Skip to content

Assurance Committee Member - Jen Griffiths
Jen Griffiths
Aelod o’r Pwyllgor Sicrwydd

Ymunodd Jen â Phwyllgor Sicrwydd ClwydAlyn ym Medi 2023. Mae Jen yn Reolwr Gwasanaeth yng Nghyngor Sir y Fflint gyda chyfrifoldeb am dai, lles a chymunedau. Bu Jen yn gweithio i lywodraeth leol am dros 30 mlynedd ac mae ganddi brofiad eang ym meysydd tai, tlodi, arwain systemau a gweithio mewn partneriaeth.

Read my bio
Jason Davies
Aelod o'r Pwyllgor Sicrwydd

Jason yw CTO SudoCyber, llwyfan ddysgu ar ffurf gemau a ddefnyddir gan y lluoedd arfog, heddlu, y byd academaidd a byd diwydiant. Mae Jason hefyd yn gyd-sylfaenydd Cyber Wales ac mae wedi bod yn datblygu rhaglenni diogel ac yn cynghori cwmnïau am eu Diogelwch Seibr ers dros 20 mlynedd. Ar ôl treulio ei flynyddoedd cynnar yn y fyddin, aeth Jason ymlaen i sefydlu a rhedeg ei fusnes ei hun yng Nghymru. Mae’n angerddol am helpu i rannu ymarfer da ac atebion gwirioneddol i heriau seibr a chred na ddylai ‘diogel’ olygu ‘cymhleth’.

Arweiniodd angerdd Jason dros y Seibr a Chymru at sefydlu’r Ecosystem Cyber Wales yn 2014 sydd yn awr â 2,700 o Aelodau gyda chydweithrediad rhyngwladol ar draws mwy na 30 o wledydd. Mae Jason hefyd ar Secondiad NCSCi100 a hefyd yn Llysgennad Cyber First yn ogystal â Gwirfoddolwr Seibr Heddlu ac yn Swyddog Arbenigol Wrth Gefn ym Myddin Prydain.

 

Read my bio
Bethan Smith
Bethan Smith
Aelod Bwrdd
Aelod o'r Pwyllgor Sicrwydd

Ymunodd Bethan â Bwrdd ClwydAlyn ym Medi 2023. Bethan yw’r Rheolwr Rhaglen ar y Tîm Ymarfer Da yn Archwilio Cymru. Gwaith y tîm yw gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan Bethan dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ar ôl gweithio yn y gorffennol mewn amrywiol swyddi ar draws Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant yng Nghyngor Sir y Fflint.

Read my bio
Board member Rob Morton
Rob Morton
Aelod o’r Bwrdd

Ymunodd Rob â’r Bwrdd yn Awst 2019.  Treuliodd Rob y rhan fwyaf o’i yrfa yn y sectorau olew a nwy a mentrau cyllid preifat cyn symud drosodd i dai Cymdeithasol. Rob yw’r Cyfarwyddwr Cyllid dros dro ar gyfet Gwasanaethay Corfforaethol ar gyfer elusen byw a chymorth Norwood.

Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn swyddi masnachol ac ariannol ac mae’n gyfrifol am gyllid, gwella busnes, TGCh a menter a thwf. Mae’n gymrawd o Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheoli.

Read my bio
Board member Nia Hughes
Nia Hughes
Cadeirydd TirTai, Aelod Bwrdd ClwydAlyn ac Aelod o'r Pwyllgor Sicrwydd

Ymunodd Nia â’r Bwrdd yn Awst 2019.  Mae Nia hefyd ar Fwrdd Tir Tai a Bwrdd PenArian.

Dechreuodd Nia ei gyrfa ym maes archwilio a threthi yn PWC ac mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Cyfrifyddion Siartredig.  Yn 2015 daeth Nia hefyd yn Aelod Cysylltiol o Gymdeithas y Trysoryddion Corfforaethol.

Ar ôl gadael PWC yn 2010, bu Nia’n gweithio i gwmnïau o’r UDA yn y diwydiannau ceir a meddygol, gan gael profiad eang ar draws pob maes o gyllid rhyngwladol gan gynnwys cyfuno a chaffael a rheoli contractau masnachol.  Yn 2014, symudodd Nia i’r sector tai fel Cyfarwyddwyr Cyllid Cynorthwyol i’r Muir Group cyn dod yn Gyfarwyddwr Cyllid mewn Cymdeithas yn Lerpwl.  Yn 2021, dychwelodd Nia i’r Muir Group fel Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau, gyda chyfrifoldeb am gyllid, Trysorlys, TGCh a thrawsnewid busnes.  Mae Nia wedi bod â swydd Cyfarwyddwr Anweithredol am dros 5 mlynedd yng Nghymdeithas Dai Gogledd Cymru.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.