Skip to content

Mae Alex, Hannah ac Emma (graddedigion o’r chwith i’r dde) yn dathlu llwyddiant proffesiynol a phersonol enfawr wrth iddynt raddio o gynllun interniaethau DFN Project Search gyda chymdeithas dai ClwydAlyn o Sir Ddinbych.

Dros y deg mis diwethaf, mae’r interniaid Alex, 32 oed, Hannah, 29 oed ac Emma, 22 oed, wedi torchi eu llewys ac ymgymryd â her enfawr. Mae DFN Project Search yn rhaglen sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac mae’n helpu oedolion ifanc ag anawsterau dysgu neu awtistiaeth i dreulio blwyddyn gyda sefydliad. Nod y rhaglen, sy’n cael ei gweinyddu drwy bartneriaeth rhwng dwy elusen, DFN a Hft, yw paratoi pobl ar gyfer y gweithlu gan feithrin sgiliau bywyd, gwella hyder ac annog annibyniaeth.

Mae Emma a Hannah wedi ffynnu yn eu lleoliadau gyda’r tîm arlwyo yn Llys Raddington, un o gynlluniau byw’n annibynnol ClwydAlyn i breswylwyr hŷn. Mae Alex wedi gwneud yn wych yn ei leoliadau gwaith yn y ganolfan ailgylchu ac yn fwy diweddar mewn rôl adwerthu gydag un o bartneriaid y contract, Travis Perkins.

Wrth i’r interniaid ymuno â thîm ClwydAlyn i ddathlu, maent yn symud ymlaen i’r dyfodol gyda chymhwyster uchel ei barch, llawer o brofiad ymarferol, a theimlad braf am yr hyn y gallant ei gyflawni.

Bu’r tri yn sôn am eu profiad o gymryd rhan yn rhaglen DFN Project Search a sut mae’r cyfleoedd yn ystod y flwyddyn wedi eu helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol; mae hyder a sgiliau yn bwysig iawn i’r tri sydd wedi graddio.

“Rwy’n argymell Project Search yn bendant. Rwy’n teimlo fy mod yn llawer mwy hyderus ers dechrau ar y rhaglen.”
Alex
Project Search Graduate
"Fe wnes i ymuno â Project Seach gan fy mod am gael rhagor o brofiad gwaith, er mwyn cael swydd a byw’n annibynnol. Mae’r rhaglen wedi rhoi cyfle i mi gael mwy o brofiad a dysgu sgiliau newydd, ac mae wedi gwella fy hyder.”
Hannah
Project Search Graduate
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn eisiau ei wneud, ond ar ôl bod ar leoliad yn y caffi, rwyf nawr yn gwybod beth rwyf am ei wneud! Mae Project Search wedi bod o help mawr i wella fy hyder.”
Emma
Project Search Graduate

Wrth galon rhaglen DFN Project Search mae’r awydd i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn, a rhoi cyfle i gyflogwyr weld hynny hefyd. DFN sy’n arwain y rhaglen Project Search arbenigol ac mae Hft yn cynnig cymorth cyflogaeth a chymorth parhaus yn y swydd yn ogystal â darparu hyfforddwyr cyflogadwyedd a chymorth dilynol pan fydd pobl yn chwilio am swyddi, yn ysgrifennu CV, a llawer mwy.

“Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli’n fawr iawn gan ein tri intern eleni!
“Maen nhw wedi dysgu llawer o sgiliau newydd yn eu lleoliadau gwaith; maen nhw wedi cael cyfleoedd i ddysgu wrth weithio mewn rolau gwahanol, gan ddod ag agwedd ffres i’r gweithle a’n hatgoffa beth gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn ymroi i rywbeth!
“Llongyfarchiadau Alex, Hannah ac Emma; rydyn ni’n falch iawn ohonoch.”

Annie Jackson
Arbenigwr Cyflogadwyedd ClwydAlyn
“Rydyn ni’n hynod o falch o’r interniaid sydd wedi graddio eleni, maen nhw wedi dangos brwdfrydedd a phenderfyniad i lwyddo yn eu lleoliadau, ac maen nhw wedi dod o hyd i swyddi yn sgil hyn.
“Bydd tîm cyflogaeth â chymorth Hft yn dal i gynnig hyfforddiant a chymorth i’r graddedigion gan gynnig cymorth yn y gwaith a chymorth parhaus i’r rhai sy’n chwilio am swydd.
“Dyma’r chweched flwyddyn i ni gydweithio gyda ClwydAlyn ar yr interniaeth hon, sydd wedi mynd o nerth i nerth. Mae hyfforddwyr a thiwtoriaid cyflogadwyedd Hft yn rhan hollbwysig o’r interniaeth ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld twf a datblygiad ein graddedigion a’r camau cyffrous nesaf y bydd ein hinterniaid newydd yn eu cymryd ar raglen interniaeth 2025-2026 eleni.”
Julia Hawkins
Rheolwr Cyflogaeth â Chymorth Hft
“Mae gan Alex lygad da iawn am fanylion ac mae’n aelod staff cwrtais a chymwynasgar iawn. Mae wedi dod yn aelod gwerthfawr iawn o’r criw. Mae Alex yn glod i’w hun ac i’r tîm.”
James Lee
Rheolwr Cangen Travis Perkins, Queensferry

Ar ôl graddio, mae’r tri intern nawr yn barod i symud ymlaen i’w her nesaf. Mae Emma wedi derbyn swydd gyda Gwella, ac mae Alex yn dal i fwynhau ei leoliad gyda Travis Perkins.

I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project Search, a sut i ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun, ewch i: Home | DFN Project SEARCH

I gael gwybodaeth am y tîm cyflogaeth â chymorth a gweithio gyda Hft i ddarparu cyfleoedd gwaith, e-bostiwch: Julia.hawkins@hft.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am swyddi gwag presennol gyda ClwydAlyn ewch i: Cymraeg | ClwydAlyn