Skip to content

Rydym yn gweld cynnydd yn y nifer o gwsmeriaid y mae cwmnïau sy’n cynnig gwasanaeth ‘dim ennill dim ffi’ am ddiffyg cynnal a chadw yn cysylltu â nhw.

Mae’r cwmnïau yma yn cysylltu â chwsmeriaid am gyflwyno hawliad yn ein herbyn am ddiffyg cynnal a chadw, ond yn aml maent yn cam-fanteisio ar y system. Nid yw’r sefydliadau yma yn gysylltiedig â ni o gwbl ac yn anaml y maent yno er budd i chi. Os bydd yr achos yn cael ei ennill, gall swm yr arian y maent yn ei gymryd fel ffioedd fod yn uchel iawn.

Os oes gennych broblem am waith trwsio gyda ni, rydym yn eich annog i fynd trwy ein sianeli adborth i geisio ei datrys. Rydym bob amser yn anelu at ddatrys cwynion yn gyflym, felly os nad ydych yn hapus â rhan o’n gwasanaeth trwsio, ewch i’n tudalen adborth neu cysylltwch.

Efallai hefyd y byddwch am gael cyngor annibynnol o ffynhonnell yr ydych yn ymddiried ynddi, fel eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Rydym wedi clywed y gall rhai o’r cwmnïau hyn roi llawer o bwysau ar bobl i lofnodi ac os byddant yn newid eu meddwl yn ddiweddarach maent yn cael eu bygwth â chamau cyfreithiol. Os ydych yn teimlo hyn o gwbl, cysylltwch â ni, neu os byddai’n well gennych, safonau masnachu yn eich awdurdod lleol.

  • Os oes gennych waith trwsio y byddech yn hoffi ei godi gyda ni gallwch wneud hyn trwy ffonio 0800 183575, anfon e-bost at help@clwydalyn.co.uk neu gofnodi’r gwaith trwsio trwy FyClwydAlyn
  • Os ydych yn anfodlon gyda’n gwaith trwsio ac am gael help i dynnu sylw at unrhyw broblemau, llenwch ein ffurflen cwynion a bydd ein tîm yn gweithio i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych.

Cyngor Diffyg Cynnal a Chadw

  • Mae gennych waith trwsio sydd ei angen yn eich cartref yr ydym ni’n gyfrifol amdano
  • Nid yw’n ymwneud yn benodol â gwelliannau i’r cartref (e.e. ceginau, ystafelloedd ymolchi newydd ac ati)
  • Rydych wedi rhoi adroddiad am y gwaith trwsio
  • Nid ydym wedi ymdrin â’r gwaith i chi yn brydlon
  • Rydych wedi mynd trwy ein proses gwynion (sy’n cynnwys yr Ombwdsmon annibynnol)
  • Gofynnwch am gefnogaeth a chyngor gan Cyngor ar opeth
  • Efallai y bydd costau cudd a gellir codi ffi arnoch os byddwch yn newid eich meddwl
  • Bydd yn broses faith
  • Mae amddiffyn achosion diffyg cynnal a chadw yn eithriadol o gostus i ni ac mae’r arian sy’n cael ei wario ar yr hawliadau yma yn cael ei dynnu oddi wrth gyllid mewn meysydd eraill.
  • Byddwn bob amser yn amddiffyn unrhyw hawliad yn ffyrnig pan fyddwn yn teimlo nad oes cyfiawnhad drosto.
  • Cyn i ni ymwneud ag unrhyw hawliad am ddiffyg cynnal a chadw, rydym yn gofyn i’n proses gwynion gael ei dilyn hyd yr eithaf.
  • Fe allant eich cynghori i beidio â gadael i ni gael mynediad i gwblhau gwaith trwsio gan eich arwain i feddwl y cewch chi fwy o arian.  Nid yw hyn yn wir gan y bydd y llys yn gweld ein bod wedi ceisio cael mynediad. Felly bydd gwrthod mynediad yn golygu y byddwch yn gorfod byw gyda’r gwaith trwsio sydd heb ei wneud am gyfnod hwy.
  • Os byddwch chi fyth yn ansicr, cysylltwch â ni i wirio pwy yw’r person. Nid oes raid i chi roi unrhyw fanylion personol na gadael iddo ddod i mewn i’ch cartref nes byddwch yn siŵr.

Mae rhai o’r cwmnïau yma yn ffonio neu anfon e-bost at ein cwsmeriaid. Os nad ydych yn sicr os yw galwr o ClwydAlyn, ffoniwch ni yn ôl ar 0800 183575 i wirio neu anfonwch e-bost atom.

Rydym eisiau gweithio gyda phreswylwyr i ddatrys unrhyw broblemau y maent yn teimlo sydd ganddynt gyda’u cartrefi a’r gwaith trwsio. Mae croeso i chi gysylltu â ni