Skip to content

Amdanom ni

Ffurfiwyd ClwydAlyn yn 1978 fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Erbyn hyn rydym yn rheoli dros 6,200 o gartrefi ac yn cyflogi tua 750 o staff, i ddarparu ystod o wasanaethau yn gysylltiedig â rheoli tai ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn benodol.

  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Powys
  • Wrecsam

Mae cartrefi a gwasanaethau’r Grŵp yn cynnwys tai fforddiadwy i deuluoedd ac i bobl sengl, llety byw â chefnogaeth a gwasanaethau gofal arbenigol, rhan berchenogaeth, gwasanaethau rheoli prydlesi a llety canolraddol ar rent.

Mae ClwydAlyn yn cynnwys 4 endid cyfreithiol;

  1. ClwydAlyn, Cymdeithas Dai gyda nodau elusennol, cwmni masnachol
  2. TaiElwy cwmni masnachol i gyflawni gweithgareddau anelusennol ar raddfa (nid yw’r cwmni hwn yn weithredol ar hyn o bryd)
  3. TirTai Cyf sy’n rheoli’r rhaglen adeiladu tai cymdeithasol o’r newydd
  4. Cyllid Tai PenArian Cyf, y mae ClwydAlyn yn cael mynediad at gyllid bond trwyddo

Mae ClwydAlyn yn llawer mwy na darparwr tai cymdeithasol. Rydym yn darparu gwasanaethu i’r bobl fwyaf bregus yng Ngogledd Cymru. Mae’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn cynnwys llochesi i’r digartref, llochesi i bobl mewn perygl o ran trais domestig, cefnogaeth iechyd meddwl, byw â chefnogaeth i bobl sydd yn cael trafferth gyda chaethiwed i gyffuriau ac alcohol, cynlluniau byw’n annibynnol i bobl hŷn a chartrefi gofal i’r rhai sydd angen mwy o gefnogaeth. Yn ystod 2022 fe gawsom hefyd ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i redeg canolfan ffoaduriaid i bobl Wcráin oedd yn ffoi rhag ymosodiad Rwsia.

Rydym hefyd yn cael effaith sylweddol ar y gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru trwy ein cefnogaeth gyda chynlluniau fel Bwydo’n Dda, cwmni cynhyrchu bwyd lleol, ‘We Mind the Gap’, cynllun sy’n rhoi cyfle i fenywod difreintiedig i gael hyfforddiant a swyddi, a’n defnydd o ddeunyddiau lleol i adeiladu cartrefi carbon isel iawn.

Diweddariad Ariannol

Diweddariad Gaeaf 2023

Er gwaethaf yr amodau allanol heriol, mae ClwydAlyn wedi perfformio’n da yn ystod 23/24.

Rydym yn dal i fod yn gryf o ran hylifedd, ac ar ddiwedd 22/23 roedd gennym falansau arian parod o £22m ac £16m ychwanegol mewn arian grant a dderbyniwyd yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill. Yn ogystal â hyn, gwnaethom dderbyn £20m ym mis Mai o werthiant bond gohiriedig a derbyniwyd £20m yn ychwanegol ym mis Tachwedd. Mae gennym gyfleuster credyd cylchol (RCF) o £25m heb ei dynnu. Mae llif arian cryf wedi golygu ein bod wedi cynhyrchu incwm sylweddol hefyd o gyfrifon cadw wrth i gyfraddau llog godi.

Rydym wedi cyllidebu ar gyfer trosiant o ychydig dros £58m a’n gorswm gweithredu ar hyn o bryd yw 20% gyda rhagolwg gwarged gweithredu ychydig yn is na’r hyn sydd wedi’i gyllidebu, sef £10.5m. Mae ôl-ddyledion wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym wedi buddsoddi adnoddau i gyflogi swyddogion ymyrraeth gynnar i ddarparu cymorth wedi’i dargedu. Mae nifer yr eiddo gwag yn dal i fod yn fwy na’r hyn a ragwelwyd, yn rhannol oherwydd bod angen mwy o waith nag arfer ar eiddo hŷn sy’n dod yn wag. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gwelliant yn ein cynlluniau gofal wrth i lefelau eiddo gwag ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. Rydym wedi parhau i ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i’n galluogi i ddefnyddio eiddo sydd wedi bod yn wag am amser hir .

