Fel rhan o Wythnos Cartrefi Gofal Agored (16-22 Mehefin), cafodd y preswylwyr, teuluoedd a staff yng Nghartref Gofal Merton Place ym Mae Colwyn fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a chofiadwy.
Dydd Llun daeth myfyrwyr o gôr Coleg Dewi Sant draw i berfformio eu hoff ganeuon i gorau i breswylwyr Merton Place. Roedd croeso i bawb ymuno a mwynhau’r cyswllt gydag aelodau’r côr, sydd hefyd yn cael llawer iawn allan o’u teithiau i gyfarfod y preswylwyr mewn oed.
Yn hwyrach yn yr wythnos daeth casgliad o ymwelwyr blewog, mewn cragen a chennog i Merton Place o Animal Encounters. Fe wnaeth y preswylwyr fwynhau cyfarfod a rhoi anwes i’r mochyn cwta fflwffiog, y gwningen, y crwbanod anarferol a’r nadroedd, gan gynnwys ‘Mango’ peithon 12 troedfedd o hyd, seren y sioe, y gwnaeth rhai preswylwyr dewr iawn gydio ynddi.
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o’r amserlen arferol o ddigwyddiadau diddorol ym Merton Place. Maen nhw’n rhoi cyfle i’r preswylwyr rannu cyfnodau o lawenydd a dysgu, ac yn golygu eu bod yn mwynhau eu bywyd o ddydd i ddydd yn fwy, gyda phrofiadau sy’n addas i’w dewisiadau a’u gallu nhw eu hunain
Trwy gydol yr wythnos agorodd Merton Place ei ddrysau i groesawu ffrindiau, aelodau o’r teuluoedd, darpar breswylwyr a’u gofalwyr. Gallai ymwelwyr fwynhau’r gweithgareddau, mynd ar daith o gwmpas y cyfleusterau a chawsant gynnig cyfle i siarad â’r staff am fywyd yn y cartref, dewisiadau gofal, dewisiadau cymorth a maethiad. Gan helpu i roi darlun cyflawn o’r bywyd y gall preswylwyr ei ddisgwyl.
Dywedodd aelod o deulu arall: “Mae’r gwasanaeth a’r gofal y mae Mam yn eu cael yn ddi-ail. Rwy’n gwybod ei bod mewn dwylo da a diogel, mae’r bwyd wastad yn dda. Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn ateb unrhyw gwestiynau.”
Ar hyn o bryd mae nifer fechan o leoedd ar gael ym Merton Place, sy’n ddelfrydol i breswylwyr sydd angen gofal nyrsio neu breswyl llawn-amser. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.clwydalyn.co.uk/mertonplace neu ffoniwch 01492 523 375 i drefnu ymweliad.