Skip to content

Pwysig

Diolch i chi am agor y wefan http://www.clwydalyn.co.uk (y “Wefan”). Darllenwch y telerau a’r amodau hyn (yr “Amodau a Theleru”) cyn defnyddio’r Wefan sy’n cael ei gweithredu gan Tai ClwydAlyn, Gymdeithas Gofrestredig elusennol (rhif 22360R), y mae eu swyddfa gofrestredig a phrif swyddfa yn 72 Ffordd William Morgan Parc Busnes Llanelwy Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0JD (ClwydAlyn). Rhif TAW ClwydAlyn yw: 771911423.

Rydym yn cael ein rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ofynnol arnom i gydsynio â’r  Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru.

Mae Tai Clwyd Alyn wedi ei hawdurdodi a’i rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Os dymunwch gysylltu â Clwyd Alyn ar unrhyw amser, anfonwch e-bost atom yn info@clwydalyn.co.uk.

Trwy ddefnyddio’r Wefan, rydych yn nodi eich bod yn derbyn y Telerau ac oherwydd hynny mae ClwydAlyn yn cynnig mynediad i’r safle i chi. O bryd i’w gilydd gall Clwyd Alyn addasu’r Telerau. Felly, parhewch i adolygu’r Telerau pryd bynnag y byddwch yn cael mynediad i’r Wefan neu yn ei defnyddio. Os byddwch ar unrhyw adeg yn dymuno peidio derbyn y Telerau, yna ni allwch ddefnyddio’r Wefan.

Dim Dibynadwyaeth

Er bod Clwyd Alyn wedi gwneud ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth sydd ar gael ar y Wefan, nid yw ClwydAlyn yn gwarantu nac yn rhoi unrhyw warant o ran ei chywirdeb, amseroldeb na’i chyflawnder na deunydd ar y Wefan. Er gwybodaeth yn unig y mae cynnwys y Wefan hon, nid oes dim ar y safle yn cyfateb i gyngor proffesiynol a dylid cael cyngor bob amser gan weithiwr proffesiynol cymwys am unrhyw broblem neu bryder penodol. Mae ClwydAlyn felly yn ymwadu rhag unrhyw atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar wybodaeth neu ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw un sy’n ymweld â’r Wefan.

Dolenni o’n Gwefan

Pan fydd ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau a ddarperir gan gyrff eraill, rhoddir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd hynny ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nag am unrhyw golled neu ddifrod a all godi wrth i chi eu defnyddio.

Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol. Wrth symud i wefan arall, dylech ddarllen y polisi preifatrwydd (a’r amodau defnyddio) ar y wefan honno.

Ein Tudalennau Gwe Rhwydweithiau Cymdeithasol

Wrth ddefnyddio ein gwefannau rhwydweithiau cymdeithasol (fel Facebook a Twitter) rhaid i chi sicrhau na fydd yr holl sylwadau a roddir gennych (gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau o fewn y sylwadau hynny) yn torri unrhyw gyfreithiau, rheoliadau neu hawliau trydydd parti perthnasol (fel deunydd sy’n aflednais, anaddas, pornograffig, yn annog gwrthryfel, yn sarhaus, fygythiol, yn debygol o annog casineb hiliol, yn codi braw, yn gableddus neu yn torri unrhyw hawliau eiddo deallusol trydydd parti).

Cysylltu i Mewn i’n Gwefan

Gallwch roi dolen i’n hafan ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg a chyfreithlon ac nad yw’n amharu ar ein henw da nag yn cymryd mantais ohono, ond rhaid i chi beidio â llunio dolen mewn ffordd fydd yn awgrymu unrhyw gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni pan na fydd hynny’n bodoli.

Eiddo Deallusol

Diogelir y Wefan, gan gynnwys (ond heb gael ei gyfyngu i), y testun, cynnwys, meddalwedd, graffeg, ffotograffau, darluniadau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnachu a deunydd arall (“Cynnwys”) gan hawlfraint, cronfa ddata, nodau masnachu a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae’r Cynnwys yn cynnwys testun sy’n eiddo i ClwydAlyn neu a reolir ganddi a chynnwys sy’n eiddo neu a reolir gan drydydd partïon ac a drwyddedwyd i ClwydAlyn.

Mae’r holl erthyglau, adroddiadau ac elfennau eraill sy’n llunio’r Wefan yn waith dan hawlfraint. Rydych yn cytuno i gadw at yr holl hysbysiadau hawlfraint ychwanegol neu’r cyfyngiadau a gynhwysir ar y Wefan a’r drwydded a nodir isod.

