Skip to content
Coleg Menai Llangefni property
Rhent Canolraddol
Eiddo ar rent gyda’r rhent wedi ei osod yn uwch na Rhent Tai Cymdeithasol ond yn is na rhent marchnad agored (yn gyffredinol rhwng y gyfradd Lwfans Tai a 80% o’r rhent marchnad agored).

Mae eiddo Rhent Canolraddol yn cael eu rhentu ar Gontract Meddiannaeth Safonol, mae hyn yn wahanol i’r contract ar gyfer Tai Cymdeithasol, ond mae’n dal i roi sicrwydd daliadaeth ac mae budd-daliadau hefyd yn cael eu hystyried.

Mae ein holl eiddo Rhent Canolraddol yn cael eu dyrannu trwy TaiTeg, sy’n cadw’r Gofrestr Tai Fforddiadwy yng Ngogledd Cymru.
Ymgeisio am eiddo Rhent Canolraddol
Rent to Own property in Aberkinsey estate rhyl
Rhentu i Brynu
Mae Rhentu i Brynu Cymru yn cefnogi prynu cartref i’r rhai nad oes ganddynt ddigon o arian ar gyfer blaendal morgais. Mae’r cynllun yn helpu preswylwyr i gasglu cyfandaliad at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref, y gellir ei ddefnyddio i helpu i sicrhau morgais.

Gall y cartref gael ei brynu 2 i 5 mlynedd ar ôl symud i mewn ac yn y cyfnod hwn mae 25% o’r rhent a dalwyd yn cael ei gadw tuag at y cyfandaliad yn ogystal â 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os o gwbl) yn ystod y cyfnod.

Mae ein holl eiddo Rhentu i Brynu yn cael eu dyrannu trwy TaiTeg, sy’n cadw’r Gofrestr Tai Fforddiadwy yng Ngogledd Cymru.
Ymgeisio am eiddo Rhentu i Brynu

Am unrhyw ymholiadau neu wybodaeth bellach cysylltwch â ni, y Tîm Tai Fforddiadwy ar.

Anfonwch e-bost atom yn affordablehomes@clwydalyn.co.uk. Ffôn: 01745 536900

pdf
Rhentu i Brynu Cymru - Canllaw Prynwr
Lawrlwythwch