusen sy’n gweithio ar leihau tlodi bwyd yng Ngogledd Cymru.

Mae Paul hefyd yn aelod o fwrdd Magenta Living, cymdeithas dai ym Mhen-bedw sy’n darparu dros 12,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent yng Nghilgwri a Swydd Gaer ynghyd â gofal ychwanegol a chefnogaeth.

Read my bio
David Lewis Executive director of Assets
David Lewis
Cyfarwyddwr Gweithredol Asedau
ClwydAlyn Housing

Ymunodd David â ClwydAlyn yn 1991 fel prentis peiriannydd gwresogi a phlymio.
Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth yn llwyddiannus a chael gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’, newidiodd David ei lwybr gyrfa i reoli asedau, a chafodd swyddi amrywiol o Arolygydd Technegol, Rheoli Contract a goruchwylio tîm bychan o grefftwyr cyn cael ei benodi yn Rheolwr Gwasanaethau Adeiladu ym Mawrth 2012.
Yn hwyr yn 2014, daeth David yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar PenAlyn cwmni cynnal a chadw arbenigol mewnol oedd newydd ei sefydlu gyda dros 90 o staff yn goruchwylio darparu gwasanaethau cynnal a chadw i ClwydAlyn gan ddod â ffrydiau gwaith ychwanegol yn fewnol fel rhoi gwasanaeth nwy a’r contract glanhau.
Yn 2015, penodwyd David yn Gyfarwyddwr Gweithredol Asedau yn goruchwylio’r cwmni cynnal a chadw mewnol arbenigol, Rheoli Asedau a chyflawni cydymffurfio.
Yn ogystal â chael profiad yn y rheng flaen ar wrth reoli yn strategol ar lefel uchel yn y sector tai cymdeithasol, mae hefyd wedi cael gradd BSc 2.1 mewn Rheoli Cynnal a Chadw Adeiladau ac mae ganddo gymwysterau Iechyd a Diogelwch NEBOSH, Tân, Amgylcheddol, Rheoli Asbestos P405 a Phersonau Cyfrifol Legionella. Mae’n parhau i archwilio cyfleoedd dysgu pellach i ymdrin â newidiadau deddfwriaethol.
Mae’n aelod o CIWFM ac mae’n cymryd rhan weithredol mewn fforymau cenedlaethol a grwpiau ffocws lleol am yr agenda datgarboneiddio ac mae’n angerddol am wneud gwahaniaeth i heriau amgylcheddol ac yn cefnogi cynlluniau gwirfoddoli.
Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro ar Onnen ein Menter ar y Cyd newydd gyda landlord cymdeithasol arall yng Ngogledd Cymru i gyflawni ein rhaglen datgarboneiddio.

Read my bio
Executive team Suzanne Mazzone
Suzanne Mazzone
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Tai
ClwydAlyn Housing

Ymunodd Suzanne â ClwydAlyn yn Hydref 2018 ar ôl gweithio yn y gorffennol fel Rheolwraig Digartrefedd a Chomisiynu i Gyngor Sir y Fflint.  Mae Suzanne yn angerddol am atal digartrefedd a gweithio i wella gwasanaethau i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.  Ar ôl ymuno â ClwydAlyn fel Pennaeth Incwm a Gwella Gwasanaethau i gychwyn, arweiniodd Suzanne ar ein nod o ddwyn troi allan o dai cymdeithasol i ben a gweithredu arno.

Ym Medi 2020 penodwyd Suzanne yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Tai dros dro gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy, Casglu Rhent, Ymgysylltu Preswylwyr a Chymunedol a Gwasanaethau Cwsmeriaid.  Mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Well-Fed, menter fwyd sy’n gweithio i ddwyn tlodi bwyd i ben ar draws Gogledd Cymru.

Read my bio
Elaine Gilbert portrait picture Elaine Gilbert christmas image
Elaine Gilbert
Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol,Cyfathrebu a Marchnata
ClwydAlyn Housing

Cychwynnodd Elaine ei gyrfa broffesiynol yn gweithio yn y diwydiant technoleg yn yr 1990au yn Reading; cwblhaodd ei chymwysterau CIPD proffesiynol yn 1996 a symud i’r sector contractio TG a Gwasanaeth Cwsmeriaid lle treuliodd y deng mlynedd nesa yn datblygu ei gyrfa a’i gallu masnachol gan gynnwys arwain yr agweddau pobl ar gytundebau rhoi contractau allanol cymhleth.  Yn ystod y cyfnod hwn y symudodd i Ogledd Cymru.

