Skip to content

Fflatiau wedi eu hadeiladu ir diben yw Cynlluniau Prydlesu i bobl hŷn, wedi eu dylunio yn benodol i ddiwallu anghenion y rhai dros 55 oed, a’u bwriad yw cynnig llety cost isel i’r prydleswr a ffordd o fyw hollol annibynnol. Gelwir y cynlluniau hyn yn Gynlluniau Prydlesu i’r Henoed (LSE).

Gydag amrywiaeth mawr o nodweddion integredig sy’n cynnwys manteision fel cefnogaeth trwy larwm, mae Cynlluniau prydlesu i’r henoed yn cynnig yr holl gysur ac annibyniaeth o fod yn berchennog-feddiannwr, ond gyda’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl o wybod y bydd help wrth law bob amser – os bydd ei angen.

Gwerthir pob fflat ‘ar brydles’ a, gan ddibynnu ar y cynllun, naill ai mae prydles newydd am 60 mlynedd yn cael ei rhoi neu mae’r brydles bresennol yn cael ei rhoi i’r perchennog newydd. Mae’r rhydd-ddaliad yn parhau yn nwylo ClwydAlyn ac rydym yn cynnal yr adeilad a’r holl ardaloedd cymunedol.

Yn ychwanegol, mae Tâl Gwasanaeth Misol hefyd yn daladwy, i dalu costau gwaith trwsio o’r fath a gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad, glanhau ffenestri, goleuadau, y system larwm, a chynnal a chadw cyffredinol ar yr eiddo a’r tiroedd.

Pwy syn gyfrifol am waith trwsio a chynnal a chadw?

Prydleswyr sy’n gyfrifol am yr holl waith trwsio, cynnal a chadw ac addurno yn eu fflat.

Mae ClwydAlyn – ar ran y Prydleswyr – yn gwneud yr holl waith trwsio allanol, cynnal a chadw, ailaddurno, glanhau ffenestri, cynnal a chadw’r tiroedd a’r ardaloedd cymunedol, ffyrdd a goleuadau, ‘cynllun cymydog da’ (os yn berthnasol) a’r system larwm ‘Care Line’ – ac mae eu costau’n cael eu talu trwy’r Tâl Gwasanaeth misol.

outside image of Bryn Awelon leasehold schemes for older people
Bryn Awelon, Abergele
Cynllun Prydlesu i’r Henoed bach, yn agos at y stryd fawr, gyda 10 fflat.

Mae’r gwasanaeth llinell gofal 24 awr y dydd wedi ei osod ym mhob fflat i roi mwy o dawelwch meddwl yn awr ac at y dyfodol bod help ond galwad ffôn i ffwrdd petai ei angen.
Maes Glanrafon side picture
Maes Glanrafon, Yr Wyddgrug
Mae Maes Glanrafon yn gynllun a adeiladwyd i’r diben ar gyfer 24 o fflatiau prydlesu hunangynhwysol, i rai dros 55 oed. Gosodwyd system llinell gofal 24 awr y dydd ym mhob fflat i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen.

Mae’r cynllun o fewn pellter cerdded i’r siopau a chyfleusterau. Mae lifft i bob llawr, gardd allanol fechan ac ardaloedd eistedd cymunedol mawr i ymlacio a chymdeithasu.
Cae Mefus picture from road
Cae Mefus, Treffynnon
Mae Cae Mefus yn Gynllun Prydlesu i’r Henoed tawel a ddyluniwyd i’r rhai dros 55 oed.

Mae’n cynnig 12 o fflatiau hunangynhwysol ar y llawr cyntaf a’r llawr gwaelod, y cyfan gyda’u drws ffrynt eu hunain yn syth i’r ardal gymunedol, man parcio a system llinell gofal 24 awr y dydd i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law os bydd ei angen rŵan neu yn y dyfodol.
Woodlands court garden picture
Woodlands Court, Penarlâg
Gyda chymysgedd o 32 o fflatiau hunangynhwysol ar y llawr gwaelod a chyntaf, mewn Cynllun Prydlesu i’r Henoed a adeiladwyd i’r diben, pob un â’i fynedfa flaen ei hun yn agor yn uniongyrchol ar yr ardal gymunedol.

Mae gan y cynllun hwn ardd fawr a gosodwyd system llinell gofal 24 awr y dydd ym mhob fflat i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Coed Coch front picture
Ffordd Coed Coch, Hen Golwyn
Cynllun Prydlesu i’r Henoed bychan yw Ffordd Coed Coch gyda dim ond 4 fflat yn agos at gwrs golff Hen Golwyn a choetir hardd dros y ffordd.

Mae gan bob fflat ei ddrws ffrynt ei hun a system llinell gofal 24 awr y dydd i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Llys Hafan front picture
Llys Hafan, Llandrillo yn Rhos
Gydag 14 o fflatiau un a dwy ystafell wely hunangynhwysol o fewn pellter cerdded hawdd i’r dref a phromenâd hyfryd Llandrillo yn Rhos.

Mynediad trwy lifft i bob llawr, parcio oddi ar y ffordd a system llinell gofal 24 awr y dydd i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Ty Gwylfa front picture
Tŷ Gwylfa, Prestatyn
Mae Tŷ Gwylfa yn gynllun a adeiladwyd i’r diben yn cynnwys 26 o fflatiau un a dwy ystafell wely ar brydles, i’r rhai dros 55 oed.

Mae’r cynllun yn agos at y stryd fawr ac yn cael budd o erddi cymunedol caeedig mawr, parcio a lifft i’r holl loriau.

Gosodwyd llinell gofal 24 awr y dydd ym mhob fflat i roi mwy o dawelwch meddwl yn awr ac at y dyfodol bod help ond galwad ffôn i ffwrdd petai ei angen.
Plas Heulog, Hen Golwyn
Cynllun Prydlesu i bobl hŷn bychan o fewn cyrraedd hawdd ar droed i’r holl gyfleusterau a siopau lleol.

8 o fflatiau hunangynhwysol a adeiladwyd i’r diben, gyda pharcio oddi ar y safle a gardd gymunedol dawel yn y cefn.

Mae’r holl fflatiau yn manteisio ar systemau llinell gofal 24 awr i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Llys Menai, Porthaethwy
Cynllun Prydlesu wedi ei adeiladu i’r diben o 32 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn agos at ganol y dref y cyfan gyda system llinell gofal 24 awr y dydd.

Mae’r cynllun hefyd yn manteisio ar lifft i bob llawr, ystafell olchi dillad, cegin gymunedol ac ystafell gyfarfod, fflat i wahoddedigion i deulu aros pan fyddant yn ymweld, parcio oddi ar y ffordd a rheolwr rhan-amser ar y safle, ar gael i’ch cynorthwyo gydag unrhyw beth allech chi fod ei angen wrth fyw yn y cynllun.

Cwestiynau Cyffredin

Fflatiau a ddyluniwyd i bobl dros 55 oed yw Cynllun Prydlesu i Bobl Hŷn. Mae’n dibynnu ar y brydles a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer y cynllun. Sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles safonol 99 mlynedd, sy’n gorfod cael ei bennu wrth ei werthu i berchennog newydd a sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles 60 mlynedd sy’n gorfod cael ei hadnewyddu bob tro

Maent yn cael eu prynu ar sail prydles. Mae gan rai cynlluniau brydles 60 mlynedd newydd ar bob gwerthiant, mae rhai’n trosglwyddo’r brydles wreiddiol ac mae’r tymor sy’n weddill ar y brydles honno yn amrywio gan ddibynnu ar y cynllun a’r fflat unigol.

Mae rhagor o fanylion am bob cynllun ar gael gan y Tîm Cartrefi Fforddiadwy.

Ydych, rydych yn gyfrifol am gynnal a chadw, gwaith trwsio ac addurno yn eich fflat.

Bydd ClwydAlyn, ar ran y prydleswyr, yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw, trwsio ac addurno i’r adeilad a’r ardaloedd cymunedol a bydd cost y gwaith hwn yn cael ei dalu trwy’r tâl gwasanaeth misol.

Mae pob cynllun yn talu tâl gwasanaeth misol. Mae hwn yn talu am waith trwsio, cynnal a chadw ac addurno i’r adeilad a’r ardaloedd cymunedol, yn ogystal ag eitemau eraill fel ymrwymiadau cydymffurfio ar gyfer lifftiau, larymau tân, systemau llinell gofal, systemau mynediad ac ati.

Nid oes gan y mwyafrif unrhyw rent i’w dalu, gan fod y rhan fwyaf o fflatiau’n cael eu gwerthu 100% ar brydles.

Mae’n dibynnu ar y brydles a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer y cynllun. Sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles safonol 99 mlynedd, sy’n gorfod cael ei bennu wrth ei werthu i berchennog newydd a sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles 60 mlynedd sy’n gorfod cael ei hadnewyddu bob tro.

 

Gallwch ymestyn eich prydles ar unrhyw amser, sy’n ei wneud yn fwy deniadol pan fyddwch am werthu, gan y gall fod yn anodd cael morgais ar brydles fer.

Cysylltwch â’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy, os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ymestyn eich prydles.