Mae Grace Luwemba Kamwendo, mam i dri o blant a nyrs o’r Rhyl, yn benderfynol o ddefnyddio ei gwybodaeth a’i hangerdd dros dyfu bwyd i annog mwy o bobl i ymddiddori mewn prosiectau garddio a rhandiroedd cymunedol lleol.
Mae Grace Luwemba Kamwendo wedi mwynhau meithrin planhigion a thyfu ei bwyd ei hun ers ei bod yn blentyn. Cafodd ei magu yn ardal wledig Zomba Thondwe, Malawi lle’r oedd wrth ei bodd yn gofalu am y ffrwythau a llysiau ar y fferm deuluol.
Ers iddi symud i’w chartref presennol ym mis Tachwedd 2024, mae Grace wedi cael cymorth ei phlant Hannah, Hilda ac MJ, yn ogystal â rhai o’u ffrindiau, i greu gardd sy’n llawn dop o lysiau maethlon; cêl, pwmpenni, bresych, tomatos, ciwcymberau a llawer mwy! Mae Grace a’i phlant yn mwynhau plannu’r hadau a gweld y llysiau ffres yn ymddangos ac maent yn canolbwyntio ar dyfu cynnyrch y gallant ei ddefnyddio yn eu prydau bob dydd.
Yn ogystal â chadw gardd lysiau yn ei chartref, mae Grace yn awyddus i rannu ei brwdfrydedd a’i harbenigedd. Mae ei chariad at dyfu bwyd wedi ysbrydoli Grace i gymryd rhan mewn sawl datblygiad cymunedol lle mae hi’n gwirfoddoli ac yn rhannu ei gwybodaeth, gan gynnig arweiniad ar randiroedd a phrosiectau garddio lleol.
Symudodd Grace i eiddo ClwydAlyn yn 2024. Ar ôl cyfarfod Ricky Markendale ar hap, pan esboniodd Grace ei bod wrth ei bodd yn tyfu bwyd, mae hi wedi bod yn allweddol wrth helpu Tîm Datblygu Cymunedol ClwydAlyn i sefydlu rhandir yn Garden City. Sefydlwyd prosiect y rhandir ger datblygiad tai Northern Gateway yng Nglannau Dyfrdwy er mwyn i’r gymuned gyfan gymryd rhan. Grace sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r gwaith o ddewis a phlannu’r amrywiaeth o lysiau a phlanhigion gwydn. Dewisodd blanhigion sy’n addas i ddechreuwyr fel bod pawb yn gallu ymuno, ni waeth faint o brofiad neu sgiliau oedd ganddynt yn y maes.
Fel gwirfoddolwr ymroddedig, ar hyn o bryd mae Grace yn helpu gyda chynllun rhandir Dyfodol Disglair yn y Rhyl, ochr yn ochr â Penny Pearce-Whitby a Phrosiect Garddwr y Cod Post. Mae hi hefyd yn rhoi cymorth i’r ardd gymunedol yng Nghanolfan Menywod Gogledd Cymru ar Stryd y Dŵr yn y Rhyl. Mae Grace yn gwybod yn union pa lysiau a ffrwythau fydd yn tyfu mewn gwahanol amodau. Yn ogystal â hyn, mae hi’n gogydd brwd ac yn credu’n gryf mewn tyfu llysiau i’w defnyddio’n syth o’r ardd i’r bwrdd. Bydd yn defnyddio llawer o’r cynnyrch mae hi’n ei dyfu yn ei ryseitiau ac mae hi’n rhannu cynnyrch dros ben gydag aelodau o’i chymuned leol. Mae Joe, partner Grace, a’i mam hefyd yn mwynhau’r cynnyrch blasus mae hi’n ei gasglu o’r ardd ac maent yn ei galw’n ‘Madam Tipsoil’.
Os hoffech wybod sut gallech chi gymryd rhan mewn rhandir neu brosiect garddio lleol, cysylltwch â:
I wirfoddoli gyda Phrosiect Garddwr Cod Post y Rhyl cysylltwch â Dyfodol Disglair: brighterfuturesrhyl.co.uk – Brighter Futures Rhyl
Mae Canolfan Menywod Gogledd Cymru yn chwilio am Wirfoddolwyr Garddio i helpu’r Clwb Garddio ar brynhawn Llun. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Lucy: Lucy.Chard@northwaleswomenscentre.co.uk
I gymryd rhan ym mhrosiect ClwydAlyn, Rhandir Cymunedol Garden City, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, e-bostiwch: Hannah Burton Hannah.Burton@clwydalyn.co.uk neu Ricky Markendale Ricky.Markendale@clwydalyn.co.uk