Penodwyd Elaine yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol i Grŵp Meysydd Awyr Manceinion yn 2007; un o brif gyfrifoldebau’r gwaith oedd cefnogi’r adolygiad ac integreiddio’r busnes meysydd awyr rhanbarthol.  Roedd hyn yn cynnwys arwain agweddau pobl gwerthiant un o’r meysydd awyr llai yn y Grŵp.  Yn ystod ei hamser yn y sector, dilynodd gymhwyster annog proffesiynol ac ehangu ei sgiliau datblygu sefydliadol.   Daeth yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ar ôl cwblhau cymwysterau ychwanegol mewn Profi Seicometrig.

Yn ystod y cyfnod hwn ac ar sail ei phrofiadau personol yn cael gofal i’w rheini y penderfynodd chwilio am gyfleoedd yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w galluogi i ddefnyddio ei phrofiad proffesiynol i ddylanwadu ar newid yn y sector.

Cymerodd y swydd o Gyfarwyddwr Datblygiad Sefydliadol a Thrawsnewid ar gyfer Elusen Gofal Cymdeithasol fawr yn 2013 a daeth yn rhan o’r Tîm Gweithredol; roedd y sefydliad yn cyflogi dros 5000 o staff ar draws y Deyrnas Unedig a gwasanaethau yn amrywio o Ofal Cymdeithasol i Oedolion, cefnogi’r rhai sydd ag anableddau i fyw’n annibynnol a Gwasanaethau Gofal Ychwanegol; ar yr adeg hon ymunodd â grŵp traws-sectoraidd dan arweiniad yr elusen Skills for Care gan ddechrau siapio’r safonau ar gyfer datblygu gweithlu yn y Sector Gofal.

Yn 2015 ymunodd Elaine â ClwydAlyn fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol gan ddod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Marchnata a Chyfathrebu.

Daeth yn Aelod o Fwrdd Tai Pawb, Elusen Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y sector Tai yn 2019.

Read my bio
Edwards Hughes
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
ClwydAlyn Housing

Ymunodd Ed â Clwyd Alyn yn Ionawr 2017 ar ôl treulio 8 mlynedd yn gweithio i’r Riverside Group yn Lerpwl, un o’r Cymdeithasau Tai mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Ar ôl ymuno â ClwydAlyn fel Pennaeth Gwasanaethau Preswylwyr, goruchwyliodd Ed y stoc tai Anghenion Cyffredinol, Gofal Ychwanegol a Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y Grŵp. Dyrchafwyd Ed i’w swydd bresennol yn Hydref 2020 ac yn awr mae ganddo gyfrifoldeb am bortffolio Cartrefi Gofal a Nyrsio, Gofal Ychwanegol a gwasanaethau Byw â Chefnogaeth y Grŵp. Mae gan Ed brofiad sylweddol o weithio mewn partneriaeth ar draws Tai, Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector.

Mae gan Ed BSc (Anrhydedd) o Ysgol Fusnes Caerdydd, yn ymarferwr Prince2 cymwysedig ac hefyd mae ganddo gymhwyster Lefel 5 mewn rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gan Ed brofiad blaenorol ar Fwrdd gan iddo fod yn Gadeirydd ar Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint ac yn Is-gadeirydd ar y fwrdd cysgodol Dee Housing.

Mae Ed wedi byw yng Ngogledd Cymru ar hyd ei oes ac mae’n angerddol am wella tai a gwasanaethau cefnogi yn y rhanbarth.

Read my bio
Image of Clare Budden Chief Executive Officer at ClwydAlyn Housing Ltd Image of Clare Budden CEO of Clwydalyn
Clare Budden
Prif Weithredwr y Grŵp ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
ClwydAlyn Housing

Rwyf wedi gweithio i Lywodraeth Leol a Chymdeithasau Tai ar hyd fy ngyrfa ac mae gennyf lawer o brofiad gwirfoddol yn y sectorau elusen a mentrau cymdeithasol. Rwyf wedi cymhwyso i lefel ôl-raddedig ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Tai Siartredig.

Rwy’n Gadeirydd ar 2025, (mudiad a sefydlwyd i ddwyn anghyfartaledd iechyd y gellir ei osgoi i ben yng Ngogledd Cymru); ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Ddod â Digartrefedd i Ben. Rwy’n Aelod Cysylltiol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru ac rwy’n Gadeirydd ar Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy.

Rwy’n angerddol am ddileu tlodi ac anghyfartaledd, ac rwy’n mynd yn flin pan fydd y lle yr ydych yn byw neu y cawsoch eich geni yn dal i effeithio cymaint ar ddeilliannau bywyd.

Rwy’n falch o fod yn Gymraes. Rwy’n fam i bedwar; gan fyw yn y gymuned lle cefais fy magu. Rwy’n teimlo’n lwcus fy mod wedi gallu byw’r bywyd yr wyf yn ei ddewis, ac am wneud yr hyn a allaf i sicrhau bod eraill yn gallu gwneud hynny.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.