Skip to content

Nikki Evans picture
Nik Evans
Aelod Bwrdd

Ar hyn o bryd, mae Nik yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoli Asedau gyda Muir Group Housing. Mae’n gyfrifol am bob agwedd ar Reoli Asedau a Strategaeth, Cynaliadwyedd a Landlordiaid ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ac yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth ar y Cyd y Grŵp.

Mae gan Nik dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector ar ôl gweithio cyn hynny gydag Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru lle bu’n arwain gwahanol adrannau Tai a darparu rhaglenni newid a gwella niferus.

Fel rhywun sydd ag angerdd gwirioneddol dros y sector Tai a gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes Asedau ac Eiddo, mae’n credu’n gryf bod darparu a chynnal cartrefi a chymunedau o ansawdd uchel yn chwarae rhan allweddol i wella ansawdd bywyd a phrofiad cwsmeriaid.

 

Read my bio
Andrew O’Brien
Llwybr i'r Bwrdd

Ymunodd â’r Lluoedd Arfog yn 1985 ac roedd yn Hyfforddwr Arfau am 7 mlynedd, bu’n rhedeg busnes tirlunio llwyddiannus am 20 mlynedd. Bu’n gwirfoddoli i Gadetiaid y Fyddin fel Hyfforddwr Milwrol am 2 flynedd.
Ymunodd â ClwydAlyn Ionawr 2022. Mae gennyf gymwysterau/sgiliau arwain, rheoli a dirprwyo.

Read my bio
Bethan Smith
Bethan Smith
Aelod Bwrdd
Aelod o'r Pwyllgor Sicrwydd

Ymunodd Bethan â Bwrdd ClwydAlyn ym Medi 2023. Bethan yw’r Rheolwr Rhaglen ar y Tîm Ymarfer Da yn Archwilio Cymru. Gwaith y tîm yw gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan Bethan dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ar ôl gweithio yn y gorffennol mewn amrywiol swyddi ar draws Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant yng Nghyngor Sir y Fflint.

Read my bio
Brian Strefford
Brian Strefford
Aelod Bwrdd, Is-gadeirydd Pwyllgor Preswylwyr, Pwyllgor Eiddo

Mae Brian wedi bod â diddordeb mewn Tai Cymdeithasol ers blynyddoedd: roedd ei rieni’n byw mewn tŷ cyngor am nifer o flynyddoedd dedwydd. Dychwelodd i Dai Cymdeithasol dros 25 mlynedd yn ôl pan ddaeth yn denant i ClwydAlyn.

Cafodd Brian yrfa amrywiol, o’r diwydiant olew, y fasnach drwyddedig, gwasanaethau ariannol a TG, gan gael cyfnod yn y nawdegau cynnar fel gwirfoddolwr i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Dysgodd Brian lawer o sgiliau yn ystod ei daith, gan gynnwys y gallu i wrando a siarad â phobl. Brian yw Is-gadeirydd y Pwyllgor Preswylwyr ac mae hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Eiddo.

Read my bio
Tania Silva
Aelod Bwrdd
Aelod o'r Pwyllgor Eiddo

Mae Tania yn Rheolwr Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaethau Adeiladu ac Ymgynghorol gyda Fusion21. Fel rhan o’i rôl, mae hi’n rheoli’r Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu, gan ddarparu gwasanaethau caffael i sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.

 Cyn hyn, roedd Tania yn arwain Fframwaith y Gronfa Buddsoddiad Ieuenctid ar gyfer pobl sy’n derbyn grant gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

 Cyn hynny, roedd yn gweithio gyda Phartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, ar ran chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Mae Tania yn arbenigo mewn darparu gwasanaethau caffael adeiladu sy’n cydymffurfio ar gyfer y sector cyhoeddus, gan helpu sawl sefydliad ledled y Deyrnas Unedig.

Defnyddir dull cydweithredol i gyflawni prosiectau adeiladu sylweddol, gan gynnwys gofynion rhanbarthol, polisïau cenedlaethol, a dulliau arloesol i sicrhau bod prosiectau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.

 Mae Tania yn angerddol dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Roedd yn arfer bod yn aelod o fwrdd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac mae wedi cymryd rhan mewn rhaglenni i annog menywod i ddilyn gyrfaoedd mewn pynciau STEM a’r diwydiant adeiladu.

Mae hi wedi ymrwymo i helpu cymunedau drwy gynnig Gwerth Cymdeithasol ar ffurf addysg, creu cyfleoedd hyfforddiant a gwaith, yn enwedig i grwpiau dan anfantais, ac ymgysylltu â chymunedau i ddeall eu hanghenion a’u dymuniadau, a’u galluogi i ffynnu.

