Skip to content

Cyfeirir at ranberchnogaeth yn aml fel prynu rhan, rhentu rhan. Dyma’r cynllun pan fydd prynwr yn prynu cyfran o werth yr eiddo ac yna yn talu rhent ar y gyfran arall. 
Fel arfer bydd rhanberchnogaeth yn gynllun da i ymgeiswyr ar incwm is neu ymgeiswyr sydd â blaendal mawr ond sy’n methu cael morgais. 

Gallwch gynyddu eich cyfran, fel y byddwch yn medru ei fforddio, os dymunwch chi, nes byddwch yn berchen ar yr eiddo i gyd: gelwir hyn yn ‘Ddringo’r Grisiau’. Ond, nid oes raid i chi brynu gweddill eich cartref: eich dewis chi yw hynny.

Rydym yn berchen ar tua 800 eiddo prydles ar draws Gogledd Cymru ac o’r rhain mae tua 600 yn eiddo rhanberchnogaeth. Mae gwerth y cyfrannau yn amrywio o 25% i 75%.

Pan fydd rhanberchnogion yn penderfynu gwerthu eu cyfran, bydd yr eiddo yn cael ei brisio gan aelod o’r ‘RICS’ (Sefydliad y Syrfewyr Siartredig) a bydd ymgeiswyr ar y gofrestr tai fforddiadwy yn cael gwybod am yr eiddo newydd sydd ar gael mewn ardaloedd y mae ganddynt ddiddordeb ynddyn nhw.

Prydles 100%

Weithiau mae eiddo yn cael ei brynu ar brydles 100% gyda phrydles hir o 99 neu 125 o flynyddoedd, yn hytrach na phrynu’r rhydd-ddaliad. Gall hyn fod oherwydd nad yw’r rhydd-ddaliad ar gael neu bod yr eiddo yn fflat. Ni fyddai rhent i’w dalu ond byddai tâl gwasanaeth misol i dalu am yswiriant yr adeiladau ac unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir gan ClwydAlyn dan y brydles.

Cyfrifoldebau Rhanberchnogion a Phrydleswyr

Os ydych yn brydleswr 100% ar fflat neu’n ranberchennog ar fflat, chi sy’n gyfrifol am yr holl waith trwsio tu mewn i’ch eiddo oni nodir yn wahanol yn eich prydles. Fel landlord, ClwydAlyn sy’n gyfrifol am yswirio’r adeilad a gwneud gwaith trwsio a chynnal a chadw mewn ardaloedd cymunedol, tu allan a strwythur a gwasanaethau’r adeilad. Mae’r rhain yn cael eu cyflawni ar ran y rhanberchnogion neu brydleswyr gan ClwydAlyn ac mae unrhyw gostau’n cael eu codi ar yr holl eiddo yn yr adeilad trwy dâl gwasanaeth misol.

Os ydych yn rhanberchennog neu brydleswr 100% ar dŷ, mae’r brydles ar eich eiddo yn un drwsio llawn. Mae hyn yn golygu mai chi sy’n gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw’r strwythur a thu mewn a thu allan eich cartref. Bydd ClwydAlyn yn gyfrifol am yswirio’r adeilad ac mae hyn yn cael ei godi arnoch chi trwy dâl gwasanaeth bob mis. Os ydych yn gallu defnyddio unrhyw ardaloedd cymunedol a rennir, efallai y bydd tâl gwasanaeth am gynnal a chadw’r rhain hefyd.

Mae’r union gyfrifoldebau yn amrywio yn ôl y math o gartref yr ydych yn byw ynddo a chynnwys eich prydles.

Cwestiynau Cyffredin Rhanberchnogaeth, Prydles

Eiddo rhanberchnogaeth yw pan fyddwch yn dal teitl prydles am gyfran o’r eiddo ac mae ClwydAlyn yn berchen ar y gyfran sy’n weddill ynghyd â’r rhydd-ddaliad

 

Gallwch ‘Ddringo’r grisiau’ ar unrhyw adeg, sef pan fyddwch yn prynu mwy o gyfrannau yn yr eiddo neu’n prynu’r gyfran sy’n weddill gan ClwydAlyn

 

Mae eich prydles yn mynd yn llai o flwyddyn i flwyddyn, gallwch ymestyn eich prydles ar unrhyw adeg trwy gysylltu â’n tîm tai fforddiadwy a all eich cynghori am y weithdrefn

 

Rhaid i chi gael cadarnhad ysgrifenedig gan y tîm tai fforddiadwy cyn i chi wneud unrhyw waith, efallai y bydd arnoch angen cael caniatâd gan eich benthyciwr morgais hefyd

 

Bydd y rhent a’r taliadau gwasanaeth yn cael eu hadolygu yn flynyddol, ac mae unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn weithredol o 1 Ebrill

 

Dringo’r grisiau
Gallwch ‘Ddringo’r grisiau’ ar unrhyw adeg, sef pan fyddwch yn prynu mwy o gyfrannau yn yr eiddo neu’n prynu’r gyfran sy’n weddill gan ClwydAlyn
Dysgwch ragor