Mae cymdeithas dai ClwydAlyn sydd â’i bencadlys yn sir Ddinbych wedi ennill un o wobrau pwysig y diwydiant, sef ‘Cynnwys Tenantiaid wrth Gynllunio neu Adolygu Gwasanaethau’ yng ngwobrau cenedlaethol Arfer Da TPAS Cymru. Enillodd y wobr am gyflwyno dull gweithredu arloesol i gyflymu gwaith cynnal yn nhai preswylwyr.
Derbyniodd ClwydAlyn wobr ‘Cynnwys Tenantiaid wrth Gynllunio neu Adolygu Gwasanaethau’ yng ngwobrau TPAS Cymru, am ei Brosiect DIY Preswylwyr.
Cafodd y gwasanaeth ei ddatblygu a’i arwain gan breswylwyr sy’n aelodau o Bwyllgor Preswylwyr y sefydliad, ac mae’n canolbwyntio ar gynnig dewis cadarnhaol a phoblogaidd i leihau’r pwysau ar wasanaeth trwsio a chynnal prysur ClwydAlyn.
Roedd wedi dod yn amlwg bod rhai preswylwyr yn awyddus i wneud mân dasgau trwsio eu hunain, cyn belled â bod ganddynt y darnau cywir; fe wnaeth ClwydAlyn helpu preswylwyr i greu gwasanaeth ‘DIY’ effeithiol, sy’n hawdd i breswylwyr ei ddefnyddio petaent yn dymuno gwneud hynny.
Mae Gwasanaeth DIY Preswylwyr ClwydAlyn yn cael ei redeg drwy’r cyflenwr Travis Perkins, felly gall preswylwyr gasglu’r darnau mae eu hangen arnynt neu gellir eu danfon yn syth i’w cartrefi.
Mae’r cymdeithas dai flaengar hefyd wedi hyfforddi staff y Ganolfan Gyswllt i arwain preswylwyr drwy’r broses ac ateb unrhyw gwestiynau.
“Yn bwysig iawn, mae’r prosiect yn gwbl wirfoddol. Does dim pwysau i gymryd rhan, ac rydym yn egluro mai dewis yw hwn, nid disgwyliad. Y preswylwyr eu hunain wnaeth gyflwyno’r syniad ac mae wedi cael ei siapio ganddynt ar bob cam, felly mae’r diddordeb yn y prosiect a brwdfrydedd y preswylwyr wedi bod yn gwbl ddiffuant.
“Mae’r dull hwn wedi cryfhau’r berthynas rhwng ein tîm a’n preswylwyr. Mae wedi dangos pan fydd tenantiaid yn cael cyfle i gymryd rhan yn y broses o siapio gwasanaethau, bod y canlyniadau nid yn unig yn fwy effeithlon, ond maent yn grymuso pobl, yn fwy hyblyg, ac yn fwy dynol.”
I sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu anghenion y gymuned, aeth ClwydAlyn ati i greu’r broses gynllunio a threialu ar y cyd â’r Pwyllgor Preswylwyr a’r grŵp mwy o faint Dylanwadwch Arnom ni, sydd â dros 150 o aelodau ac sy’n cynnig adborth parhaus am eu profiadau fel preswylwyr.
Ers ei lansio, mae’r Prosiect DIY Preswylwyr wedi hwyluso dros 400 o dasgau trwsio bach, sydd wedi cael eu cwblhau gan breswylwyr. O ganlyniad:
- Mae Tîm Cynnal ClwydAlyn wedi gallu rhoi sylw i dros 400 o dasgau eraill yn gynt, gan leihau amseroedd aros i breswylwyr y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt.
- Mae fflyd ClwydAlyn wedi teithio 4,000 o filltiroedd yn llai, gan olygu 1,030 tunnell yn llai o allyriadau CO₂, cam cadarnhaol tuag at ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy.
- Mae ClwydAlyn wedi rhoi gwerth dros £8,000 mewn talebau i breswylwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan a chyfrannu i’r gymuned ehangach.
I gael rhagor o wybodaeth am ClwydAlyn, ewch i: Tai ClwydAlyn Gogledd Cymru