 

Read my bio
Cris McGuinness
ClwydAlyn Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor y Bobl
Aelod Bwrdd TirTai a PenArian

Rwy’n Gadeirydd ClwydAlyn ers 2023 ac rwy’n angerddol dros y gwahaniaeth rydym yn ei wneud yng Ngogledd Cymru.

 

Rwy’n dod o Sir Benfro yn wreiddiol, ond symudais i Lerpwl i fynd i’r brifysgol i astudio mathemateg cyn cymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig yn KPMG.   Ar ôl cwblhau fy hyfforddiant, roedd fy swydd gyntaf ym maes tai cymdeithaosl ac ers hynny rwyf wedi treulio 25 mlynedd yn gweithio yn y sector, heblaw am ar ddau achlysur – pan gefais swydd yn gweithio gyda ceiswyr lloches a swydd arall yn helpu i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus ym Manceinion Fwyaf.    Ers 2018, rwyf wedi gweithio fel Prif Swyddog Ariannol Riverside lle rwy’n gyfrifol am bob mater ariannol, y trysorlys a gwasanaethau masnachol.

 

Rwy’n cael fy ysgogi gan ddyhead i wneud gwahaniaeth i bobl a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

 

Read my bio
Sally Thomas
Board Member
Member of the People Committee

Sally joined the ClwydAlyn Board in September 2023. She has had a long career in the NHS and worked as a children’s nurse in hospital and school settings across Conwy and Denbighshire prior to leading the equality and human rights agenda at the Health Board across North Wales.

Through this work Sally has worked with colleagues at an all-Wales level and in partnership with the public sector across North Wales. She maintains an awareness of the diversity of the local population and has worked with individuals and groups to better understand individual lived experience including the barriers experienced by some people. In particular the impact of poverty, increasing social issues and matters affecting local communities. Sally advocates for the importance of inclusion, valuing an individual’s identity, demonstrating compassion, and making fair decisions.

Read my bio
Rob Morton
Rob Morton
Aelod o’r Bwrdd

Fe ymunodd Rob â’r Bwrdd ym mis Awst 2019. Treuliodd Rob flynyddoedd cynnar ei yrfa yn y sector preifat cyn symud i weithio yn y maes Tai Cymdeithasol yn 2014 ac yna’r sector Elusennol yn 2023.

Rob ydy Prif Swyddog Cyllid Caudwell Children, elusen gafodd ei sefydlu er budd cyhoeddus plant yn y gymuned, gan gynnig cyfarpar, triniaeth, therapïau a chymorth i blant a phobl ifanc anabl.

Mae’n meddu ar dros 20 mlynedd o brofiad mewn rolau masnachol ac ariannol ac mae’n gyfrifol dros Reoli Cyllid, TG, AD a Chyfleusterau. Mae’n gyd-aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli.

Read my bio
Board member Nia Hughes
Nia Hughes
Cadeirydd TirTai, Aelod Bwrdd ClwydAlyn ac Aelod o'r Pwyllgor Sicrwydd

Ymunodd Nia â’r Bwrdd yn Awst 2019.  Mae Nia hefyd ar Fwrdd Tir Tai a Bwrdd PenArian.

Dechreuodd Nia ei gyrfa ym maes archwilio a threthi yn PWC ac mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Cyfrifyddion Siartredig.  Yn 2015 daeth Nia hefyd yn Aelod Cysylltiol o Gymdeithas y Trysoryddion Corfforaethol.

Ar ôl gadael PWC yn 2010, bu Nia’n gweithio i gwmnïau o’r UDA yn y diwydiannau ceir a meddygol, gan gael profiad eang ar draws pob maes o gyllid rhyngwladol gan gynnwys cyfuno a chaffael a rheoli contractau masnachol.  Yn 2014, symudodd Nia i’r sector tai fel Cyfarwyddwyr Cyllid Cynorthwyol i’r Muir Group cyn dod yn Gyfarwyddwr Cyllid mewn Cymdeithas yn Lerpwl.  Yn 2021, dychwelodd Nia i’r Muir Group fel Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau, gyda chyfrifoldeb am gyllid, Trysorlys, TGCh a thrawsnewid busnes.  Mae Nia wedi bod â swydd Cyfarwyddwr Anweithredol am dros 8 mlynedd yng Nghymdeithas Dai Gogledd Cymru.

Read my bio
Peter Smith-Hughes portrait picture
Peter Smith-Hughes
Aelod o’r Bwrdd

Yn ei swydd flaenorol roedd Peter yn gweithio fel Uwch Reolwr yn ymwneud â Datblygu Adwerthu. Roedd y swydd yn golygu cael a datblygu safleoedd, gan ddod â’r siop newydd i sefyllfa lle mae ar fin agor. Yn fwy diweddar, daeth yn Rheolwr Ysbyty Preifat, yn gyfrifol am gyllidebau, staff a chyfrifyddu.
Cred Peter y bydd y profiad yma’n ddefnyddiol gan y gall weld golwg gytbwys o faterion amrywiol ac mae’n gallu gweld y darlun mawr, gan gynnig prosesau meddwl rhesymegol. Dymuna Peter wella bywydau tenantiaid.