Ym mis Tachwedd gwnaethom dderbyn grant o £2m yn ystod y flwyddyn hon tuag at gostau datgarboneiddio. Mae hyn yn ychwanegol at yr £1.7m y gwnaethom ei dderbyn y llynedd, ac rydym yn disgwyl i’r arian hwn gael ei roi eto eleni. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Safon Ansawdd Tai Cymru newydd, y bydd yn ofynnol i bob cymdeithas dai ei fabwysiadu. Er bod rhai heriau yn gysylltiedig â’r safon newydd, nid oedd unrhyw elfennau annisgwyl ac mae datgarboneiddio yn ganolog iddo.

Nid ydym yn prynu eiddo i’w werthu ac rydym yn dibynnu ar swm cymharol fach (£1m y flwyddyn) o incwm a ddaw o waredu eiddo dros ben a chynyddu neu leihau cyfran perchentyaeth. Er bod cyfraddau llog yn gostwng mae preswylwyr yn dal i ddangos diddordeb mewn cynyddu neu leihau eu perchentyaeth ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein cyllideb.

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith diogelwch tân ar draws ein hadeiladau cymhleth. Mae tua £2m wedi cael ei wario ar un cynllun gofal ychwanegol ac un cartref gofal ac mae’r gwelliannau hyn wedi’u hariannu gan grant Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, roedd gennym raglen i newid gwerth £1m o ddrysau tân ar draws ein heiddo ac mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau. Yn wahanol i Loegr, mae systemau chwistrellu dŵr wedi bod yn orfodol ym mhob adeilad newydd, gan gynnwys tai, ers 2016 felly mae’r rhain wedi’u gosod mewn cyfran mawr o’n stoc.

Roedd ein cynllun datblygu wedi arafu’n sylweddol yn ystod Covid a dechreuodd gyflymu y llynedd, ac erbyn hyn mae gennym tua 450 eiddo ar safleoedd ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl y bydd tua 150 o dai newydd yn cael eu trosglwyddo yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae trefn grantiau Cymru yn dal i fod yn gefnogol iawn o adeiladau newydd, a bydd grant fel arfer yn talu am 60% o unrhyw gynllun. Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun i gyfrannu at unrhyw gostau ychwanegol a ddaw yn sgil chwyddiant uchel hefyd. Mae’r holl dai newydd rydym yn eu codi yn cyrraedd safon A EPC.

Aeth contractor, a oedd ar fin darparu 177 o dai i ni, i ddwylo’r gweinyddwyr ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae’r contractau hyn yn cael eu hail-osod ar hyn o bryd. Mae dau gwmni lleol wedi ennill y tendrau ac rydym wrthi yn cwblhau’r contractau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gefnogi unrhyw gostau ychwanegol drwy gynyddu’r grant.

Daw tua 60% o incwm ClwydAlyn o ffynonellau llywodraeth – budd-dal tai, grant cefnogi pobl, lleoliadau cartrefi gofal a ariennir gan gynghorau a chontractau eraill, sydd yn rhai risg isel unwaith y byddant wedi’u dyfarnu, er eu bod wedi’u cyfyngu gan bwysau cyllidebol ar gynghorau. Mae’r straen ar gyllidebau cynghorau wedi golygu ein bod wedi gorfod gweithio’n galed gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu talu cyfraddau rhesymol am fyw â chymorth a gofal.

Mae hyn yn gadael 40% sy’n cael ei dalu gan denantiaid yn uniongyrchol i’r cwmni. Mae 15% o’r swm hwn yn cael ei dalu gan breswylwyr mewn cynlluniau gofal a gofal ychwanegol a 25% gan anghenion cyffredinol. O ystyried y pwysau cynyddol ar ein preswylwyr, rydym yn cynnig cymorth a chyngor i sicrhau eu bod yn gallu rheoli eu rhent a chael mynediad at fudd-daliadau a mathau eraill o gymorth ariannol.

Mae’r hinsawdd economaidd anodd bresennol wedi cael effaith sylweddol ar gostau’r busnes yn ystod y flwyddyn wrth i gyflogau, costau defnyddiau a bwyd oll godi. Gwnaethom aildendro ein hyswiriant a chynyddodd y gost yn sylweddol; fodd bynnag, roedd yn bosibl talu am hyn o’n cyllideb arian wrth gefn gorfforaethol. Defnyddiwyd yr arian wrth gefn i dalu am gostau Storm Babet hefyd, wedi i lifogydd effeithio ar tua 20 o’n heiddo. Gwnaethom aildendro ein contract trydan ym mis Rhagfyr, ac mae’r cyfraddau newydd tua 30% yn is na’r contract presennol. Bydd mwyafrif helaeth yr arbediad hwn yn cael ei drosglwyddo i’r tenantiaid drwy ostwng taliadau gwasanaeth.

