Skip to content

Mae ClwydAlyn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cartref gofal ar draws Gogledd Cymru.

Rydym yn arbenigo mewn iechyd meddwl oedolion, gwasanaethau nyrsio a gofal dementia ac iechyd meddwl yr henoed.

Mae pob un o’n cartrefi gofal yn fodern gyda gwasanaethau o safon eithriadol o uchel a chyfleusterau cartrefol. Mae ein cartrefi gofal yn cynnig lle i’w alw yn gartref a’r cyfle i chi gael eich cefnogi mewn amgylchedd sy’n eich galluogi i fyw a byw eich bywyd gorau, ar bob cyfnod o ran eich iechyd a’ch anghenion cefnogaeth.

Mae ein holl staff wedi eu hyfforddi’n dda ac yn hyrwyddo gwerthoedd ClwydAlyn o Ymddiriedaeth, Gobaith a Charedigrwydd ym mhopeth a wnawn. Gan ein bod yn darparu gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio rydym yn cael ein harolygu gan Arolygaeth Gofal Cymru i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion y rhai yr ydym yn eu cefnogi ac rydym wedi derbyn adroddiadau rhagorol heb unrhyw ofynion cydymffurfio ar draws pob un o’n gwasanaethau.

Mae ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion gofal pob unigolyn yr ydym yn ei gefnogi bob amser yn flaenllaw wrth wneud penderfyniadau. Rydym yn gwerthfawrogi y gall y penderfyniad i symud i gartref gofal fod yn un anodd i bawb. Byddwn yn cefnogi teuluoedd a ffrindiau i ddatblygu perthynas gyda rheolwyr a staff ein cartrefi gofal, fel eich bod yn gallu bod yn hyderus bod rhywun ar gael i siarad ag o bob amser ac i roi’r gefnogaeth y bydd arnoch ei hangen.

Mae’r preswylwyr, teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol yn cael y cyfle i adolygu a rhoi adborth am eu profiadau yn ein cartrefi gofal. Peidiwch â dim ond cymryd ein gair ni am hynny, rhowch ychydig o amser i edrych ar yr adborth yr ydym yn ei darparu yn y dolenni i bob un o’n cartrefi gofal isod.

Chirk Court care home  front image
Llys y Waun - cartref gofal preswyl, Wrecsam
Cartref Gofal dementia gyfeillgar yn Wrecsam, gyda 66 o ystafelloedd sengl en-suite. Mae Llys y Waun yn cynnig amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chartrefol.
Dysgwch ragor
Front of Merton Place
Merton Place - cartref nyrsio, Bae Colwyn
Mae 54 o ystafelloedd sengl ym Merton Place yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, cynnes a llawn gofal i bobl hŷn sydd angen gofal preswyl a nyrsio a gofal lliniarol.
Dysgwch ragor
Llys Marchan front picture
Llys Marchan - cartref gofal preswyl, Rhuthun
Mae 10 ystafell sengl yn Llys Marchan sy’n sefyll mewn gerddi eang yn ardal wledig Rhuthun. Mae’r cyfleusterau a’r siopau lleol o fewn pellter cerdded byr, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol i ail gymysgu â’r gymuned ehangach.
Dysgwch ragor