Skip to content

Yr hyn yr ydym yn ei gredu

Gall unrhyw un fynd yn ddigartref a bod angen cefnogaeth yn ystod ei oes. Credwn fod gan bawb sydd ag angen hawl i gael cartref, cefnogaeth, a’r cyfle i ddatblygu ei sgiliau a’i drin yn deg.

Rwyf yn ddigartref, neu byddaf yn mynd yn ddigartref yn fuan, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych yn ddigartref neu’n debygol o fynd yn ddigartref cyn pen y 28 diwrnod nesaf, a bod gennych “angen sy’n cael blaenoriaeth” mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd gyfreithiol tuag atoch.  Felly, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cysylltu â’r tîm sy’n ymdrin â digartrefedd yn eich ardal:

  • Ynys Môn:01248 751 850
  • Conwy:  01492 576271
  • Sir Ddinbych:  01824 706 000
  • Sir y Fflint:  01352 703777
  • Powys:0845 0552155
  • Wrecsam:  01978 292947 / 01978 292949

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn darparu cefnogaeth i bobl yn eu cartrefi eu hunain ac yn y gymuned sy’n helpu i’w hatal rhag mynd yn ddigartref, gelwir y rhain yn “Wasanaethau Cefnogi Teithiol a Gwasanaethau Cymunedol”.

Rydym hefyd yn darparu mannau diogel tymor byr i bobl sy’n ddigartref a heb unrhyw le i aros y noson honno, gelwir y rhain yn “Llochesi Nos”.

Rydym hefyd yn darparu mannau diogel i fyw yn y tymor hwy i bobl sy’n ddigartref ac angen help i wella eu sgiliau fel eu bod yn gallu rheoli eu bywyd eu hunain yn y dyfodol. Gelwir y rhain yn “Brosiectau Byw â Chefnogaeth”. Mae prosiectau gwahanol yn arbenigo mewn cefnogi pobl wahanol ond gellir eu dosbarthu i ddau gategori sylfaenol:

  • Byw â Chefnogaeth i Unigolion – i bobl heb blant na dibynyddion yn byw hefo nhw.
  • Byw â Chefnogaeth i Deuluoedd – i deuluoedd, gan gynnwys mamau newydd a’u babanod.

Pa wahaniaeth allwn ni ei wneud?

Credwn, gyda’r gefnogaeth gywir y gall unrhyw un gyflawni rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau. Mae ein staff yn gweithio’n galed i roi’r sgiliau y mae ar bobl eu hangen i gyflawni eu nodau.