Mewn partneriaeth â chymdeithas dai arall, cytunodd ein bwrdd i sefydlu cwmni cyd-fenter newydd hefyd – Onnen – a fydd yn cyflawni rhan o’n gwaith datgarboneiddio ôl-osod. Bydd yn darparu rhywfaint o waith yn uniongyrchol ond disgwylir hefyd y bydd yn gweithio gyda’r BBaCh a’r cadwyni cyflenwi lleol i ddatblygu’r farchnad leol a chapasiti fel bod modd cyflawni’r gwaith hwn ar ran y ddwy gymdeithas dai. Dechreuodd fasnachu yn gynharach eleni ac mae ar y llwybr iawn i gyflawni yn erbyn ei gynllun busnes cymeradwyedig.

Yn ystod 2022/23 cysylltodd elusen dai fach â ni i ofyn a fyddai’n bosibl iddi drosglwyddo ei phortffolio o 12 tŷ i ni. Gwnaethom gytuno a chwblhawyd y trosglwyddiad ym mis Medi. Gwerth y trosglwyddiad tai oedd ychydig o dan £1m.

Er gwaethaf y pwysau ar ein cyllideb, y rhagolwg ar gyfer diwedd y flwyddyn ar hyn o bryd yw y byddwn £700k yn unig yn fyr o’r gwarged gweithredu rydym wedi cyllidebu ar ei gyfer, sef £11.2m. Bydd ein gwarged net £1m yn fwy na’r gyllideb oherwydd bod y trosglwyddiad o stoc bach werth £500k yn fwy na’r disgwyl a’r incwm ychwanegol o’r llog ar gyfrifon arian parod.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gallai cymdeithasau tai godi rhenti ar gyfer y flwyddyn 24/25 hyd at 6.7%. Roedd hyn yn cyfateb i chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) mis Medi ac roedd yn unol â’r disgwyliadau yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu, er y bydd 2024/25 yn flwyddyn heriol, y bydd o fewn cwmpas y senarios cynllunio presennol.

Gwnaethom gadw ein sgôr credyd ‘A Stable’ gyda Standard and Poor’s yn dilyn eu hadolygiad ym mis Gorffennaf 23. Adolygwyd ein sgôr Moody’s ym mis Hydref 23 ac arhosodd ar A3. Fodd bynnag, roeddem yn falch bod Moody’s wedi gwella ein rhagolwg o ‘negyddol’ i ‘sefydlog’.

Ym mis Medi gwnaethom ffarwelio â sawl aelod o’r bwrdd a oedd wedi gwasanaethu am amser hir. Penodwyd cadeirydd newydd i’r bwrdd – Cris McGuiness – sydd ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Ariannol Riverside Housing. Gwnaethom hefyd benodi Cadeirydd Sicrwydd newydd – Rob Morton – a oedd yn Gyfarwyddwr Adnoddau gyda Honeycomb Housing Group tan yn ddiweddar ond sydd newydd ymgymryd â swydd newydd gyda Norwood, Elusen Byw â Chymorth, fel Cyfarwyddwr Cyllid. Penodwyd 3 aelod newydd arall i’r bwrdd, gyda chefndiroedd ym meysydd Rheoli Rhaglenni, Caffael, a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. At hyn, rydym wedi penodi arbenigwr diogelwch seiber i’n Pwyllgor Sicrwydd ac arbenigwr asedau ac eiddo i’n Pwyllgor Eiddo.

Cyfraddiadau

Rydym yn falch ein bod wedi cadw ein cyfradd gredyd ‘A Sefydlog’ gyda Standard and Poor ar ôl eu hadolygiad ym mis Gorffennaf 23. Adolygwyd ein cyfradd Moody’s yn Hydref 22 ac arhosodd ar A3. Cyhoeddodd Moody’s eu bod yn rhoi’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai ar ragolygon negyddol oherwydd yr hinsawdd macro-economaidd ac roedd hyn yn cynnwys ClwydAlyn. Ond mae’r perfformiad ariannol sylfaenol yn parhau yn sefydlog.

pdf
Moody's Credit Opinion
Lawrlwythwch