Ni allwch ddefnyddio unrhyw un o nodau masnachu ClwydAlyn nag enwau masnachu heb gydsyniad ClwydAlyn a’ch bod yn cydnabod nad oes gennych hawliau fel perchennog yn neu ar unrhyw un o’r enwau neu nodau hynny. Rydych yn cytuno i hysbysu ClwydAlyn yn ysgrifenedig yn brydlon ar ôl sylweddoli bod unrhyw fynediad i’r wefan neu ddefnydd ohoni heb ganiatâd wedi digwydd gan unrhyw un neu unrhyw hawliad bod y Wefan neu unrhyw ran o gynnwys y Wefan yn torri unrhyw hawliau hawlfraint, nod masnachu neu fasnachol, statudol neu gyfraith gyffredin unrhyw barti.

Hawliau Trwydded

Darperir mynediad i’r Wefan ar delerau dros dro ac rydych yn cydnabod nad ydych yn caffael unrhyw hawliau na thrwyddedau yn y Wefan neu ynglyn â hi a/neu’r Cynnwys heblaw’r hawliau cyfyngedig i ddefnyddio’r Wefan yn unol â’r Telerau hyn ac i lawr lwytho ar y telerau a nodir yn yr adran hon.

Heblaw fel y nodir yn yr adran hon (neu fel sy’n cael ei ddarparu gan gyfraith berthnasol) ni chewch gopïo, dadgrynhoi, dadymgynnull, newid patrwm, dosbarthu, cynnig ar gael, addasu, uwch lwytho na manteisio mewn unrhyw fodd arall ar unrhyw ran o’r Wefan.

Caniateir lawr lwytho gan ClwydAlyn ar yr amod yn unig:

  • eich bod yn gwneud copïau personol, anfasnachol yn unig o unrhyw gopi a lawr lwythir a/neu a argreffir o’r Wefan ac nad ydych yn addasu unrhyw Gynnwys yr ydych wedi ei argraffu; ac
  • eich bod yn cadw yr holl hysbysiadau hawlfraint ar unrhyw gopi a lawr lwythwyd a/neu a argraffwyd a’ch bod yn parhau yn rhwym gan delerau’r geiriad a’r hysbysiadau hynny.

Yn ychwanegol, ni allwch gynnig y Cynnwys ar werth na gwerthu, rhoi ar gael neu ddosbarthu trwy unrhyw gyfrwng arall (gan gynnwys dosbarthu trwy ddarlledu ar yr awyr ar deledu neu radio neu ddosbarthu ar rwydwaith gyfrifiadurol) nag unrhyw ran ohono.

Heb effeithio ar ystyr cyffredinol yr uchod, gallwch greu dolen i’n Gwefan, ar yr amod bob amser bod unrhyw ddolen yn arwain i’n tudalen hafan [http://www.clwydalyn.co.uk]. Heblaw bod gennych ein caniatâd penodol, ni chewch greu dolen i gynnwys mewnol y Wefan na gwneud unrhyw ran o’r Wefan ar gael fel rhan o wefan arall, boed trwy fframio ar y rhyngrwyd neu trwy ddull arall.

Ni ellir defnyddio’r Wefan a’r wybodaeth sydd arni i lunio cronfa ddata o unrhyw fath, ac ni cheir storio’r Wefan (yn gyflawn neu’n rhannol) mewn cronfeydd data i chi neu drydydd parti gael mynediad iddynt nag i ddosbarthu unrhyw wefannau cronfa ddata sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r Wefan.

Caniatâd

Os hoffech gael gwybodaeth am gael caniatâd ClwydAlyn i ddefnyddio unrhyw ran o’r Cynnwys neu os hoffech gynnwys dolenni i gynnwys mewnol ar dudalennau neu gynnwys sydd ar gael ar y Wefan ar eich gwefan chi, anfonwch e-bost at info@clwyd alyn.co.uk.

Dim gwarant

Mae’r Wefan a’r Cynnwys yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb gynnwys unrhyw warantau ac amodau o unrhyw fath, yn rhai amlwg neu’n rhai a awgrymir, i’r graddau mwyaf a ganiateir gan ddilyn y deddfau perthnasol gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu) eithrio gwarantau ac amodau o ran hawl, gallu i farchnata, ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol a pheidio â thorri hawliau perchenogaeth neu drydydd parti. Nid yw ClwydAlyn chwaith yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am swyddogaethau a gynhwysir ar y Wefan ac nid yw’n gwneud unrhyw warantau y bydd y Wefan yn gweithredu heb ymyrraeth neu heb wall nag y bydd diffygion yn cael eu cywiro.

