Mae ClwydAlyn, y darparwr tai cymdeithasol, newydd gyhoeddi ei Adroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ACLl) newydd ar gyfer 2024-2025. Mae’r adroddiad, sy’n dangos tystiolaeth o lwyddiant y sefydliad, nawr ar gael i’w lawrlwytho.
Mae ClwydAlyn, sydd â’i bencadlys yn Llanelwy, yn darparu tua 6,800 o gartrefi diogel a chynnes ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae adroddiad ACLl newydd y landlord cymdeithasol yn rhoi manylion am effaith barhaus ei waith, ac yn dangos tystiolaeth o effaith gadarnhaol y sefydliad ar unigolion, cymunedau, y gymdeithas a’r amgylchedd. Cyhoeddir yr adroddiad yn fuan ar ôl cyhoeddi cynllun corfforaethol pum mlynedd ClwydAlyn, sy’n amlinellu ei phrif weledigaeth; ‘Gyda’n gilydd byddwn yn rhoi diwedd ar dlodi’.
Fel rhan o’r adroddiad, dangosodd ClwydAlyn sut mae’r sefydliad yn mynd i’r afael â materion amgylcheddol a nodau cynaliadwyedd gan ddefnyddio mesurau fel gosod paneli solar, systemau gwresogi isgoch, paratoi ar gyfer peryglon hinsawdd, gwella mannau gwyrdd, defnyddio llai o ddŵr a rhoi sylw i sylweddau peryglus.
Mae’r adroddiad ACLl hefyd yn cadarnhau bod mynd i’r afael â fforddiadwyedd a diogelwch tai wedi bod yn allweddol bwysig i ClwydAlyn. Mae hyn yn cynnwys darparu cartrefi cynnes, diogel, blaenoriaethu ansawdd adeiladau, rhoi sylw i damprwydd, llwydni ac anwedd, rhoi cyfle i breswylwyr leisio eu barn a sicrhau eu bod yn fodlon, a gweithredu ar adborth preswylwyr.
YSTADEGAU A FFEITHIAU ALLWEDDOL O ADRODDIAD ACLl CLWYDALYN:
Yn ystod y cyfnod 12 mis dan sylw yn yr adroddiad, mae ClwydAlyn wedi:
- Buddsoddi £4.5 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni ei gartrefi
- Croesawu 649 o breswylwyr newydd
- Uwchraddio 387 o gartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni
- Sicrhau bod 74% o’r defnyddiau a ddefnyddir o ffynonellau adnewyddadwy
- Atal 97% o’i wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi
- Cwblhau 308 o gartrefi newydd
- Cyfrannu gwerth dros £4,000 o fwyd i fanciau bwyd lleol
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi adroddiad ACLl eleni a rhoi sylw i’r cynnydd rydym yn ei wneud tuag at ein gweledigaeth barhaus i fynd i’r afael â thlodi yn y rhanbarth.”
Mae Adroddiad ACLl ClwydAlyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn: