Skip to content

Hayley Hulme
Aelod o’r Bwrdd
ClwydAlyn Is-gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Eiddo

Hayley yw Prif weithredwr North West Housing Services sy’n darparu cymorth asiantaethau tai cymdeithasol i Gymdeithasau Tai Cydweithredol, a gwasanaethau proffesiynol i fentrau cymdeithasol ac elusennau ledled Glannau Mersi a thu hwnt. Mae hi’n angerddol dros gynnal busnes mewn ffordd gynaliadwy a galluogi pobl i wneud newid cadarnhaol.

Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector tai a mentrau cymdeithasol, ac mae’n arbenigo ym meysydd datblygu, adnewyddu ac eiddo, fel ymgynghorydd adfywio annibynnol ac yn fwy diweddar fel arweinydd busnesau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, sef Starts with you ac NWHS.

Read my bio
Nikki Evans picture
Nik Evans
Aelod Bwrdd

Ar hyn o bryd, mae Nik yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoli Asedau gyda Muir Group Housing. Mae’n gyfrifol am bob agwedd ar Reoli Asedau a Strategaeth, Cynaliadwyedd a Landlordiaid ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ac yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth ar y Cyd y Grŵp.

Mae gan Nik dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector ar ôl gweithio cyn hynny gydag Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru lle bu’n arwain gwahanol adrannau Tai a darparu rhaglenni newid a gwella niferus.

Fel rhywun sydd ag angerdd gwirioneddol dros y sector Tai a gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes Asedau ac Eiddo, mae’n credu’n gryf bod darparu a chynnal cartrefi a chymunedau o ansawdd uchel yn chwarae rhan allweddol i wella ansawdd bywyd a phrofiad cwsmeriaid.

 

Read my bio
Michael Larkin
Michael Larkin
Aelod o'r Pwyllgor Eiddo

Mae Michael yn arweinydd caffael sydd â dros 20 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae gan Michael brofiad eang ym maes Tai, y GIG, addysg, ymgynghori a’r diwydiant niwclear.

Llwyddiannau trawiadol Michael yw sefydlu swyddogaethau caffael strategol yn yr amgylchedd Tai tir glas, i gyflawni arbediadau arian parod ar Werth Cymdeithasol. Mae gan Michael ddwy radd ac mae’n weithiwr proffesiynol siartredig, wedi gweithio nifer o weithiau gyda’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.

Read my bio
Alexander Howson
Aelod o'r Pwyllgor Eiddo

Mae Alexander yn Bennaeth Ymchwil gyda sefydliad Deallusrwydd Busnes ac ymchwil (Industryline Research) sy’n arbenigo ym maes tai, addysg a pholisi cymdeithasol. Mae’n Aelod Ardystiedig o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad (CmRS) ac yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (FRGS).
Mae Alexander wedi arwain rhaglenni ymchwil a gwerthuso cymhleth yn y sector cyhoeddus ac addysg, gan gynnwys gwaith Llywodraeth Cymru ar arloesedd ym maes tai a dulliau adeiladu modern, prisio tir a chynllunio, a pholisi tai a pherfformiad ehangach. Mae ganddo ymagwedd ddadansoddol gadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth at lywodraethu, a’i arbenigedd yw troi gwybodaeth gymhleth yn fewnwelediad ymarferol ar gyfer gwneud penderfyniadau. Fel aelod o Bwyllgor Eiddo ClwydAlyn, mae’n cefnogi craffu effeithiol ar berfformiad eiddo, buddsoddiad a risg, gyda phwyslais ar ansawdd a chanlyniadau tymor hir i Breswylwyr.

Read my bio
Chris Mather
Aelod Bwrdd

Rwy’n uwch arweinydd datblygu gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector tai cymdeithasol. Dechreuais fy ngyrfa yn 1985 yn St Helens, lle cefais fy magu, gan weithio fel Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant mewn practis preifat tra’n ennill fy ngradd. Penderfynais na fyddai llunio mesuriadau yn seiliedig ar gynlluniau penseiri yn cynnig digon o her i mi am y 40 mlynedd nesaf, felly yn 1992 dechreuais arbenigo yn y sector tai cymdeithasol. Rwyf wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Datblygu ForHousing yn Salford am yr 11 mlynedd diwethaf, gyda chyfrifoldeb dros gyflawni’r rhaglen tai newydd. Yna, symudais i weithio gyda Plus Dane Housing yn Lerpwl am 23 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd gen i sawl rôl a chyfrifoldeb ehangach am ddatblygu ac yn 2010 dechreuais weithio ym maes rheoli asedau a gweithgareddau masnachol, a oedd yn cynnwys profiad o wasanaethu ar Fwrdd y Cyd-fenter.

Mae fy egwyddorion yn syml: trin pobl yn deg a gyda pharch, gwneud ‘popeth’ gydag uniondeb, a herio anghyfartaledd ar bob cyfle. Mae Cyfartaledd, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn bwysig iawn i mi yn fy mywyd gwaith a phersonol.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.