Read my bio
Robert Rowett portrait picture on site picture of Roger
Roger Rowett
Aelod o’r Bwrdd
Taith Ltd

Ymunodd Roger â’r Bwrdd ym Mehefin 2020.

Mae Roger yn gweithio yn annibynnol fel rhan o Taith Ltd sy’n rhoi pwyslais ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, datblygu sefydliadol ac adolygu gwasanaeth. Bu’n gweithio hefyd fel Arolygwr Ysgolion i Estyn, Uwch Arolygydd gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru a Swyddog Datblygu Gweithlu i Gyngor Gofal Cymru. Mae gan Roger ddiddordeb arbennig mewn dulliau ar sail cryfderau ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Seicoleg Busnes. Mae hefyd wedi ysgrifennu cyhoeddiadau a chyfarwyddyd am Gynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ac Ymholiadau Gwerthfawrogol.

Read my bio
Hayley Hulme
Aelod o’r Bwrdd
ClwydAlyn Is-gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Eiddo

Hayley yw Prif weithredwr North West Housing Services sy’n darparu cymorth asiantaethau tai cymdeithasol i Gymdeithasau Tai Cydweithredol, a gwasanaethau proffesiynol i fentrau cymdeithasol ac elusennau ledled Glannau Mersi a thu hwnt. Mae hi’n angerddol dros gynnal busnes mewn ffordd gynaliadwy a galluogi pobl i wneud newid cadarnhaol.

Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector tai a mentrau cymdeithasol, ac mae’n arbenigo ym meysydd datblygu, adnewyddu ac eiddo, fel ymgynghorydd adfywio annibynnol ac yn fwy diweddar fel arweinydd busnesau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, sef Starts with you ac NWHS.

Read my bio
Edwards Hughes
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
ClwydAlyn Housing

Ymunodd Ed â ClwydAlyn ym mis Ionawr 2017 ar ôl gweithio am 8 mlynedd gyda Riverside Group yn Lerpwl, un o Gymdeithasau Tai mwyaf y DU. Ar ôl ymuno â ClwydAlyn fel Pennaeth Gwasanaethau Preswylwyr, cafodd Ed ei ddyrchafu yn Gyfarwyddwr Gweithredol ym mis Hydref 2020 ac mae bellach yn gyfrifol am Gartrefi Gofal a Nyrsio, Gofal Ychwanegol a Byw â Chymorth, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth Adeiladu a Thai Fforddiadwy. Mae gan Ed brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth ym meysydd Tai, Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector.

Enillodd Ed radd BSc (Anrhydedd) yn Ysgol Fusnes Caerdydd, mae’n ymarferydd cymwysedig Prince2 ac mae ganddo gymhwyster Lefel 5 mewn rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae Ed yn Gyfarwyddwr Anweithredol Aura Wales ac yn ei amser hamdden mae’n hyfforddwr rygbi mini gyda Chlwb Rygbi’r Wyddgrug.

Mae Ed wedi byw yng Ngogledd Cymru ar hyd ei oes ac mae’n angerddol dros wella gwasanaethau tai a chymorth yn y rhanbarth.

Read my bio
Image of Clare Budden Chief Executive Officer at ClwydAlyn Housing Ltd Image of Clare Budden CEO of Clwydalyn
Clare Budden
Prif Weithredwr y Grŵp ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
ClwydAlyn Housing

Rwyf wedi gweithio i Lywodraeth Leol a Chymdeithasau Tai ar hyd fy ngyrfa ac mae gennyf lawer o brofiad gwirfoddol yn y sectorau elusen a mentrau cymdeithasol. Rwyf wedi cymhwyso i lefel ôl-raddedig ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Tai Siartredig.

Rwy’n Is-Gadeirydd ar 2025, (mudiad a sefydlwyd i ddwyn anghyfartaledd iechyd y gellir ei osgoi i ben yng Ngogledd Cymru); ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Ddod â Digartrefedd i Ben. Rwy’n Aelod Cysylltiol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru ac rwy’n Gadeirydd ar Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy.

Rwy’n angerddol am ddileu tlodi ac anghyfartaledd, ac rwy’n mynd yn flin pan fydd y lle yr ydych yn byw neu y cawsoch eich geni yn dal i effeithio cymaint ar ddeilliannau bywyd.

Rwy’n falch o fod yn Gymraes. Rwy’n fam i bedwar; gan fyw yn y gymuned lle cefais fy magu. Rwy’n teimlo’n lwcus fy mod wedi gallu byw’r bywyd yr wyf yn ei ddewis, ac am wneud yr hyn a allaf i sicrhau bod eraill yn gallu gwneud hynny.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.