Yr wythnos ddiwethaf, bu Jack Sargeant, Aelod Senedd Alun a Glannau Dyfrdwy, yn ymweld â Northern Gateway, datblygiad ClwydAlyn yng Nglannau Dyfrdwy, i weld sut mae’r preswylwyr wedi elwa ar y cartrefi newydd.
Adeiladwyd datblygiad diweddaraf ClwydAlyn, sy’n cynnwys 100 o dai newydd fforddiadwy, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Cartrefi ‘am oes’ yw’r rhain sydd wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu wrth i anghenion y preswylwyr newid, ac maent hefyd yn cynnwys technoleg gynaliadwy i gadw’r costau rhedeg yn is.
Mae Mr Sargeant yn frwd iawn o blaid tai cymdeithasol. Fel brodor o ardal Cei Connah, roedd yn awyddus i ddysgu rhagor am ddatblygiad Northern Gateway, a sgwrsio â’r preswylwyr a thîm ClwydAlyn i ddarganfod sut bydd y cartrefi hyn yn ffurfio rhan o’u dyfodol.
Gyda phwyslais ar fynd i’r afael â chostau tanwydd sy’n codi a chreu cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni, mae pob eiddo yn Northern Gateway yn cynnwys technolegau glanach a gwyrddach, a dyluniadau arloesol. Mae’r rhain yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli trydan solar fydd yn golygu bod costau ynni a gwresogi’r cartrefi hyn yn llawer mwy fforddiadwy, ac mae’r manteision eisoes yn dod yn amlwg i’r preswylwyr.
Cafodd Mr Sargeant gyfle i gyfarfod Danielle a’i merch, sy’n awyddus i fagu ei theulu mewn cymuned sefydlog a chadarnhaol.
“Mae cymuned yn bwysig. Mae cael cartref da a theimlad o gymuned mor bwysig er mwyn gwella rhagolygon pobl ac mae’n hanfodol i adeiladu’r economi.
“Rwy’n falch iawn o weld bod y preswylwyr wedi ymgartrefu mor dda ac rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r holl gartrefi yn natblygiad Northern Gateway ClwydAlyn bellach wedi cael eu dyrannu. I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau sydd ar waith ledled Gogledd Cymru, ewch i: Our Developments – Clwydalyn



