Skip to content

Dringo’r grisiau yw’r weithdrefn sy’n gadael i chi arfer eich hawl i brynu mwy o gyfran o’ch eiddo rhan berchenogaeth presennol.

Bydd eich prydles yn nodi faint y gallwch ei brynu ac os gallwch fod yn berchen ar 100% gan gynnwys y rhydd-ddaliad. Gallwch wneud hyn trwy drafod eich dewisiadau gyda’r swyddog gwerthu. Os ydych yn edrych ar ddringo’r ysgol, bydd arnoch angen cael prisiad ar eich eiddo. Dan amodau eich prydles. Rydym yn gofyn i’r prisiwr gydymffurfio â chod ymddygiad fel:

  • Rhaid i’r prisiwr fod wedi cymhwyso â RICS a’i reoleiddio ganddynt.
  • Rhaid i’r prisiwr fod yn annibynnol oddi wrth werthwr tai.
  • Dylai’r prisiwr ddarparu o leiaf 2 (dau) eiddo cymharol â phrisiau gwerthu pan fydd hynny’n bosibl
  • Rhaid i’r prisiwr beidio bod yn perthyn i’r preswyliwr ac ni chaiff fod yn ei adnabod
  • Rhaid i’r prisiwr archwilio tu mewn yr eiddo a rhoi adroddiad prisio llawn
  • Rhaid i’r prisiwr fynd i’r eiddo cyn pen 7 diwrnod gwaith o’r cyfarwyddyd
  • Nid yw prisiadau a wneir ar gyfer dibenion banc neu forgais, neu fel canllaw i’r pris i’w godi gan werthwr tai, yn dderbyniol
  • Mae ClwydAlyn yn gofyn am gopi o’r adroddiad prisio; rhaid i’r adroddiad ddangos dilysrwydd y prisiad.

Yn ychwanegol, oherwydd bod y prisiad yn cael ei gynnal ar gyfer dibenion dringo’r grisiau, dylai’r prisiad gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Y gwerth dringo’r grisiau nad yw’n cynnwys unrhyw welliannau sylweddol a wnaed
  • Bydd y pris ar y farchnad agored yn cynnwys unrhyw welliannau a wnaed

Wrth fynd trwy’r camau dringo’r grisiau bydd ClwydAlyn yn defnyddio’r ffigwr nad yw’n cynnwys gwelliannau sylweddol. Trwy hyn ni fydd y preswylwyr yn talu am y gwelliannau yn y ganran a brynir gan ClwydAlyn.

Cwestiynau Cyffredin Dringo’r Grisiau

Bydd angen i chi siarad â’r tîm tai fforddiadwy i ddechrau’r broses, byddant yn eich cynghori ar eich camau cyntaf a’r weithdrefn

Bydd bod yn berchen ar gyfran fwy o’ch eiddo neu hyd yn oed fod yn berchen arno i gyd yn cynnig llawer o fanteision.

Mwyaf yn y byd o gyfraddau sydd gennych, mwyaf yn y byd o ecwiti fydd gennych yn eich cartref, sy’n golygu y byddwch yn cael mwy o elw pan fyddwch yn gwerthu eich cartref.

Bydd dringo’r grisiau hefyd yn lleihau neu gael gwared ar eich taliadau rhent

Bydd eich prydles yn nodi pa ganrannau y gallwch chi gynyddu. Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn gallu prynu’r 100% llawn

Na, bydd y rhent yn dod i ben ond mewn rhai achosion gall fod tâl gwasanaeth i’w dalu.

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn berchen ar y rhydd-ddaliad ar ôl dringo i 100%. Bydd eich prydles yn nodi fel arall.

Bydd angen i chi siarad â’r tîm tai fforddiadwy i ddechrau’r broses o werthu eich eiddo, byddant yn esbonio’r weithdrefn werthu i chi.

Mae’r ddau ddewis ar gael, y ddau â gweithdrefnau gwahanol i’w dilyn