Skip to content

Gall unrhyw un fynd yn ddigartref yn ystod ei oes, a chredwn fod gan bawb sy’n mynd yn ddigartref yr hawl i gael y gefnogaeth i’w helpu i sefyll ar eu traed eto.

Mae ein staff cefnogi yn gweithio’n galed i helpu preswylwyr i ddatblygu eu sgiliau fel eu bod yn fwy llwyddiannus yn y dyfodol. Mae ein timau ymroddedig yn cefnogi pobl i ymdrin â’r problemau a wnaeth iddynt fynd yn ddigartref ac i ddatblygu’r sgiliau a fydd yn eu helpu i gadw eu cartrefi eu hunain yn y dyfodol.

Gwneir cyfeiriadau o wasanaethau’r cynghorau lleol i’n cyfleusterau byw â chefnogaeth ar draws Gogledd Cymru.

Rydym yn cynnig Byw â Chefnogaeth i unigolion yn yr ardaloedd canlynol:

Conwy

  • The Bell
  • Isallt
  • Tŷ Norfolk

Sir Ddinbych

  • Crescent Court
  • Parc Bruton
  • Tŷ Golau

Sir y Fflint

  • Prosiect y Cei
  • Erw Groes
  • Llys Emlyn Williams
  • Greenbank Villas

Wrecsam

  • Foyer
  • Hafan
  • Hurst Newton
  • Kingslands

Cartrefi’r Grŵp

Rydym yn darparu llety byw â chefnogaeth ychwanegol trwy Gartrefi’r Grŵp i helpu pobl ag amrywiaeth o anghenion, nid dim ond y digartref. Mae’r rhain yn cael eu rhedeg gan asiantau rheoli preifat ac awdurdodau lleol. Gall y rhain fod yn eiddo unigol, wedi ei addasu neu i’w rannu. Mae ein holl Gartrefi Grŵp yn cael cefnogaeth yn amrywio o gefnogaeth 24 awr ar y safle i oriau o gefnogaeth wedi eu hasesu.

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfeiriadau i’r rhain anfonwch e-bost at grouphomes@clwydalyn.co.uk