Skip to content

Image of Clare Budden Chief Executive Officer at ClwydAlyn Housing Ltd Image of Clare Budden CEO of Clwydalyn
Clare Budden
Prif Weithredwr y Grŵp ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
ClwydAlyn Housing

Rwyf wedi gweithio i Lywodraeth Leol a Chymdeithasau Tai ar hyd fy ngyrfa ac mae gennyf lawer o brofiad gwirfoddol yn y sectorau elusen a mentrau cymdeithasol. Rwyf wedi cymhwyso i lefel ôl-raddedig ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Tai Siartredig.

Rwy’n Is-Gadeirydd ar 2025, (mudiad a sefydlwyd i ddwyn anghyfartaledd iechyd y gellir ei osgoi i ben yng Ngogledd Cymru); ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Ddod â Digartrefedd i Ben. Rwy’n Aelod Cysylltiol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru ac rwy’n Gadeirydd ar Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy.

Rwy’n angerddol am ddileu tlodi ac anghyfartaledd, ac rwy’n mynd yn flin pan fydd y lle yr ydych yn byw neu y cawsoch eich geni yn dal i effeithio cymaint ar ddeilliannau bywyd.

Rwy’n falch o fod yn Gymraes. Rwy’n fam i bedwar; gan fyw yn y gymuned lle cefais fy magu. Rwy’n teimlo’n lwcus fy mod wedi gallu byw’r bywyd yr wyf yn ei ddewis, ac am wneud yr hyn a allaf i sicrhau bod eraill yn gallu gwneud hynny.

Read my bio
Sandy Murray
Sandy Murray
Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau
Tai ClwydAlyn

Ymunodd Sandy â ClwydAlyn ym mis Hydref 2024, ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad ym maes cyllid a swyddogaethau corfforaethol eraill. Ar ôl derbyn hyfforddiant ym myd masnachol adwerthu FMCG, symudodd Sandy i faes tai cymdeithasol a’r trydydd sector ac mae wedi bod yn gweithio i ddarparwyr tai cymdeithasol a darparwyr gofal a chymorth am yr 17 mlynedd diwethaf.

Ar ôl tyfu i fyny mewn tai cymdeithasol, gall Sandy uniaethu â’r angen am gartrefi o ansawdd da a chymunedau cryf.  Mae Sandy yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig ar gyfer Cyfrifon Rheoli, yn aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth ac yn MBA.  Mae Sandy yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar fwrdd Riverside Group, ac ar hyn o bryd mae’n Is-gadeirydd y Bwrdd, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu a Chydnabyddiaeth Ariannol ac yn Ymddiriedolwr y Riverside Foundation.

Mae Sandy yn credu bod cyfuno ei phrofiadau personol â’i datblygiad proffesiynol yn arwain at fantra arweinyddiaeth sy’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gwsmeriaid.  Mae Sandy yn edrych ymlaen i gefnogi ClwydAlyn i gyflawni ei genhadaeth i drechu tlodi drwy gydweithio mewn ffordd bwrpasol.

Read my bio
Si
Sian Williams
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Diwylliant a Chyfathrebu
Tai ClwydAlyn

Cyn ymuno â ClwydAlyn roedd Sian yn gweithio i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf lle’r oedd yn aelod o’r Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol ers ei sefydlu yn 2017 gyda chyfrifoldeb am Hamdden, Cymunedau Actif, Atgyfeiriadau Ymarfer Corff, a chyfrifoldeb sefydliadol am Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu a Dylunio Sefydliadol.

Cyn hynny bu’n gweithio i Gyngor Sir y Fflint ar ôl dechrau ei gyrfa ym maes Datblygu Chwaraeon a Rheolaeth Hamdden.

Mae Sian yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol, ac mae hi wedi bod yn aelod o’r bwrdd ac yn is-gadeirydd cymdeithas dai yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddar, ymunodd â bwrdd Well Fed, busnes cymdeithasol yng ngogledd Cymru sy’n ceisio ‘bwydo pawb yn dda’ beth bynnag yw eu hincwm, gan gyd-fynd â chenhadaeth ClwydAlyn i drechu tlodi.

 

Mae gweithio yn y sector tai cymdeithasol fel aelod bwrdd wedi cael effaith fawr ar Sian ac mae’r profiad wedi tanio ei brwdfrydedd i weithio yn y sector a gwneud gwahaniaeth.

 

Mae Sian wedi byw a gweithio yng ngogledd Cymru ar hyd ei hoes, ac mae ei diddordebau yn ymwneud â gwella bywydau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datgloi potensial a datblygu pobl.

