Skip to content

Mae ClwydAlyn yn llawer mwy na darparwr tai cymdeithasol.

Rydym yn darparu gwasanaethu i’r bobl fwyaf bregus yng Ngogledd Cymru. Mae’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn cynnwys llochesi i’r digartref, llety i bobl mewn perygl o ran trais domestig, pobl sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl, byw â chefnogaeth i bobl sydd yn cael trafferth gyda chaethiwed i sylweddau, cynlluniau gofal ychwanegol i bobl hŷn gydag anghenion iechyd ar lefel isel a chartrefi gofal i’r rhai sydd angen mwy o gefnogaeth.

Rydym hefyd yn cael effaith sylweddol ar y gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru trwy ein cefnogaeth gyda chynlluniau fel Bwydo’n Dda, cwmni cynhyrchu bwyd lleol, ‘We Mind the Gap’, cynllun sy’n rhoi cyfle i fenywod dan anfantais i gael hyfforddiant a swyddi, a’n defnydd o ddeunyddiau lleol i adeiladu cartrefi carbon isel iawn.

Gwasanaethau Tai

Glasdir semi-detached property in Ruthin
Tai Cyffredinol ar Rent
Bydd timau’r gofrestr tai ar draws yr holl awdurdodau lleol yn asesu eich gofynion tai gan ddibynnu ar eich amgylchiadau ac yna yn rhoi eich angen am gartref yn nhrefn blaenoriaeth.
Dysgwch ragor
Chirk Court care home  front image
Cartrefi Gofal a Nyrsio
Credwn y dylai pobl gael cefnogaeth i fyw bywyd mor llawn ag annibynnol ag y gallant, ac y dylai hynny gael ei gynnig mewn amgylchedd diogel.
Dysgwch ragor
supported living accommodation front
Llety Byw â Chefnogaeth
Rydym yn darparu llety a chefnogaeth i unrhyw un dros 16 mlwydd oed sy’n ddigartref neu angen cefnogaeth arbenigol.

Byddai cyfeiriadau ar gyfer y cynlluniau trwy’r awdurdod lleol.
Dysgwch ragor
front of Maes y dderwen
Cynlluniau Byw’n Annibynnol i bobl hŷn
Bydd cymhwyster yn wahanol ym mhob cynllun, ond yn nodweddiadol rhaid i chi fod dros 55 neu 60 ac ag angen gofal a chefnogaeth (Gofal Ychwanegol).
Dysgwch ragor
outside image of Bryn Awelon leasehold schemes for older people
Cynlluniau Prydlesu i bobl hŷn
Fflatiau wedi eu hadeiladu i’r diben yw Cynlluniau Prydlesu i bobl hŷn, wedi eu dylunio yn benodol i ddiwallu anghenion y rhai dros 55 oed, a’u bwriad yw cynnig llety cost isel i’r prydleswr a ffordd o fyw hollol annibynnol.

Gelwir y cynlluniau hyn yn Gynlluniau Prydlesu i’r Henoed (LSE).
Dysgwch ragor
Hen Ysgol-y-Bont Llangefni
Cynlluniau Cymorth Prynu
Cynllun sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu benthyciad ecwiti i helpu i brynu eiddo ar y farchnad agored.

Wedi eu dylunio ar gyfer y rhai na fyddai’n gallu fforddio prynu eiddo fel aral
Dysgwch ragor
Ffordd Tan Yr Ysgol
Rhan Berchenogaeth a Phrydles 100%
Tai neu fflatiau prydes a brynwyd rhwng 25% a 100% ar brydles.
Dysgwch ragor
housing officer approaching a house
Cartrefi Fforddiadwy
Eiddo ar rent canolradd a Rhentu i Brynu a ddyrannwyd trwy’r Gofrestr Tai Fforddiadwy.

Ar hyn o bryd, er mwyn bod yn gymwys i ymuno â’r gofrestr fforddiadwy, rhaid i incwm yr aelwyd fod rhwng £16,000 a £60,000.
Dysgwch ragor
Hen Ysgol y Bont front of properties
Eiddo sydd ar gael (i’w rhentu ac i’w prynu)
Yn y maes hwn rydym yn cynnwys ein Rhent Canolradd, Rhentu i Brynu, Cynlluniau Prydlesu i bobl hŷn ac eiddo Rhan Berchenogaeth.
Edrychwch ar yr eiddo sydd ar gael yma.

Cefnogaeth Bregrusrwydd

Llochesi i’r Digartref
Gall unrhyw un fynd yn ddigartref a bod angen cefnogaeth yn ystod ei oes.

Credwn fod gan bawb sydd ag angen hawl i gael cartref, cefnogaeth, a’r cyfle i ddatblygu ei sgiliau a’i drin yn deg.
Dysgwch ragor
Llochesi Trais Domestig
Mae gan bawb yr hawl i fyw heb ofn ac nid oes neb yn haeddu cael ei gam-drin.

Gallwn gynnig gwybodaeth, cefnogaeth a lle diogel i aros i ferched a phlant ac mae gennym wasanaeth galw heibio yn y Fflint, Sir y Fflint.
Dysgwch ragor
Cefnogaeth Iechyd Meddwl
Pan fyddwch yn chwilio am help ar gyfer eich iechyd meddwl, gall fod yn anodd gwybod sut i gychwyn neu i ble i fynd.

Rydym wedi creu rhai dolenni defnyddiol i helpu i’ch cyfeirio at unrhyw gefnogaeth, petai arnoch ei angen.
Dysgwch ragor