Canolbwyntio ar Fenywod | O dan arweiniad Menywod | Ystyriol o Oroeswyr | Ystyriol o Drawma
Mae ein gwasanaeth arbenigol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn canolbwyntio ar fenywod ac yn cael ei arwain gan fenywod. Rydym yn ymroddedig i ddarparu cymorth diogel ac arbenigol i fenywod a phlant y mae cam-drin domestig a mathau eraill o drais a cham-drin yn effeithio arnynt.
Mae ein dull gweithredu yn seiliedig ar ymarfer sy’n ystyriol o drawma a dysgu sy’n ystyriol o oroeswyr, gan sicrhau bod gwasanaethau’n seiliedig ar brofiad bywyd ac yn canolbwyntio ar ddiogelwch, urddas ac adferiad.
Rydym hefyd yn cydnabod y gall dynion ddioddef cam-drin domestig. Mae llwybr cymorth ar wahân ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr gwryw, ac mae’n cael ei gyflwyno drwy ymarfer sy’n ystyriol o drawma, yn ymatebol i rywedd ac yn cael ei arwain gan anghenion.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
- Darpariaeth llochesi
- Mynediad at ein cymorth iechyd meddwl a chwnsela arbenigol.
- Swyddog arbenigol iechyd meddwl cam-drin domestig
- Gwasanaethau i blant a phobl ifanc
- Ymyriadau mewn argyfwng
- Allgymorth a chymorth yn ôl yr angen
- Darpariaeth llochesi/tai diogel cyffredin a hunangynhwysol
- Rhaglenni adferiad: Rhaglen Freedom, STAR, Own My Life, DART, Space a Hope2recovery
- Gwasanaeth galw heibio
- Gwasanaeth cyfeirio at gynghorwyr cyfreithiol arbenigol
- Gwybodaeth am dai a budd-daliadau
- Gwasanaeth brys tu allan i oriau ar alwad, sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn drwy ein sefydliad ymbarél Cymorth i Ferched Cymru.
Sut i gael gafael ar ein gwasanaethau:
Cymorth i Ferched ClwydAlyn
- Ffôn: 01352 712150
- E-bost: cahawomensaid@clwydalyn.co.uk
Llinell Gymorth Am Ddim Byw’n Ddi-ofn:
- Ffôn: 0808 80 10 800
- Ebost: info@livefearfreehelpline.wales
- Live Fear Free Helpline : Welsh Women’s Aid