Mae ganddi raddau BSc ac MSc mewn meysydd yn ymwneud ag Iechyd, daeth yn ymarferydd NLP hyfforddedig yn 2018 gan fynd ymlaen i gwblhau CIPD Lefel 7 a dod yn Gymrawd Siartredig.

Yn ei hamser hamdden mae Sian yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau, gwrando ar gerddoriaeth fyw, cymryd rhan mewn cwisiau a mynd â’i chi, Jaxon y Cockapoo, am dro!

 

Read my bio
Craig Sparrow portrait picture Craig Sparrow on site at
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu
ClwydAlyn Housing

Cychwynnodd Craig ei yrfa ym maes tai yn 1986 pan ymunodd â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn fel hyfforddai ac erbyn hyn mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector.

Bu’n rheoli’r swyddogaeth ddatblygu nes iddo adael yn 2008 ond dychwelodd i’r cwmni fel Cyfarwyddwr Corfforaethol yn 2017. Yn ystod ei yrfa bu Craig yn gyfrifol am lawer o brosiectau datblygu mawr ar draws Gogledd Cymru, mae’n weithredol ac adnabyddus yn y rhan fwyaf o gylchoedd strategol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar uchelgais ddatblygu’r Grŵp. Wedi ei addysgu yn Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru a Phrifysgol John Moores, Lerpwl, graddiodd Craig gyda BA Anrh mewn Astudiaethau Tai.

Read my bio
Executive team Suzanne Mazzone
Suzanne Mazzone
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Tai
ClwydAlyn Housing

Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol Suzanne Mazzone wedi bod yn rhan o Dîm Rheoli Gweithredol ClwydAlyn ers mis Medi 2020. Gan arwain ar ddarparu tai o ansawdd da a chyfathrebu’n effeithiol â phreswylwyr, mae Suzanne yn canolbwyntio ar ddyraniadau tai, gwaith cynnal, tai gwag, ymgysylltu â phreswylwyr a gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae gan Suzanne ddiddordeb personol mewn atal digartrefedd a chwaraeodd ran hollbwysig yn y broses o lunio a chyflwyno polisi ‘Dim Troi Pobl Allan o’u Cartrefi a’u gwneud yn Ddigartref’ ym mis Ebrill 2019.

Gwaith Suzanne ar draws y Sector Tai
Mae Suzanne yn credu’n gryf y dylai tai fforddiadwy o ansawdd uchel, fod ar gael i bawb. Dechreuodd ei gyrfa ym maes tai yn 2003, ac enillodd brofiad gwerthfawr o’r sector wrth weithio gyda phobl oedd wedi bod yn ddigartref, mewn pob math o amgylchiadau.
Ar ôl gweithio i Gyngor Sir y Fflint lle bu’n goruchwylio gwasanaethau cymorth tai a datrysiadau tai, dechreuodd Suzanne ar ei gyrfa gyda ClwydAlyn yn 2018, pan gafodd ei phenodi yn Bennaeth Incwm a Gwella Gwasanaethau.
Trwy gefnogi dealltwriaeth o unigolion sy’n seiliedig ar drawma, a’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael cartref sefydlog, mae dull gweithredu Suzanne yn ymgorffori gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, dechrau sgyrsiau yn ymwneud â chymorth i breswylwyr, ac annog newid er mwyn helpu i sicrhau cartrefi a chymunedau sefydlog i deuluoedd ledled Gogledd Cymru.

Read my bio
Edwards Hughes
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
ClwydAlyn Housing

Ymunodd Ed â ClwydAlyn ym mis Ionawr 2017 ar ôl gweithio am 8 mlynedd gyda Riverside Group yn Lerpwl, un o Gymdeithasau Tai mwyaf y DU. Ar ôl ymuno â ClwydAlyn fel Pennaeth Gwasanaethau Preswylwyr, cafodd Ed ei ddyrchafu yn Gyfarwyddwr Gweithredol ym mis Hydref 2020 ac mae bellach yn gyfrifol am Gartrefi Gofal a Nyrsio, Gofal Ychwanegol a Byw â Chymorth, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth Adeiladu a Thai Fforddiadwy. Mae gan Ed brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth ym meysydd Tai, Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector.

Enillodd Ed radd BSc (Anrhydedd) yn Ysgol Fusnes Caerdydd, mae’n ymarferydd cymwysedig Prince2 ac mae ganddo gymhwyster Lefel 5 mewn rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae Ed yn Gyfarwyddwr Anweithredol Aura Wales ac yn ei amser hamdden mae’n hyfforddwr rygbi mini gyda Chlwb Rygbi’r Wyddgrug.

Mae Ed wedi byw yng Ngogledd Cymru ar hyd ei oes ac mae’n angerddol dros wella gwasanaethau tai a chymorth yn y rhanbarth.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.