Mewn digwyddiad diweddar yn Wrecsam, a drefnwyd i rannu syniadau ei strategaeth corfforaethol sefydliadol, sy’n arwain y sector, cyflwynodd cymdeithas dai ClwydAlyn rhagor o fanylion am ei nod i roi diwedd ar dlodi; gan ychwanegu y byddai cefnogaeth gan lywodraeth leol a chenedlaethol, rhanddeiliaid, ac arweinwyr cymunedol yn hollbwysig er mwyn cyflawni ei amcanion.
Yn ddiweddar lansiodd cymdeithas dai ClwydAlyn, sydd â’i phencadlys yn Llanelwy, gynllun corfforaethol pum mlynedd newydd, sy’n canolbwyntio ar roi diwedd ar dlodi mewn cymunedau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Daeth Bwrdd y sefydliad a’r uwch dimau rheoli ynghyd i gyflwyno’r camau gweithredu’r cynllun corfforaethol yn ystod digwyddiad lle’r oedd nifer da o unigolion gwleidyddol amlwg, y llywodraeth, arweinwyr y trydydd sector, arweinwyr yn y maes, a gweithwyr tai proffesiynol yn bresennol.
Yn ystod y digwyddiad, yn ogystal â Phrif Swyddog Gweithredol ClwydAlyn, Clare Budden, bu pedwar o siaradwyr dylanwadol yn rhannu eu safbwyntiau ar argyfwng tlodi Cymru, gan gynnwys cyflwynydd Newyddion ITV Cymru Carole Green, Ken Perry o Do-Well, Carol Shillabeer Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Steffan Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan. Roedd pob siaradwr yn cefnogi pwyslais clir ClwydAlyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd, darparu cartrefi cynnes a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau y gall pawb gael gafael ar fwyd da, fforddiadwy yn eu cymunedau.
“Dros y pum mlynedd nesaf, ein nod yw troi ein gweledigaeth yn realiti i gynifer o bobl â phosibl a daeth y digwyddiad hwn â rhai o gefnogwyr rhagweithiol a dylanwadol ynghyd sydd wedi addo ein helpu ni i gyflawni ein nod.”
Dywedodd Ken Perry, Cyfarwyddwr Do-Well a chadeirydd y digwyddiad: “Yn ystod y digwyddiad heddiw, fe wnaethon ni glywed tystiolaeth pwerus a phoenus am raddfa ac effaith tlodi ar ein cymunedau; a sut mae’n byrhau ac yn lleihau ansawdd bywydau pobl.
“Nid bod yn arwr yw nod ClwydAlyn, yn hytrach, mae’n ceisio dod â phobl at ei gilydd i ystyried y materion parhaus hyn, deall y problemau sy’n gysylltiedig â thlodi, a gweithio gyda’n gilydd i’w datrys.”
Dywedodd Gohebydd ITV Cymru Wales Carole Green: “Mae tlodi yn realiti dyddiol i 1 o bob 3 plentyn yng Nghymru ac wrth i ni agosáu at etholiadau’r Senedd, bydd yr etholwyr yn edrych ymlaen i weld sut mae’r pleidiau yn mynd i newid y ffigyrau hyn.
“Mae llawer o waith da yn digwydd mewn cymunedau; mae newid cadarnhaol yn digwydd ar lawr gwlad sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Fy rôl yw adrodd am y straeon hyn; myfyrio ar wydnwch a gobaith teuluoedd a chymunedau ledled Gogledd Cymru ond hefyd herio ein cynrychiolwyr gwleidyddol i wneud yn siŵr na fydd unrhyw blentyn neu deulu yn cael eu gadael ar ôl.”
Mae 22% o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi (gan gynnwys 31% o blant). Mae ffigyrau diweddaraf Sefydliad Joseph Rowntree o’i Adroddiad Tlodi yng Nghymru (Mehefin 2025) yn awgrymu nad oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud i leihau tlodi am ddau ddegawd. Dywedodd Steffan Evans o Sefydliad Bevan fod nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi difrifol, neu dlodi difrifol iawn yng Nghymru, wedi cynyddu.
O ganlyniad i’r digwyddiad, mae llawer o’r rhai a oedd yn bresennol wedi addo defnyddio eu dylanwad, eu gwybodaeth proffesiynol a’u harbenigedd i ehangu cenhadaeth gorfforaethol ClwydAlyn, ‘Gyda’n gilydd, byddwn yn rhoi diwedd ar dlodi’.
Mae ClwydAlyn, sy’n rheoli ac yn berchen ar dros 7,000 o gartrefi ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Wrecsam, Powys, ac Ynys Môn, yn annog staff a rhanddeiliaid i fyw ac arwain ar ei werthoedd corfforaethol; ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.clwydalyn.co.uk