Nid yw ClwydAlyn yn gwarantu bod y Wefan yn gymhathus gyda’ch cyfrifiadur na bod y Wefan neu ei gweinydd yn ddiwall. Dylech sicrhau eich bod wedi gosod meddalwedd gwirio am firysau cyfredol cyn unrhyw gyfnod ar y rhyngrwyd ac nid yw ClwydAlyn yn atebol am unrhyw ddifrod y gallwch ei ddioddef o ganlyniad i nodweddion niweidiol o’r fath a all effeithio ar eich cyfrifiadur neu eich data oherwydd eich bod wedi defnyddio’r Wefan neu eich bod wedi lawr lwytho unrhyw ddeunydd sydd arni.

Ni fydd ClwydAlyn yn gyfrifol am Gynnwys a ddarperir gan drydydd partïon. Nid yw ClwydAlyn chwaith yn gyfrifol am ddibynadwyedd neu argaeledd llinellau ffôn ac offer yr ydych yn eu defnyddio i gael mynediad i’r Wefan.

Nid yw’r Telerau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol nag ar eich hawliau cyfreithiol fel defnyddiwr.

Cyfyngu Atebolrwydd

Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio’r Wefan, gan gynnwys y Cynnwys, ar eich risg eich hun. Os byddwch yn anfodlon ar y Wefan, y Telerau neu unrhyw ran o’r Cynnwys, eich unig rwymedi yw peidio parhau i ddefnyddio’r Wefan. Heblaw am dwyll ac anaf personol neu farwolaeth i’r graddau ei fod yn deillio o esgeulustod ClwydAlyn, ni fydd ClwydAlyn ar unrhyw achlysur yn atebol i chi nag unrhyw drydydd parti am unrhyw ddifrod uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol, dilynol neu ddamweiniol, colli elw neu elw enghreifftiol, neu unrhyw niwed arall o unrhyw fath boed trwy gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, hyd yn oed os bydd ClwydAlyn wedi cael gwybod am y posibilrwydd o hynny. Os bydd eich defnydd o ddeunydd ar y Wefan yn arwain at yr angen i roi gwasanaeth, trwsio neu gysylltu offer, meddalwedd neu ddata, chi fydd yn cymryd holl gostau hynny.

Firysau Hacio a Throseddau Eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r Wefan trwy gyflwyno firysau, rhaglenni maleisus, bomiau rhesymegol neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu yn niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio ceisio cael mynediad heb ganiatâd i’r Wefan na’r gweinydd y mae wedi ei storio arno a rhaid i chi beidio ymosod ar ein Gwefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth a ddosbarthir.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n cael ei achosi gan ymosodiad atal gwasanaeth a ddosbarthir yn dilyn defnyddio ein Gwefan.

Dirwyn i Ben

Os byddwch yn torri unrhyw un o’r Amodau hyn, mae eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben yn awtomatig.

Newidiadau i’r Wefan

Ar unrhyw adeg, gall y Wefan gynnwys deunydd sydd wedi dyddio. Er nad oes rhwymedigaeth ar ClwydAlyn i wneud hynny, rydych yn derbyn bod gan ClwydAlyn yr hawl i newid y cynnwys neu fanylion technegol unrhyw agwedd ar y Wefan ar unrhyw adeg yn ôl dewis ClwydAlyn yn unig. Rydych yn derbyn hefyd y gall newidiadau o’r fath olygu na fyddwch yn medru cael mynediad i’r Wefan.

Ildio Hawl

Ni fydd unrhyw achlysur pan fydd ClwydAlyn yn ildio’r hawl i ymateb i achlysur o dorri’r Telerau hyn yn cyfateb i ildio hawl i ymateb petai’r amodau yn cael eu torri yn yr un modd wedyn ac ni fydd unrhyw fethiant i ymarfer neu ymarfer yn rhannol gan ClwydAlyn ar unrhyw rwymedi yn cyfateb i ildio’r hawl i arfer y rhwymedi hwnnw wedyn neu unrhyw un arall.

Polisi Preifatrwydd

Gweler ein polisi preifatrwydd.

Amrywiol

Ni fydd gan ClwydAlyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw dorri ar y Telerau hyn sy’n cael ei achosi gan amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth resymol.

Ni fydd gan unigolyn nad yw’n rhan o’r Telerau hyn hawl dan Ddeddf (Hawliau Trydydd Parti) 1999 i orfodi unrhyw ran o’r Telerau hyn.

Y Gyfraith sy’n Rheoli ac Awdurdodaeth

Rheolir y Telerau gan gyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae’r partïon yn ildio i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn llwyr.