Skip to content
Ein Haddewid
Ein haddewid yw ein siarter preswylwyr.

Rydym yn defnyddio Ein Haddewid i fesur ein perfformiad, gyrru gwelliannau gwasanaeth ac mae’n ein gwneud yn atebol i breswylwyr mewn modd agored a didwyll. Credwn bod cartref yn bwysig ac y dylai cartref fod yn fwy na dim ond pedair wal a tho. Mae Ein Haddewid yn nodi ein hymrwymiad i gyflawni gwasanaethau rhagorol.
Gwerth am arian
Sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn deg ac yn cynnig gwerth am arian.

Byddwn yn gweithio gyda’n preswylwyr i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed am y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Bydd adborth preswylwyr yn cael ei ystyried wrth gynllunio unrhyw wasanaethau yn y dyfodol a bydd yn hanfodol wrth fynd allan am dendr gyda’n partneriaid allanol.
Gwasanaethau rhagorol
Darparu gwasanaeth rhagorol a rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn perfformio o ran gwaith cynnal a chadw hanfodol, gwaith trwsio a diogelwch.

Rydym bob amser yn edrych sut y gallwn gynnig y gwasanaeth tai mwyaf effeithlon i’n preswylwyr, gan sicrhau ein bod yn hawdd cysylltu â ni.
Cartrefi diogel mewn cyflwr da
Sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn saff ac yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda.

Diogelwch ein preswylwyr a’u cartrefi yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn cymryd ein hymrwymiadau rheoleiddiol, cydymffurfio a rheoli risgiau cysylltiedig o ddifri.

Rydym yn addo rhoi cartrefi o safon uchel, diogel ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda i’n preswylwyr. Mae ein tîm cynnal a chadw yn parhau i weithio trwy ein dull Diogelwch yn Bennaf i wneud gwaith argyfwng a gwaith trwsio hanfodol i gartrefi ein preswylwyr.
Agored a didwyll
Gwario arian yn ddoeth a dweud wrthych sut yr ydym yn ei wario fel eich bod yn gallu ein gwneud yn atebol.

Bydd ein perthynas â’n preswylwyr yn seiliedig ar ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd: gyda diwylliant yn seiliedig ar fod yn ddidwyll a thryloyw.
Rheoli ein busnes yn dda
Sicrhau ein bod yn cael ein rhedeg yn dda ac yn gynaliadwy yn ariannol fel ein bod yn gallu parhau i daclo tlodi.

Rydym yn adolygu pob agwedd o’r busnes yn ystod Cynllunio Busnes i sicrhau bod gwasanaethau yn rhoi gwerth am arian ac yn ystyried fforddiadwyedd wrth osod rhent a Thaliadau Gwasanaeth.
Gwrando a gweithredu
Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, gwrando ar eich adborth, ac ymdrin â chwynion yn gyflym a theg.

Rydym yn deall gwerth ymgysylltu â’n cwsmeriaid, rydym yn defnyddio dull amrywiol o gael adborth ein preswylwyr; gan adael i ni gael ymateb amrywiol. Trwy wrando ar farn ein preswylwyr rydym yn gallu parhau i ddysgu a gwella’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu.
Creu balchder yn ein cymunedau
Eich cefnogi i fyw’n dda yn eich cartref, fel eich bod yn gallu byw’r bywyd yr ydych yn ei ddewis mewn cymuned ddiogel a chysylltiedig.

Rydym am i bawb yng Ngogledd Cymru gael mynediad at dai o safon ragorol, ac rydym am weithio gyda phartneriaid i ymdrin ag achosion ac effeithiau tlodi.
Cartrefi fforddiadwy
Sicrhau bod eich cartref yn fforddiadwy a’ch cefnogi chi gyda chyngor ar incwm a.

Credwn y dylai pawb allu fforddio byw mewn cartref diogel sy’n cael ei gynnal a’i gadw yn dda.

Yn ddiweddar fe wnaethom greu polisi rhent fforddiadwy newydd sy’n ystyried barn, amgylchiadau ac incwm ein preswylwyr: gan greu meincnod ar gyfer yr holl renti.

Adroddiad Ein Haddewid am 2022/23

Darllenwch yr adroddiad yma