Skip to content

Eileen Smith Hughes
Aelod o'r Pwyllgor Eiddo a Phwyllgor Pobl

Bu Eileen yn gweithio yn y Banc am 25 mlynedd. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Undeb Staff y Banc ac fel Cynghorydd Tref ym Mhenmaenmawr.

Read my bio
Cris McGuinness
ClwydAlyn Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor y Bobl
Aelod Bwrdd TirTai a PenArian

Penodwyd Cris McGuinness yn ddiweddar yn Gadeirydd newydd ar ClwydAlyn a bydd yn cymryd y swydd yn ffurfiol ym Medi 2023. Mae Cris yn Gyfrifydd Siartredig a hyfforddwyd gan KPMG sydd wedi treulio ei gyrfa yn gweithio ym maes tai cymdeithasol, gydag ychydig o wyriadau bychain – un i weithio gyda cheiswyr lloches ac un arall i helpu i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus ym Manceinion Fwyaf.

Ar hyn o bryd mae Cris yn Brif Swyddog Ariannol i Riverside lle mae wedi bod yn gyfrifol am bopeth yn ymwneud â chyllid a datblygu ers 2018.

Yn wreiddiol o Dde Cymru, mae Cris yn angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol lle gall hi.

Read my bio
Debbie Attwood
Aelod o'r Pwyllgor Pobl

Ymunodd Debbie â Phwyllgor Pobl ClwydAlyn yn 2019.  Debbie yw Cyfarwyddwr y Grŵp Pobl ar ran Grŵp Torus ac mae hi’n gyfrifol am AD a Datblygu Sefydliadol, Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, ac Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae gan Debbie gyfoeth o brofiad yn maes pobl a sefydliadau yn ogystal â thrawsnewid diwylliant, yn sgil ei gwahanol rolau fel uwch arweinydd ym meysydd Tai, Plismona a’r Gwasanaeth Sifil. Mae gan Debbie radd meistr mewn rheoli adnoddau dynol strategol ac mae hi’n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Datblygiad Proffesiynol (CIPD).

Also, the Housing Perks page from the benefits page has now disappeared – it goes to an error 404 page – but this page worked  last week? Please can you look into this for me.

Read my bio
Sally Thomas
Board Member
Member of the People Committee

Sally joined the ClwydAlyn Board in September 2023. She has had a long career in the NHS and worked as a children’s nurse in hospital and school settings across Conwy and Denbighshire prior to leading the equality and human rights agenda at the Health Board across North Wales.

Through this work Sally has worked with colleagues at an all-Wales level and in partnership with the public sector across North Wales. She maintains an awareness of the diversity of the local population and has worked with individuals and groups to better understand individual lived experience including the barriers experienced by some people. In particular the impact of poverty, increasing social issues and matters affecting local communities. Sally advocates for the importance of inclusion, valuing an individual’s identity, demonstrating compassion, and making fair decisions.

Read my bio
Robert Rowett portrait picture on site picture of Roger
Roger Rowett
Aelod o’r Bwrdd
Taith Ltd

Ymunodd Roger â’r Bwrdd ym Mehefin 2020.

Mae Roger yn gweithio yn annibynnol fel rhan o Taith Ltd sy’n rhoi pwyslais ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, datblygu sefydliadol ac adolygu gwasanaeth. Bu’n gweithio hefyd fel Arolygwr Ysgolion i Estyn, Uwch Arolygydd gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru a Swyddog Datblygu Gweithlu i Gyngor Gofal Cymru. Mae gan Roger ddiddordeb arbennig mewn dulliau ar sail cryfderau ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Seicoleg Busnes. Mae hefyd wedi ysgrifennu cyhoeddiadau a chyfarwyddyd am Gynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ac Ymholiadau Gwerthfawrogol.

Read my bio
Laura Bowbray portrait picture
Laura James-Mowbray
Aelod o’r Bwrdd ar y Llwybr

Ymunodd Laura â’r Bwrdd yn Ionawr 2023 ar ôl cael swydd ar y llwybr trwy Chwarae Teg sy’n sefydliad a sefydlwyd i sicrhau bod merched yng Nghymru yn gallu datblygu eu sgiliau a llunio gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad.

Fel Ymarferwr PRINCE2, mae gan Laura gefndir eang mewn Rheoli Rhaglenni yn y sector cyhoeddus, gan arwain ar raglenni allweddol mewn Gofal Cymdeithasol, Llywodraethu Canolog, Trafnidiaeth ac Addysg ar draws y Rhanbarth.

Ar ôl cymhwyso fel Cynghorydd Busnes, mae Laura wedi bod yn cefnogi a chynghori busnesau ers dros 20 mlynedd trwy gontractau Llywodraeth Cymru ac fel Rheolwr Buddsoddi Rhanbarthol Banc Datblygu Cymru. Mae Laura’n parhau i gefnogi busnesau fel Mentor Busnes Cymru sy’n arbenigo mewn Cynllunio Busnes, parodrwydd am fuddsoddiad ac adeiladu busnes ar-lein.

Cwblhaodd Laura ei gradd mewn Busnes ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn), a’i Chwrs Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Ganed Laura ar Ynys Môn, mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn ddiweddar penodwyd hi i swydd Arweinydd Rhanddeiliaid Busnes Cymru Gyfan yn Llywodraeth Cymru.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.