Skip to content

Mae eiddo Cymorth Prynu yn cael eu prynu gyda chymorth benthyciad ecwiti wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Nid oes gennym unrhyw eiddo Cymorth Prynu newydd wedi eu cynllunio ar hyn o bryd, ond efallai y bydd gennym yn y dyfodol.

Fel prynwr Cymorth Prynu bydd raid i chi fedru ariannu 70% neu mewn rhai achosion 50% o bris y pryniant eiddo trwy forgais fel arfer a byddwn ni yn rhoi grant i chi wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn ail arwystl ar yr eiddo ac fel arfer bydd gennych gyfle i’n had-dalu pan fyddwch yn gallu gwneud hynny neu wrth Werthu.

Cwestiynau cyffredin

Mae angen i brynwyr Cymorth Prynu fedru ariannu 70% o bris y pryniant ar eiddo, trwy forgais fel arfer a byddwn ni yn rhoi grant 30% i chi wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Gelwir hwn yn “ail arwystl” ar yr eiddo ac fel arfer bydd gennych gyfle i’n had-dalu pan fyddwch yn gallu gwneud hynny, ond bydd raid ei ad-dalu os byddwch yn gwerthu.

Nid oes rhent i’w dalu gan fod yr eiddo yn berchen 100% i’r prynwr.

Gallwch, gallwch ad-dalu’n gynnar. Bydd y swm y byddwch yn ei ad-dalu yn gysylltiedig â chanran y benthyciad ecwiti. (Os gwnaethoch fenthyca 30% byddwch yn ad-dalu 30% o werth presennol eich eiddo, ar adeg yr ad-daliad)

Ydych, rydych yn llwyr gyfrifol am yr holl gynnal a chadw a gwaith trwsio, y strwythur, y tu mewn a thu allan eich cartref. Mae’n bwysig cofio eich bod hefyd yn gyfrifol am yswirio’r eiddo gan mai chi yw’r rhydd-ddeiliad

Ydych, chi sy’n gyfrifol am yswirio’r eiddo o ran yswiriant adeiladau a chynnwys gan mai chi yw’r rhydd-ddeiliad

Nid oes rhent i’w dalu, ond efallai y bydd gennych dâl gwasanaeth misol os oes ardal gymunedol yr ydych yn cael ei defnyddio

pdf
Cymorth Prynu canllaw i ymgeiswyr
Lawrlwythwch